Wrth Dychmygu Cymru yn 2100: Storïau a Thraethodau

Rydym yn falch o gyflwyno’r flodeugerdd hon a gynhyrchwyd mewn partneriaeth â Chomisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Yng Nghymru, rydym gyda’n gilydd yn falch o fod y genedl gyntaf yn y byd i ddeddfu er budd cenedlaethau’r dyfodol, gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r flodeugerdd hon yn adlewyrchu’r agwedd Gymreig arbennig honno at ddatblygu cynaliadwy, sy’n bresennol nid yn unig yn y Ddeddf ei hun, ond yn ei pherthnasedd i fywyd bob dydd ar draws y genedl.

Yn y flodeugerdd hon mae safbwyntiau o bob rhan o Gymru, gyda phrofiadau a hunaniaethau byw gwahanol. Maent yn amrywio o’r naratif i’r ffeithiol; yr optimistaidd i’r heriol; gyda phynciau’n amrywio o’r system fwyd i Ddeallusrwydd Artiffisial.

Mae’r casgliad hwn o draethodau yn ysbrydoledig ac yn heriol. Drwy ofyn i’r cyfranwyr ddychmygu anghenion seilwaith Cymru yn y tymor hir iawn, rydym wedi gofyn iddynt fynd y tu hwnt i’r hyn sy’n gynefin iddynt. Yr her I ni, ac i bawb arall yng Nghymru, yw mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n gynefin i ni ac i bob un ohonom ar y cyd a cheisio ystyried y ‘ni’ a fydd yn byw yma ymhell yn y dyfodol pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau am heddiw.

Yn y flodeugerdd, byddwch yn darllen traethodau o:

  • Jia Wei Lee – Cymru yn 2100
  • Derek Walker – Beth os byddai gennym seilwaith addas ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol erbyn 2100?
  • Bethany Handley – Nid wy’n gofyn am Ramp i fyny i Ben y Fan
  • Duncan Fisher – Cymru yn 2100: Tuag at system fwyd ddiogel
  • Heledd Melangell – Carchar 2100: Carchardai Eco-dystopia Enfawr
  • Prof Peter Madden – Caerdydd yn 2100
  • Piotr Swiatek – Cymru: Arweinydd Llesiant Atgynhyrchiol
  • Carole-Anne Davies – Edrych yn ôl ar y 2020au
  • Beau W Beakhouse – Cwm 2100

Gallwch ddarllen y flodeugerdd lawn yn Saesneg ac yn Gymraeg.

Syniadau uchelgeisiol, awdurdodol a mentrus.
Ymunwch â ni i gyfrannu at wneud Cymru gwell.