Wrth Dychmygu Cymru yn 2100: Beth os byddai gennym seilwaith addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol erbyn 2100?

A picture of Derek Walker, the Future Generations Commissioner

Beth os gallem sicrhau bod popeth a adeiladwn heddiw yn cyfrannu at fywyd gwell i bobl yfory?

Gallwn. Mae angen i ni ddechrau drwy ddychmygu’r math o ddyfodol a garem – i ni, i’n plant, a phlant ein plant. 

Bydd y seilwaith a grëwn yng Nghymru heddiw yn dal i gael ei ddefnyddio yn 2100 – sef o fewn 76 mlynedd – nid yw hynny’n amser hir yn oes adeilad ysgol, llinellau uwchben, gorsafoedd trenau. Mae cyfrifoldeb arnom ni i sicrhau ei fod yn gwasanaethu pobl, a’r blaned hefyd. 

Felly, pa fath o ddyfodol rydym yn adeiladu ar ei gyfer? Ai dyfodol lle y parhawn â phatrymau a llwybrau’r gorffennol a’r presennol fydd hi? Ynteu dyfodol sy’n wahanol i’r realiti a wynebwn yn awr?

Er mwyn dychmygu hynny bydd angen i ni gamu o’r presennol a gofyn i ni’n hunain ‘beth os?’ Beth os dewiswn ddyfodol a lywir gan lesiant? Dyfodol lle nad yw twf economaidd yn digwydd ar draul ein hapusrwydd na’n hymdeimlad o berthyn?

Beth os oeddem, yn 2100, yn cyfrifo a phrisio cost wirioneddol ein seilwaith, gan gynnwys ei gost i’n hinsawdd, bioamrywiaeth, cydraddoldeb a chymdeithas?

Beth os, drwy ddatblygiadau technolegol a seilwaith digidol dibynadwy am ddim, roedd llawer ohonom bellach wedi cefnu ar fyw mewn dinasoedd mawr, ond ein bod yn gallu byw mewn cymunedau, yn ymestyn i rannau anghofiedig neu amhoblog o Gymru a’u hadfywio?

Beth os oedd gennym berchnogaeth a rheolaeth gymunedol dros gyflenwi ynni glân ac adnewyddadwy, gan ddefnyddio grym byd natur – gwynt, dŵr a’r haul – mewn ffordd effeithlon, a fydd yn helpu i sicrhau bod pawb yn gynnes, yn ddiogel ac wedi’u cysylltu?  

Beth os, yn 2100, nad oeddem yn defnyddio bocsys metel un dunnell i symud o gwmpas – ac, yn lle hynny, roedd system trafnidiaeth gyhoeddus gyflym, ddibynadwy, hygyrch am ddim, a allai ein cludo i bobman yng Nghymru a thu hwnt?

Syniadau uchelgeisiol, awdurdodol a mentrus.
Ymunwch â ni i gyfrannu at wneud Cymru gwell.

Beth os oeddem yn dadflaenoriaethu ffyrdd ac yn rhyddhau tir i fyd natur ac i adeiladu tai, i gynhyrchu bwyd ac i adfer coedwigoedd? Beth os oedd gennym goedwigoedd mewn dinasoedd? Beth os oeddem wedi llenwi Cymru â choed – er mwyn ein helpu i anadlu aer glanach, darparu bwyd, gwella bioamrywiaeth, gostwng tymereddau cynyddol, lleihau carbon, ac atal llifogydd?

Beth os oedd gennym dai addasadwy a charbon bositif? Beth os oedd cartref yn hawl ddynol?

Beth os oedd ein holl seilwaith yn wyrdd?

Beth os byddem yn troi canol ein dinasoedd yn hafanau diwylliannol yn hytrach na’u llenwi â swyddfeydd gwag – mannau i’n celfyddydau, treftadaeth, cerdd a chreadigrwydd? Beth os byddai pob un ohonom yn defnyddio lleoedd o’r fath yn ein cymunedau i arfer ein dychymyg a chysylltu â’n gilydd a chyda’r byd?

Beth os byddem yn defnyddio cynaeafwyr dŵr o’r atmosffer i sicrhau bod dŵr glân ar gael i bawb? 

Beth os byddem yn defnyddio ein hadeiladau i dyfu bwyd iach, lleol?

Beth os byddem ond yn adeiladu seilwaith sy’n gallu ein cadw’n iach ac yn heini? Beth os gallem gael gafael ar ofal iechyd cymunedol o’n hamgylch?

Beth os byddai popeth a adeiladwn yn cael ei greu drwy ystyried hygyrchedd ac yn barod ar gyfer poblogaeth hŷn? 

Mae gennym gyfraith yng Nghymru sy’n golygu bod yn rhaid i ni weithredu heddiw dros yfory gwell – gan ddiogelu pobl yn awr a’r rhai a fydd yn cael eu geni yn y dyfodol, fel y byddant yn cael yr hyn sydd ei angen arnynt i ffynnu gydol oes a gadael planed hyfyw ar eu hôl.

Beth os penderfynwn mai Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol fydd yn llywio popeth a wnawn, fel y bydd y bywyd gwell hwn yn dechrau cael ei wireddu, heddiw? Gall Cymru ei gwneud hi. Dim ond defnyddio ein dychymyg y bydd angen i ni ei wneud. 


Mae’r traethawd hwn yn rhan o gyfres a gomisiynwyd ar y cyd â Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Also within Politics and Policy