Wrth Dychmygu Cymru yn 2100: Cymru yn 2100

A picture of a white woman offering food to two other women.

Yn 2100, byddai arweinwyr yn arwain gyda gostyngeiddrwydd. Nid ymgynghori â chymunedau ar lawr gwlad yn unig y byddent yn ei wneud ond gweithredu ar eu syniadau. Ni fyddant yn ofni herio systemau oesol a byddant yn ddigon beiddgar i newid systemau’n unol â’n hinsawdd fythol gyfnewidiol. 

Byddai pobl yn cael eu haddysgu ac yn deall bod croestoriadedd yn torri drwy bob agwedd ar ein bywydau – o gyfiawnder hinsawdd a phwysau anghymesur y newid yn yr hinsawdd ar gymunedau brodorol, i warchod diwylliannau a threftadaethau, i ddad-drefedigaethu addysg, chwalu’r batriarchaeth a gormes systemig. Byddai amrywiaeth a chynhwysiant yn fwy nag ymarfer ticio bylchau a byddant yn rhan gwbl integredig o’n bywydau. Byddai brwydr un gymuned yn frwydr pob cymuned. Byddem yn credu profiad bywyd y cymunedau a pham maent yn ymgyrchu, pam maent yn brwydo yn erbyn anghyfiawnder, a byddai newid ar y raddfa sydd ei heisiau ac sydd ei hangen ar gymunedau. 

O ran hygyrchedd – byddai’r GIG (os yw’n dal i fodoli) a’r llywodraeth, sefydliadau cyhoeddus a phreifat fel ei gilydd yn mabwysiadu’r model cymdeithasol o anabledd fel gofyniad sylfaenol, am nad yw’r model meddygol yn gweithio. Mae pobl yn cael eu hanablu gan seilwaith sydd wedi cael ei ddarparu ar gyfer cymuned o bobl sy’n gadarn o gorff ac nad ydynt yn anabl. Dychmygaf 2100 lle mae llwybrau yn cael eu creu i fod yn ddigon llydan i gadeiriau olwyn ym mhobman, lle mae perchnogion cerbydau yn cael eu briffio yn y cwricwlwm gyrru i sicrhau bod llwybrau troed yn cael eu cadw’n ddirwystr er mwyn i’r rhai â chymhorthion symuded eu defnyddio – a bod hyn yn cael ei orfodi’n briodol drwy ddeddfwriaeth hefyd. 

Bydd pob adeilad cyhoeddus yn cynnwys man tawel neu ystafell sy’n darparu teganau symbylu go iawn, offer clustiau a goleuadau addasadwy, fel y gall pobl fynd yno i ymneilltuo rhag y sŵn os teimlant eu bod wedi’u gorsymbylu. Bydd gan weithleoedd brosesau priodol ar waith i wrthsefyll y stigma a wynebir gan y rhai sy’n anabl (gan gynnwys pobl niwrowahanol), a bydd yn hanfodol i bobl â statws rheolwr helpu cyflogeion i fod cystal ag y gallant fod yn y gwaith drwy wneud y newidiadau angenrheidiol i wneud gweithleoedd yn fwy hygyrch. Bydd rheolwyr yn cefnogi gweithwyr yn llwyr pan fyddant yn cyflwyno eu hunan dilys, yn hytrach na chydymffurfio â ffyrdd niwro-nodweddiadol o weithio.

Byddai pawb yn 2100 wedi mabwysiadu ysgrifennu testun ALT yn y cyfryngau cymdeithasol. Byddai cyfathrebu sylfaenol mewn iaith arwyddion sylfaenol yn rhan o’r cwricwlwm, byddai Braille yn cael ei ddefnyddio ar bob arwydd pwysig, a byddai teils rhesog cyfeiriadol yn bresennol ar bob llwybr troed er mwyn sicrhau y gall y rhai ag amhariadau ar eu golwg symud yn ddidrafferth drwy ddinasoedd. 

Yn y Gymru hon yn y dyfodol, bydd y llywodraeth yn deall bod cyllido seilwaith a’r lluoedd arfog yn llai pwysig na chostau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth, creu cymunedau a chydlyniant ar gyfer dyfodol cynaliadwy.

