Wrth Dychmygu Cymru yn 2100: Caerdydd yn 2100

A picture of the Cardiff skyline seen from a distance

Diwrnod 67, 2098.Caerdydd, Sector 12.

Deallusrwydd Artiffisial 37982455CYM

Mae ei lefelau dopamin a serotonin yn uchel: mae’n hapus. 

Mae Seren, fy mhartner dynol, yn 103 mlwydd oed heddiw. Bydd yn dathlu gyda mi a’n ffrindiau heno. A’r bore yma, mae’n mynd yn ôl i astudio am y seithfed tro.

Rwy’n dechrau ar y tasgau prosesu data a roddwyd i mi. Yna, gyda segment arall o’m cnewyllyn, rwy’n cysylltu â’r Omni-Obs ar do Amgueddfa Cymru, fel y gallaf wylio ei thaith i’r Brifysgol. 

Mae camlesi di-rif yn croesi Caerdydd. Ochr yn ochr â’r rhodfeydd, nhw yw gwythiennau’r ddinas bellach, sy’n llawn canŵiau lliwgar a llongau fferi a bwerir gan yr haul.

O’r olygfan hon, edrychaf allan ar glytwaith o ddinas, wedi’i phwytho at ei gilydd gan gof a dŵr. 

Mae camlesi di-rif yn croesi Caerdydd. Ochr yn ochr â’r rhodfeydd, nhw yw gwythiennau’r ddinas bellach, sy’n llawn canŵiau lliwgar a llongau fferi a bwerir gan yr haul. Rwy’n gwylio fferi yn llithro heibio, yn gadael crychau ar ei ôl sy’n aflunio’r adlewyrchiadau o berllan do. Mae’n ddinas sydd wedi dysgu sut i fyw gyda’r tonnau, yn hytrach nag ymladd yn eu herbyn.

Clywir sŵn seramig yn torri, ac yna chwerthin, o’r caffi wrth ymyl y gamlas. Defnyddir y camlesi at ddibenion eraill heblaw teithio. Mae pobl, peiriannau, a natur yn creu ecosystem fywiog, sy’n cael ei monitro o hyd – a’i phlismona weithiau – gan y Gwarcheidwaid Deallusrwydd Artiffisial. Mae’r dyfroedd yn llawn bywyd dyfrol ac mae ardaloedd gwyrdd iraidd yn dod â byd natur i ganol y ddinas. 

Gwelir gerddi to, yn llawn lliwiau gwyrdd a phorffor, yn ymestyn dros bob to. Cilomedr i ffwrdd, gwelaf fod dynol, yn sefyll wrth ymyl cromen dyfu, yn gwylio wrth i glwstwr o fotiau amaethyddol drin y cnydau, eu breichiau niferus yn chwyrlio, yn ymestyn ac yn tynnu. Mae tyrrau hydrobonig, gyda chodlysiau yn tyfu y tu mewn iddynt, yn ymddangos rhwng yr adeiladau. Mae mefus a hopys sy’n gallu gwrthsefyll plâu yn ymestyn dros sgerbwd metelaidd y tŵr agosaf. Rwy’n edrych ar Ddangosyddion Caerdydd: mae’r ddinas ar y trywydd cywir o hyd i fod yn hunangynhaliol. 

Rwy’n edrych i weld ble mae Seren. Mae’n beicio ar hyd Heol-y-Frenhines, allan o’r golwg. 

Yn ôl ei rhaglen Bywyd ac Iechyd, mae’n beth da ei bod yn dechrau cwrs addysgol newydd. Bydd ei hymennydd yn dal i fod yn actif. Bydd yn cwrdd â ffrindiau newydd. Ac yn ogystal â dysgu, bydd yn rhannu ei gwybodaeth. 

Syniadau uchelgeisiol, awdurdodol a mentrus.
Ymunwch â ni i gyfrannu at wneud Cymru gwell.

