Mae Ffred Ffransis yn dweud fod addysg iath Gymraeg i rai’n mynychu ysgolion cyfrwng Saesneg yn methu.
Yng Nghymru heddiw, mae’n system addysg ni yn creu dinasyddion eilradd. Bydd rhai, oherwydd natur eu haddysg, yn cael eu hamddifadu o sgil addysgol hanfodol oherwydd hap a damwain daearyddol, eu sefyllfa ariannol, neu ddewis eu rhieni.
Dyna’r sefyllfa. Mae mwyafrif helaeth ein pobl ifanc yn annhebygol iawn o fedru’r Gymraeg wrth adael ysgol, ac felly ni fydd modd iddynt gyfathrebu na gweithio yn y Gymraeg, iaith a ddylai fod yn etifeddiaeth i ni i gyd.
Rwy’n ysgrifennu fel un o’r bobl hynny na chafodd y fraint o addysg cyfrwng Cymraeg ond a ddysgodd yr iaith fel oedolyn – ond eithriad prin ydw i. O’r miloedd sy’n dechrau dysgu fel oedolyn – dim ond 1% sy’n llwyddo i ddod yn rhugl. Felly, i dros dri chwarter ein plant, mae addysg yn gyfystyr â dedfryd oes o beidio gallu cyfathrebu’n effeithiol yn Gymraeg o dan y drefn bresennol.
Ar hyn o bryd, mae 21% o bobl ifanc Cymru yn mynd i ysgolion Cymraeg, ac maen nhw’n gadael yr ysgol gyda’r gallu i gyfathrebu a gweithio mewn dwy iaith – y Gymraeg a’r Saesneg. Ar y llaw arall, o blith y 79% o bobl ifanc ein gwlad sy’n mynd i ysgolion cyfrwng Saesneg, prin iawn iawn yw’r disgyblion sy’n llwyddo i gaffael yr iaith Gymraeg drwy’r system honno.
Mae’r cyhoedd eisiau unioni’r anghyfiawnder hwnnw. Yn ôl arolwg barn a gomisiynwyd gan YouGov, mae 63% o bobl Cymru yn cytuno â ni na ddylid amddifadu unrhyw ddisgybl o’i etifeddiaeth a’r sgil addysgol o fedru cyfathrebu a gweithio yn Gymraeg ac yn Saesneg. Nid yw’n deg bod y drefn bresennol yn gosod cyfran helaeth o’n disgyblion dan anfantais.
Mae’r disgyblion mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn derbyn addysg Gymraeg ail iaith – maen nhw’n dysgu’r iaith fel pwnc, yn debyg i’r ffordd mae ieithoedd tramor yn cael eu haddysgu. Mae adroddiad annibynnol gan yr Athro Sioned Davies, a gafodd ei gomisiynu gan Lywodraeth Cymru, wedi beirniadu’r gyfundrefn hon yn hallt. Wrth gyfeirio at y ffordd mae’r Gymraeg yn cael ei dysgu mewn ysgolion Saesneg, dywed yr adroddiad: “Os ydym o ddifrif ynglŷn â datblygu siaradwyr Cymraeg a gweld yr iaith yn ffynnu, rhaid newid cyfeiriad, a hynny fel mater o frys cyn ei bod yn rhy hwyr… Ni ellir gwadu ei bod yn unfed awr ar ddeg ar Gymraeg ail iaith.”
Mae rhai yn dadlau ei bod yn iawn mai dim ond rhai sy’n cael cyfle teg i ddysgu Cymraeg, y rhai sy’n ffodus yn ddaearyddol gan mai ysgol Gymraeg yw’r ysgol leol, neu sy’n ffodus yn ariannol gan fod eu rhieni yn gallu fforddio cost teithio ychwanegol, neu’n ffodus bod ganddyn nhw rieni sy’n ymwybodol bod modd cael addysg cyfrwng Cymraeg. Mae grwpiau rhieni, nifer fawr gyda chymorth hynod o bwysig mudiad Rhieni dros Addysg Gymraeg, yn brwydro’n llwyddiannus mewn rhai achosion i gael lleoedd i’w plant mewn ysgolion Cymraeg.