Yn 2100 byddai gennym ddigon o gyllid ar gyfer gofal iechyd meddwl fel rhan annatod o’r GIG. Byddai pob cymuned yng Nghymru yn gymwys i gael therapi gwybyddol ymddygiadol, cwnsela, therapi a hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl. Byddem yn gweld gostyngiad sylweddol mewn cyfraddau hunanladdiad oherwydd y cynnydd yn lefel gofal iechyd meddwl traws a chlinigau iechyd meddwl am ddim a’u hygyrchedd. Byddai iechyd meddwl yn cael ei flaenoriaethu a’i addysgu mewn ysgolion. Byddai cynhyrchion mislif am ddim ar gael ymhobman, ym mhob toiled, a byddai addysg rhyw gynhwysol briodol (gan gynnwys addysg rhyw cwiar) yn cael ei haddysgu ym mhob ysgol. 

Yn y Gymru hon yn y dyfodol, bydd y llywodraeth yn deall bod cyllido seilwaith a’r lluoedd arfog yn llai pwysig na chostau sy’n gysylltiedig â chyflogaeth, creu cymunedau a chydlyniant ar gyfer dyfodol cynaliadwy. Bydd gan y llywodraeth a chyrff cyhoeddus gyllideb sylweddol i’w dyrannu ar gyfer prosiectau datgarboneiddio hirdymor mewn cymunedau lleol ac nid dim ond prosiectau ‘plannu coeden’ i wrthbwyso carbon. Bydd digonedd o oergelloedd cymunedol, cydweithfeydd bwyd ac addysg o’r fferm i’r plât. Bydd plant yn cael profiad ymarferol o dyfu a chynaeafu eu cnydau. Bydd mannau garddio yn cael eu dyrannu i gartrefi a bydd mentrau ‘tyfu’ch bwyd eich hun’ a gerddi a rhandiroedd cymunedol i rannu a chynaeafu ar y cyd. Bydd banciau bwyd yn diflannu fel math o ofal a chymorth cymunedol am fod digonedd o fwydydd ffres. Caiff apiau eu datblygu i sicrhau bod modd pontio prosesau masnachu a dosbarthu rhwng y rhai y mae angen bwyd neu ofal iechyd arnynt a’r rhai sy’n gallu ei ddarparu, a bydd galwad am help yn cael ei hateb gan y rhai sydd â’r adnoddau bron ar unwaith. 

Syniadau uchelgeisiol, awdurdodol a mentrus.
Ymunwch â ni i gyfrannu at wneud Cymru gwell.

Bydd digonedd o dai diogel i’r rhai y mae angen lloches arnynt, p’un yw hynny o ganlyniad i ddigartrefedd, trais domestig neu ffoi o rywle anniogel. Bydd cynllun hirdymor ar waith i groesawu ffoaduriaid a’u helpu i deimlo’n ddiogel yng Nghymru, ni waeth beth fo lliw eu croen. Caiff cyrff y llywodraeth eu dwyn yn atebol gan gomisiynwyr annibynnol i herio eu tueddiadau eu hunain o ran cefnogi cymunedau penodol pan fyddant mewn argyfwng. Nid yw ymatebion i argyfyngau yn anghymesurol, nac ychwaith y ffordd yr ymdrinnir â’r rhyfel yn Wcráin o’i gymharu â hil-laddiad Palesteiniaid. 

Bydd sefydliadau yn ymdrin â microymosodiadau ac yn cael eu dwyn i gyfrif amdanynt, gyda phrosesau clir a thryloyw sy’n ei gwneud yn haws i ddioddefwyr roi gwybod am y microymosodiad a wynebwyd a mapio ei natur, a hefyd roi sicrwydd i’r dioddefwyr nad ydynt yn gorfeddwl am eu profiad bywyd. Caiff gwrth-hiliaeth ei haddysgu mewn ysgolion a chaiff unigolion eu dwyn yn atebol am ymddygiadau hiliol ac ni fydd ymddygiad o’r fath yn cael ei ddiystyru’n jôc. 

