Lleu Williams yn trafod manteision ac anfanteision o gael bar ar faes yr Eisteddfod.
Mae hi dros ddegawd bellach ers i’r Eisteddfod Genedlaethol agor bar ar y maes gyda Eisteddfod Casnewydd 2004 yr un cyntaf i werthu alcohol. Bu cryn dipyn o gwestiynu y newid polisi yma ar y pryd ond erbyn heddiw mae gwerthu alcohol ar y maes yn rhan allweddol o unrhyw Eisteddfod Genedlaethol.
Yn ôl adroddiad gwerthuso yr Eisteddfod yn 2014 mae Llwyfan y Maes (sef ardal y bar) nawr yn rhan “annatod o’r adloniant sydd ar gael yn ystod y dydd a chyda’r nos.” Mae hyn yn ddigon clir i unrhyw un sydd wedi mentro i’r Bar Gwyrdd ar ddiwedd pnawn caled o ‘steddfota.
Eisteddfod Sir Gâr yn Llanelli y llynedd oedd y tro cyntaf i’r Eisteddfod ddychwelyd i’r dref ers cyn cyflwyno’r bariau i faes yr Eisteddfod. Cafodd Meifod yr un profiad eleni. Yn y ddwy Eisteddfod hon yr hyn wnaeth fy nharo i oedd cymaint roedd tafarnwyr lleol yn sôn am ba mor dawel oedd hi arnyn nhw yn ystod wythnos yr Eisteddfod o gymharu â’r tro diwethaf yr oedd y brifwyl yn y fro.
Mae’n hen hanes bod yr Eisteddfod yn dod â llu o fuddion economaidd i unrhyw ardal leol. Mae rhain yn cynnwys gwariant lleol, pobl yn aros mewn gwestai ac ati, ond mae’n eithaf amlwg dros yr eisteddfodau diwethaf bod tafarnwyr lleol yn dechrau dioddef.
Yn ôl un person yn Meifod eleni fues i’n siarad â nhw, y tro diwethaf i’r brifwyl fod yn Meifod roedd nifer y rhai oedd yn yfed yn y dafarn yn llifo allan i’r brif heol a doedd dim lle i symud yn y dafarn. Rhannwyd sawl stori tebyg yn Llanelli llynedd pan yn cymharu â’r Brifwyl yn 2000. Cymharwch hynny ag Eisteddfod Meifod eleni, prin oedd yr Eisteddfodwyr oedd er enghraifft mewn tafarn yn y pentref. Am gyfnod dim ond pedwar ohonom oedd yno.
Mae’n eithaf amlwg i mi felly – ac i’r rhai y buais i’n siarad â nhw ar y maes eleni – bod yna broblem. Rydym ni i gyd wedi ei wneud. Prynu tocyn i’r maes, ac aros ar y maes gyda’r hwyr. Does dim angen gadael pan mae yna ddetholiad o gwrw, bwyd o bedwar ban byd a cherddoriaeth wych yn chwarae. Y cyfan yng nghwmni hen ffrindiau. Be well? Wi wedi bod yn ei wneud bob blwyddyn. Ond canlyniad hyn oll yw bod tafarnau lleol (llawer yn wynebu nifer o broblemau economaidd yn barod) yn colli allan. Ac o beth wela i, colli allan yn ddifrifol i gymharu â tro diwethaf.
Dylid nodi bod yna rai sydd wrth gwrs yn sicrhau bod yna yfed yn digwydd mewn tafarnau lleol. Yn sicr fe wnaeth Clwb Rygbi Ffwrnes yn Llanelli (fy hen glwb i gyda llaw) a Chlwb Rygbi y COBRA ym Meifod gael budd mawr o gynnal gigs Cymdeithas yr Iaith. Ond dyw hyn yn ddim i gymharu ag eisteddfodau’r gorffennol lle byddai eisteddfotwyr lu yn mentro i’r pentrefi a threfi lleol i gael peint, bwyd a chymdeithasu. Mae’r hen arfer yma wedi marw bron.
Gyda chymunedau yng Nghymru yn codi hyd at ryw £300,000 i gynnal yr Eisteddfod, mae’n bwysig dangos bod yna fudd economaidd i gynnal yr ŵyl. Mae hyn yn cynnwys gwariant mewn tafarnau a bwytai lleol. Os na fydd yna gefnogaeth o’r fath yn y dyfodol, poeni ydw i pan ddaw hi i ofyn am gefnogaeth y cymunedau hyn yn y dyfodol, mai troi cefn fydd rhai.
Beth yw’r ateb fan hyn? Rwy’n ansicr iawn am ateb penodol. Ai cyfyngu ar nifer oriau bariau’r steddfod h.y. eu cau am 6pm? Gwahodd tafarnau lleol i sefydlu bariau pop up ar faes y steddfod a’r maes carafanau? Neu – yr opsiwn eithafol – cael gwared ar y bar ar y maes yn gyfan gwbl?
Bu sôn dros y penwythnos diwethaf mai un opsiwn ar gyfer Eisteddfod 2018 yn y brifddinas yw ei chynnal mewn gwahanol adeiladau ar draws Caerdydd. A fyddai’r model yma yn gorfodi pobl i fynd i lefydd gwahanol? Pwy a ŵyr, ond mae’n bendant yn syniad gwerth ei drafod.
Yn ôl yr Athro Terry Stevens yn ei adroddiad Yr Eisteddfod Genedlaethol: Y Ffordd Ymlaen (atodiad 4);
“Un o brif nodweddion yr Eisteddfod yw ei natur symudol. Mae hyn yn caniatáu i gymunedau ledled Cymru gynnal y digwyddiad, gan greu nifer o gyfleoedd i elwa yn ieithyddol, yn ddiwylliannol ac yn economaidd yn y tymor byr a chanolig.”
Mae’n rhaid edrych eto ar sut mae’r Eisteddfod yn creu cyfleoedd i gymunedau lleol elwa’n economaidd. Mae’n amlwg yn barod bod yna nifer o fuddion i westai, ond beth am y tafarndai a’r bwytai lleol? Efallai nad oes ‘na ateb perffaith ond fe ddylai’r mater gael ei ystyried gan yr Eisteddfod er budd dyfodol y brifwyl.
Comments are closed.