Rydym yn chwilio am ddau aelod newydd ar gyfer ein Bwrdd

@ Natasha Hirst Photography

 

Hoffech chi helpu i ddatblygu Cymru well ar gyfer y dyfodol?

Mae Ymddiriedolwyr y Sefydliad Materion Cymreig (SMC) yn falch iawn o fod yn chwilio am ddau aelod newydd ar gyfer ein Bwrdd.

Rydym yn arbennig o awyddus i sicrhau ein bod yn parhau i fod â detholiad amrywiol o brofiadau ac arbenigedd i oruchwylio cam nesaf datblygiad y felin drafod ddylanwadol hon.

O’r herwydd, rydym yn chwilio am drysorydd ac ymddiriedolwr i ymuno â’n Bwrdd. Bydd y trysorydd hefyd yn bennaeth ar ein his-bwyllgor Cyllid a Dibenion Cyffredinol.

I wneud cais, anfonwch eich CV atom a llythyr esboniadol byr (dim mwy na dwy ochr A4) yn nodi’r hyn y byddech yn ei gyfrannu i’r Bwrdd. E-bostiwch y cais i [email protected] cyn 5yp ddydd Gwener, 1 Tachwedd 2024.

Os hoffech gael trafodaeth anffurfiol ynglŷn â’r hyn y mae’r rôl yn ei olygu, e-bostiwch [email protected].

Lawrlwythwch y pecyn gwybodaeth ar gyfer recriwtio aelodau Bwrdd.

Trysorydd: Cymraeg / Saesneg

Ymddiriedolwr: Cymraeg / Saesneg