Cymru, Y Daith i Sero Net: Mynd i’r afael â lliniaru newid yn yr hinsawdd drwy fuddsoddi’n gyflymach mewn seilwaith

Polly Thomas/IWA

Mae’r adroddiad newydd hwn, sy’n seiliedig ar drafodaeth bord gron a drefnwyd mewn partneriaeth ag Arup, yn nodi gweledigaeth ar gyfer buddsoddiad cyflymach mewn seilwaith yng Nghymru a fydd yn galluogi’r genedl i gyrraedd ei tharged o sero net erbyn 2050.

Er gwaethaf targedau uchelgeisiol a llu o fesurau i gyflymu’r symudiad i economi carbon isel, mae Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn methu â chyflawni’r cyflymder a’r raddfa o newid sy’n ofynnol gan her yr argyfwng hinsawdd. Nid yw’r genedl ar y trywydd iawn i gadw at ei chyllideb garbon ei hun, gyda Phwyllgor Newid Hinsawdd y DU (UKCCC) yn rhybuddio nad yw’r cynnydd presennol yn rhoi Cymru mewn sefyllfa dda mewn hinsawdd sy’n trawsnewid yn llwyr.

‘Mae seilwaith sero net yn her fawr a dybryd i Gymru. Mae’n un sy’n gofyn am symud nifer o actorion: llywodraeth, busnes, cymunedau a phobl. Mae hon hefyd yn foment drawsnewidiol, a ddaw â mwy o gyfleoedd economaidd na heriau gyda gweledigaeth a chyfeiriad priodol gan y Llywodraeth.’

Cover of our report 'Wales: The Journey to Net Zero'
Cymru, Y Daith i Sero Net (Saesneg) [PDF]
Ar ben hyn, mae polisi hinsawdd a sero net yn parhau i fod yn un lle mae ysgogiadau polisi a buddsoddiad yn disgyn ar ymyl setliad cyfansoddiadol ehangach Cymru â’r DU, fel y’i gelwir, gyda phenderfyniadau’n disgyn ar draws dwy ochr pont Hafren yn erbyn cefndir o gysylltiadau rhynglywodraethol anodd.

Bydd seilwaith wrth wraidd y gwaith o lunio Cymru yfory. Yn dilyn ymlaen o’n prosiectau blaenllaw Ailfywiogi Cymru ac Adnewyddu’r Ffocws, rydym yn argymell gweithredu wedi’i dargedu i ysgogi buddsoddiad a fydd yn galluogi cyflawni. Yn yr adroddiad hwn a ysgrifennwyd gan Joe Rossiter, dadleuwn dros ymagwedd at bolisi seilwaith yng Nghymru a fydd yn ein galluogi i gyrraedd ein targedau ac addasu i realiti newid yn yr hinsawdd.

  • Rhaid i Lywodraeth Cymru gyd-greu gweledigaeth gynhwysfawr ar gyfer anghenion seilwaith sero net Cymru dros y ddau ddegawd nesaf. Dylai hwn fod yn fap ffordd ar gyfer cyflawni.
  • Yn y Senedd nesaf, dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod polisi economaidd a pholisi ynni yn cyd-fynd yn agosach a’i gilydd.
  • Dylid hybu gallu ac adnoddau’r sector cyhoeddus i gyflawni prosiectau seilwaith ar raddfa fawr ar y cyflymder sydd ei angen. Dylai hyn alluogi cydsynio, cynllunio a chyflawni yn gyflym.
  • Dylid defnyddio Datganiadau Gweinidogol a Datganiadau Polisi Cenedlaethol i wella hyder y sector preifat yng Nghymru.
  • Dylid sicrhau bod penderfyniadau gwleidyddol wrth gymeradwyo cynlluniau seilwaith allweddol yn adlewyrchu nodau Llywodraeth Cymru. Os nad ydynt, dylent fod yn destun craffu gan y Senedd.
  • Dylid atgyfnerthu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, gan sicrhau ei bod yn cael ei defnyddio i gyflawni’r raddfa o newid sy’n ofynnol gan y sector cyhoeddus yng Nghymru.
  • Dylid annog yn gryf ailddyrannu cronfa bensiwn sector cyhoeddus Cymru tuag at y genhadaeth sero net.

 

  • Dylid galw’n gryf am ddatganoli Ystâd y Goron i Gymru, fel yn yr Alban.
  • Dylid ceisio datganoli cyfundrefnau cymhorthdal ​​prosiectau ynni adnewyddadwy.
  • Dylid helpu i sefydlu’r mecanweithiau ar gyfer strategaeth sero net a rennir ar draws holl wledydd y DU – wedi’i hategu gan fecanwaith y Gyllideb Garbon.

Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.

Darllen cysylltiedig:

Syniadau uchelgeisiol, awdurdodol a mentrus.
Ymunwch â ni i gyfrannu at wneud Cymru gwell.