Mae Siân Howys o Gymdeithas yr Iaith yn dadlau safonau yr iaith Cymraeg
Mae Cymdeithas yr Iaith wedi bod yn ymgyrchu dros Ddeddf Iaith newydd ers y flwyddyn 2000. Pwy a ŵyr faint o ymgynghoriadau, protestiadau a chyfarfodydd rydyn ni wedi eu cynnal yn ystod yr amser yna er mwyn cael y maen i’r wal.
Yn 2007, fel rhan o’r ymgyrch, cyhoeddon ni ein Mesur Iaith Gymraeg ein hunain gan osod hawliau ar flaen y ddogfen, ynghyd â sicrhau statws swyddogol i’r iaith. Ar ôl blynyddoedd o ymgyrchu pasiwyd Mesur y Gymraeg 2011. Llwyddodd y Gymdeithas, ynghyd ag eraill fel Mudiadau Dathlu’r Gymraeg, i sicrhau statws swyddogol clir, diamod i’r iaith (buddugoliaeth fawr i’r mudiad iaith o gofio mai dyna oedd neges y placardiau ar bont Trefechan ymhell yn ôl ym 1963), ond nid oedd hawliau iaith cyffredinol wedi eu gosod yn y Mesur.
Yn dawel bach ar 6 Ionawr eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru eu set gyntaf o Safonau Iaith drafft eu hunain, wedi iddynt wrthod dau ddrafft cyntaf Comisiynydd y Gymraeg. Wedi blynyddoedd o ymgyrchu dros hawliau iaith a deddf iaith, a oedd y cyhoeddiad yn gam ymlaen?
Cymhlethdod ac Aneglurder i’r Cyhoedd
Yn ôl Llywodraeth Cymru, bydd y safonau iaith yn arwain at hawliau clir i’r cyhoedd. Mae hynny’n bwynt diddorol o gofio hanes diweddar y safonau. Fe fyddwch chi’n cofio bod fersiwn diweddaraf Comisiynydd y Gymraeg o’r safonau (yn ôl ym mis Tachwedd 2012) wedi cael eu gwrthod gan y Gweinidog ar y pryd, Leighton Andrews, ac mai un o “resymau” y Llywodraeth am eu gwrthod oedd eu bod yn “rhy gymhleth”. Syndod, felly, oedd gweld bod y Llywodraeth wedi cyhoeddi rhestr o 134 safon – o gymharu â 34 y Comisiynydd. A fydd pobl yn cael eu grymuso i ddefnyddio eu Cymraeg gyda safonau mor gymhleth? Mae’n annhebyg iawn. Y perygl yw y byddwn ni yn yr un sefyllfa ag oedd ganddon ni gyda chynlluniau iaith, a neb yn gwybod am eu hawliau a phobl felly yn annhebyg o ddefnyddio eu Cymraeg.
Galla i eich sicrhau chi nad yw’r safonau yn syml nac yn glir. Mewn gwirionedd, bydd y ddogfen yn gwneud gwaith y sefydliadau yn hawdd, trwy roi dewis rhwng gwahanol lefelau o ddarpariaeth, ond maen nhw’n gymhleth o safbwynt pobl gyffredin sydd eisiau gwybod beth yw eu hawliau a pha wasanaethau y gallan nhw eu disgwyl.
Mae’r Llywodraeth a’r Comisiynydd wedi cymhlethu pethau ymhellach drwy ryddhau’r safonau fesul cam – dim ond ar y Llywodraeth ei hunan, cynghorau sir a pharciau cenedlaethol y bydd y set gyntaf yma o safonau yn effeithio. Rydyn ni’n dal i ddisgwyl, felly, am y cyfle i weld hawl i ofal iechyd Cymraeg yn y safonau ar gyfer byrddau iechyd, ac i weld a fydd y Llywodraeth yn delio â’r sector breifat o gwbl.
Bwlch: contractio gwasanaethau
Mae’n ymddangos bod y Llywodraeth wedi anghofio llunio safonau i sicrhau bod gwaith mae cwmnïau preifat yn ei wneud ar ran cyrff cyhoeddus yn gorfod cydymffurfio â’r safonau. Mae hyn er gwaetha’r ffaith bod cynlluniau iaith yn cynnwys amodau ynghylch contractio, a bod mwy a mwy o wasanaethau fel meysydd parcio a phyllau nofio yn cael eu darparu trwy dendro. Yn wir, mae bron i draean o wariant cyhoeddus Cymru yn digwydd drwy gontractio gwasanaethau i gwmnïau preifat a chyrff eraill erbyn hyn. Mae’n hanfodol cywiro’r bwlch enfawr yma yn safonau iaith y Llywodraeth felly – fel arall gallai cyfundrefn y safonau fod hyd yn oed yn fwy aneffeithiol na chyfundrefn y cynlluniau iaith.