Mae’n rhaid i ni godi’r cwestiwn – ydy’r sefyllfa hon yn iawn? A ddylai fod rhaid i rieni frwydro dros hawl eu plant i ddysgu Cymraeg? Ydy hi’n iawn bod rhai plant, oherwydd diffyg gwybodaeth eu rhieni, oherwydd lle maen nhw’n byw neu oherwydd diffyg arian yn cael eu cau allan o’r Gymraeg am weddill eu bywydau?
Rydyn ni’n ateb yn ddiamwys – dyw hi ddim yn iawn. Dyw hi ddim yn gyfiawn.
Mae’r sefyllfa hon yn cau rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig allan o nifer o gyfleoedd gwaith a diwylliannol ac etifeddiaeth gyffredin i ni i gyd, sef ein hiaith genedlaethol unigryw. Mae dogfennau polisi Llywodraeth Cymru yn datgan yn gwbl glir mai addysg cyfrwng Cymraeg yw’r ffordd orau o sicrhau bod plant yn caffael y Gymraeg.
Mae rhai, a rhai yn y Llywodraeth, yn dadlau mai mater o ddewis yw addysg Gymraeg. Rydyn ni yng Nghymdeithas yr Iaith Gymraeg yn anghytuno. Rydyn ni’n credu ei bod yn hawl i bob plentyn allu gweithio a chyfathrebu yn Gymraeg – ni ddylai ddibynnu ar fympwy dewis rhieni, neu ddibynnu ar faint o arian sydd gan rywun, neu ddibynnu ar hap a damwain daearyddol.
Rydyn ni’n cytuno ag argymhellion grŵp yr Athro Sioned Davies, sef bod angen symud ar hyd un continwwm o ddysgu Cymraeg, fel bod pob plentyn yn cael o leiaf beth o’u haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â dysgu’r iaith fel pwnc – pa ysgol bynnag mae plentyn yn ei mynychu. Er enghraifft, drwy gael gwersi technoleg gwybodaeth yn Gymraeg. O ganlyniad byddai’r term “Cymraeg ail iaith” yn cael ei ddileu. Yn lle hynny, byddai defnydd o’r Gymraeg ar draws y cwricwlwm, er mwyn ehangu defnydd o’r Gymraeg fel cyfrwng addysgu mewn ysgolion cyfrwng Saesneg; a byddai targedau i sicrhau mwy o ddysgu cyfrwng Cymraeg ar draws y cwricwlwm mewn ysgolion cyfrwng Saesneg.
Mae gwersi ar gyfer sut rydyn ni’n dysgu ieithoedd eraill mewn ysgolion hefyd. Mae tystiolaeth gynyddol, yn hytrach na bod yn llyffethair, bod dwyieithrwydd yn fuddiol iawn o ran datblygiad gwybyddol unigolion a bod caffael sawl iaith yn fuddiol mewn llawer iawn o ffyrdd. Dylen ni fod yn disgwyl i’n system addysg adeiladu ar y fantais sydd gyda ni gyda dwy iaith yn y wlad, gan ddatblygu addysg dairieithog hefyd. Gall Cymru arwain y ffordd ynghylch dysgu rhagor o ieithoedd i’n plant, a hynny i safon llawer uwch.
Os ydyn ni am i’r Gymraeg ffynnu yn y blynyddoedd i ddod, mae’n rhaid i ni drawsnewid y sefyllfa bresennol fel bod y Gymraeg yn dod yn etifeddiaeth i bob un sy’n dewis gwneud Cymru yn gartref iddyn nhw, nid y rhai ffodus yn unig. Os hoffech chi gefnogi’r ymgyrch, gallwch chi lofnodi’n datganiad yma: www.cymdeithas.org/
Comments are closed.