Bydd tyfu i fyny yn 2100 yn golygu tyfu i fyny mewn cyfnod lle mae’r gymuned mor gydlynol ag erioed, a chaiff gofal a chymorth cymunedol eu blaenoriaethu yn hytrach na theuluoedd cnewyllol neu unigolion mewn seilo. Bydd digon o fannau gwyrdd, parciau a meysydd chwarae i’r cyhoedd ac i blant chwarae ynddynt. Bydd digon o ardaloedd naturiol a gwyllt lle y gall rhywogaethau brodorol ffynnu, lle y gall gwenyn gwyllt ffynnu ymhlith blodau gwyllt, a lle mae anifeiliaid yn cael eu hailgyflwyno i fyd natur, ac mae eu hecosystemau yn cael eu hadfer.

Bydd sesiynau natur yn hanfodol mewn ysgolion. Bydd plant yn blaenoriaethu crefft chwarae a chwilfrydedd ar eu tiroedd a’u helfennau, yn ogystal â’r moroedd, yr afonydd a’r wybren. Syllu ar y sêr, nofio gwyllt, fforio am fwyd, dysgu am ein mamaliaid a’n pryfed a dringo coed…Yn 2100, bydd plant yn dysgu’r rhain i gyd wrth dyfu i fyny!  

I grynhoi, gall Cymru fod yn llawer o bethau. Gall Cymru fod yn iwtopia i ni i gyd

Yn 2100, byddai Cymru yn arwain y DU mewn llawer o ffyrdd – gan gadw ei hunaniaeth; bydd yn wlad gwbl ddwyieithog lle mae dwyieithrwydd yn rhan annatod ohoni a bydd llythrennedd yn Gymraeg ac yn Saesneg ar ei lefel uchaf erioed, a lle mae dathliadau Cymreig coll yn cael eu hadfer a’u dathlu gan y genedl; a bydd yn wlad ddi-allyriadau. Bydd gwastraff bwyd ar ei lefel isaf erioed, a bydd bwyd a ailgylchir yn cael ei ddefnyddio i wneud compost sy’n cael ei ailddosbarthu i gymunedau, am ddim; caiff anifeiliaiid sy’n cynhyrchu cig eu magu mewn ffordd mor ddynol â phosibl, a chaiff ymgyrchoedd eu sefydlu i bawb gefnogi busnesau bach a ffermwyr lleol. Byddai Cymru hefyd yn genedl noddfa sy’n ‘rhoi pwys ar weithredoedd nid geiriau’, ac yn lle diogel i gymunedau cwiar ac i bobl wedi’u hymyleiddio o bob math ffynnu. 

I grynhoi, gall Cymru fod yn llawer o bethau. Gall Cymru fod yn iwtopia i ni i gyd, ond yn gyntaf, bydd angen i ni chwalu haenau lu’r systemau oesol sydd wedi ymwreiddio ac nad ydynt yn gweithio i ni mwyach a herio ein tueddiadau i ddad-ddysgu, ac yna ailddysgu’r hyn a fyddai’n llesol i ni i gyd. Nid rhywbeth i’r dosbarth canol na’r dosbarth uchaf yn unig yw hyn. Mae’n berthnasol i bob un ohonom. 

Dylai newid ddigwydd nid yn unig i gymodi â’r rhanddeiliaid, nid yn unig i ddathlu ‘cyflawniadau’. Mae’n rhaid i ni gofio pam rydym yma a beth y gallwn ei wneud, nid yn unig i gyflawni nodau penodol a chasglu data ar gyfer adroddiadau a DPAau, ond i sicrhau’r newidiadau sydd eu hangen yn ddybryd ar gymunedau er mwyn iddynt ffynnu, yn hytrach na chrafu byw. Mae’n rhaid i ni wrando ar ein pobl. 

Dyna pam nad rhywbeth llipa na llednais yw’r traethawd hwn. Fel ymfudwr niwrowahanol cwiar o’r mwyafrif byd-eang, hoffwn bwysleisio pwysigrwydd yr arwyddair: nid oes neb yn rhydd nes bod pawb yn rhydd. Rhaid i ni beidio â cholli golwg ar werthoedd Cymru na sut wlad allai Cymru fod yn 2100. Cymru am byth. 


Mae’r traethawd hwn yn rhan o gyfres a gomisiynwyd ar y cyd â Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Jia Wei Lee

Also within Politics and Policy