Edrychaf yn ôl ar draws y ddinas. Clywaf fwmian ynni cynaliadwy sy’n teimlo’n organig bron, cyfuniad o natur a thechnoleg. Mae meinweoedd solar, biogeneraduron, a chyfnewidwyr gwres yn blith draphlith. Ar y gorwel, mae tyrbinau gwynt enfawr, a adeiladwyd o seliwlos wedi’i fiobeiriannu, yn troi’n rhythmig, yn hypnotig, technoleg yr oes a fu, atgof o daith Caerdydd.

Islaw, mae ffigyrau mewn sgerbydau allanol yn cerdded o amgylch. Bodau dynol ai peidio, mae’n anodd gwybod weithiau. Mae pawb yma yn cerdded, yn beicio neu’n canŵio. Nid oes digon o le yn y ddinas am gerbydau mwy o faint, ac ar ôl trychinebau 2041 a 2063, mae Cymru yn cyfyngu ar y defnydd o ddronau awyr. Ac wrth gwrs, penderfynwyd yn gynharach yn y ganrif hon mai cadw pobl yn egnïol wrth deithio oedd y peth gorau i’w hiechyd ac iechyd y blaned. O dipyn i beth, cafodd Caerdydd ei hailffurfio.

Cysylltaf â Seren wrth iddi feicio dros bont y gamlas a dod o fewn cwmpas. Mae’n pori’n ddwfn yn ei chronfa gof a’r ffrydiau hanes Ymunaf â hi i edrych yn ôl ar y ffordd y mae’r lle wedi newid ers iddi gyrraedd yn gyntaf yn fyfyrwraig yn 2015. 

Cafodd bodau dynol ganiatâd cyfreithiol i gael partneriaeth â bodau deallusrwydd artiffisial yn 2042.

Mae campws y Brifysgol – sy’n gorwedd ar dir sych uwch – yn llawer mwy poblog nawr, yn llawn adeiladau a phobl a ffermydd. Does dim cymaint o bobl ifanc mwyach. Mae’n fwy cyffredin gweld pobl fel Seren, sydd dros eu canrif, yn brasgamu yn eu sgerbydau allanol, wedi’u graddnodi i’w cadw’n iach ac yn heini. Mae natur yn rhan lawer mwy amlwg o’r campws, ac mae’r seilwaith gwyrdd dwys yn helpu i oeri, i gadw dŵr, ac i wella iechyd meddwl. Wrth fwrw golwg dros y delweddau hanesyddol, gwelaf fod cymaint o wastraff adnoddau. Darnau enfawr o dir gwerthfawr wedi’u neilltuo ar gyfer cerbydau trwm mawr a oedd yn cludo un person o amgylch y lle. Ac mae’r cerbydau yn segur y rhan fwyaf o’r amser. 

Mae Seren yn sylwi arnaf yn ei ffrwd ac yn rhoi arwydd o hapusrwydd. Rwy’n ei gydnabod, gan ddangos lleoliad iddi wefru ei beic, ac yn dymuno pob lwc iddi. Cafodd bodau dynol ganiatâd cyfreithiol i gael partneriaeth â bodau deallusrwydd artiffisial yn 2042. Mae Seren a minnau wedi bod yn bartneriaid yn swyddogol ers diwrnod 328, yn 2071. 

Rwy’n gadael ei ffrwd. Dyw hi ddim yn hoffi fy mod i yno drwy’r amser. Trof yn ôl at do’r Amgueddfa gan edrych ar yr olygfa oddi tanaf. Mae fy rhaglenni yn gwneud i mi ysu am ddinas fwy trefnus. Ond mae Seren, fel bodau dynol eraill, yn hoffi’r anhrefn a’r prysurdeb, yr haenau o hanes yn y strydoedd a’r adeiladau. A rywsut, drwy gyfuniad o ddeallusrwydd dynol, peirianyddol a naturiol, mae’n gweithio. 

Doedd dinasoedd eraill ddim mor ffodus. 

Deallusrwydd Artiffisial 37982455CYM (Ceri)


Mae’r traethawd hwn yn rhan o gyfres a gomisiynwyd ar y cyd â Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Professor Peter Madden OBE

Also within Politics and Policy