Beth am y sector breifat?
Byddai’n fater o bryder pe bai’r Comisiynydd yn penderfynu peidio â datgan yn glir pryd y bydd cwmnïau fel y sector telathrebu fel cwmnïau ffôn symudol a chyfleustodau fel y gwasanaethau post ac ynni yn gorfod cydymffurfio â’r safonau. Yn eu strategaeth iaith mae’r Llywodraeth wedi addo’n ddiflewyn ar dafod y byddan nhw’n gosod safonau ar y sectorau preifat a gwirfoddol yn ogystal â’r sector gyhoeddus. Byddai’n rhyfedd felly pe na bai’r Comisiynydd yn gwneud datganiad cwbl glir am ei bwriad i osod safonau ar y sectorau preifat newydd hyn, yn unol ag ymrwymiad y Llywodraeth.
Croesawu gwersi nofio yn Gymraeg
Mae’r Llywodraeth wedi symud hanner ffordd at geisio cynnig cyrsiau a hyfforddiant, fel gwersi nofio yn Gymraeg. Fodd bynnag, mae’r Gymdeithas yn mynnu y dylai hyn fod yn hawl i bob plentyn yng Nghymru yn hytrach nag yn loteri cod post. Mater o hawl i bob un o ddinasyddion Cymru yw cyrsiau hyfforddiant a hamdden fel gwersi nofio yn Gymraeg, nid mater o hap a damwain daearyddol.
Gwannach na chynlluniau iaith?
Mae’r ddogfen yn caniatáu dewis rhwng sicrhau bod pob tudalen we ar gael yn Gymraeg, neu sicrhau bod pob tudalen we newydd ar gael yn Gymraeg. Llwyddodd ein haelodau yn Nhorfaen i gyflawni mwy, o ran addewid am wasanaethau ar-lein gan y cyngor lleol, na’r hyn a gynigir gan y safonau. Unwaith eto, mae’n glir bod ewyllys y bobl yn gryfach nag ewyllys ein gwleidyddion. Byddai’r safonau hyn yn caniatáu i Gyngor Casnewydd, yr unig gyngor sir yn y wlad heb wefan ddwyieithog, symud yn ôl at addo y bydd gwefan lawn ddwyieithog ar gael “yn fuan”. Rwy’n siŵr y bydd y Prif Weithredwr yn dathlu’r safonau’n wresog. I ymgyrchwyr y Gymdeithas yn Nhorfaen a Chasnewydd, bydd hyn yn newyddion drwg iawn.
Mae’r enghreifftiau uchod, a’r ffaith bod y safonau yn galluogi awdurdodau i ddewis darparu gwasanaeth ffôn anghyflawn, yn golygu bod peryg y gallai’r safonau gynnig llai na chynlluniau iaith a Deddf Iaith 1993. O ganiatáu hynny, byddai’r Prif Weinidog yn torri ei addewid i beidio cynnig opsiynau sy’n llai na’r hyn a gynigir gan gynlluniau iaith. Ysgrifennodd lythyr at y Gymdeithas y llynedd lle dywedodd:
“Rwyf hefyd yn cytuno y dylai’r safonau sy’n cael eu gosod ar gyrff cyhoeddus, fel isafswm, sicrhau bod y lefel o wasanaethau Cymraeg sy’n cael eu cynnig gan gyrff ar hyn o bryd yn parhau.”
Rhywbeth arall sydd ar goll yn y safonau yw haen uwch a fydd yn galluogi’r Comisiynydd i sicrhau bod rhagor o gyrff yn gweinyddu’n Gymraeg fel Cyngor Gwynedd. Bydd hynny’n ergyd i’r Gymraeg ac yn siom i’n haelodau yng Ngheredigion, lle roedd addewid gan arweinydd y Cyngor i symud at weinyddiaeth fewnol Gymraeg, addewid sydd heb ei wireddu.
Rhaid pwysleisio bod yn rhaid i Aelodau Cynulliad basio’r safonau iaith, ac felly bod cyfle iddynt eu gwella a’u cryfhau cyn iddynt ddod i rym. Bydd
pleidlais ar lawr y Cynulliad cyn diwedd y flwyddyn. Felly, yn nwylo Aelodau Cynulliad y bydd un o’r penderfyniadau pwysicaf am y safonau – penderfyniad a fydd yn llywio tynged y Gymraeg dros y pymtheng mlynedd nesaf a mwy. Mae ganddyn nhw’r cyfle i sicrhau bod rhagor o bobl, yn enwedig y genhedlaeth nesaf, yn cael byw yn Gymraeg.
Comments are closed.