Mae ein hadroddiad ‘A Better Balance: Business Support for the Foundational Economy’, wedi’i baratoi fel rhan o brosiect cydweithredol y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) gyda CREW i edrych ar yr economi sylfaenol fel agenda polisi yng Nghymru.
Nod y prosiect hwn yw nodi cyfleoedd newydd ar gyfer llunwyr polisi i gryfhau’r economi sylfaenol yng Nghymru, gan hybu sefyllfa cwmnïau o Gymru a sicrhau bod gan y cyhoedd fynediad at nwyddau a gwasanaethau bob dydd o ansawdd uchel.
Mae’r adroddiad yn cyflwyno adolygiad o bolisi ac ymarfer o gwmpas Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru a’r cymorth uniongyrchol a ddarperir i gwmnïau gan Lywodraeth Cymru.
Rydym yn dod o hyd i dystiolaeth bod llawer o’r cymorth hwn yn cael effaith gadarnhaol ond mai dim ond lleiafrif o gwmnïau Cymru sy’n ei dderbyn, gan ei fod yn cael ei dargedu’n benodol at gwmnïau twf uchel ac at sectorau â blaenoriaeth er gwaethaf diffyg eglurder ynghylch sut y pennir blaenoriaethau ac am yr effeithiau penodol a ddisgwylir ar gyfer gwahanol fuddsoddiadau.
Mae hyn yn codi cwestiynau ynghylch pa mor dda y gall y rhaglenni hyn gyfrannu at gryfhau ‘canol coll’ cwmnïau yng Nghymru.
Mae ein hadroddiad yn galw ar lunwyr polisi i wneud y canlynol:
- Datblygu ymagwedd ddoethach at bolisïau’r sector sy’n rhoi mwy o sylw i gryfderau a gwendidau Cymru; ymagwedd wedi’i llywio gan ymgysylltu â chwmnïau a gan amrywiaeth ehangach o ffynonellau data;
- Ailystyried ‘cynhyrchiant’ fel ei fod yn cynnwys ansawdd allbynnau mewn sectorau sylfaenol, a buddsoddi yn y gwaith o ledaenu prosesau a thechnolegau newydd;
- Buddsoddi mewn ffordd sy’n cryfhau’r ecosystem entrepreneuraidd drwy annog cysylltiadau rhwng cwmnïau a drwy fod yn fwy hygyrch i fusnesau bach a microfusnesau;
- Sicrhau bod y strwythurau’n iawn, a gofalu bod gan bolisi datblygu economaidd elfen o gefnogaeth consensws a’i fod yn fwy hirhoedlog na Gweinidogion unigol, tra hefyd yn arallgyfeirio cyllid ar ôl Brexit.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma: ‘A Better Balance: Business Support for the Foundational Economy’
Mae crynodeb o’n canfyddiadau a’n hargymhellion ar gael yma.
Gwyliwch lansiad yr adroddiad yma: