Mae tynged yr iaith yn nwylo Leighton Andrews

Robin Farrar sy’n esbonio pwysigrwydd cael penderfyniad ar unwaith ynghylch dyletswyddau cyrff cyhoeddus a rhai cwmnïau i gynnig gwasanaethau yn Gymraeg

Click here to read this article in English

Yn nwylo Leighton Andrews mae un o’r penderfyniad pwysicaf a fydd yn llywio tynged y Gymraeg dros y pumtheg mlynedd nesaf a mwy. Mae’r safonau iaith newydd yn offeryn statudol fydd yn llywio holl ddarpariaeth Gymraeg cyrff a chwmniau ac maent yn hollbwysig i obeithion pawb yng Nghymru i sicrhau twf yn yr iaith.

Dyfodol y Gymraeg

Yfory: Harold Carter a John Aitchison fydd yn dadlau mai economeg ac nid hawliau yw’r hyn sy’n hanfodol er mwyn sicrhau dyfodol y Gymraeg. Ddydd Sadwrn, bydd Rhodri Talfan Davies yn edrych ar swyddogaeth Radio Cymru.

Mae’n hawdd anghofio mai pobl ar lawr gwlad yw canolbwynt y ddadl, nid gemau gwleidyddol Bae Caerdydd. Ni ddylai’r gweision sifil, na’r gwleidyddion, fyth anghofio pobl fel: Mae llawer iawn yn y fantol. Gall y safonau sicrhau pethau gwbl sylfaenol, fel bod plant yn gallu cael gwersi chwaraeon yn Gymraeg, bod pobl hŷn cael mynediad at ofal yn yr iaith, a bod gan weithwyr yr hawl i’w siarad neu ei  ddefnyddio yn y gwaith. Gallai’r safonau newydd weddnewid eu bywydau, a thrwy hynny, gallent sbarduno twf yn y niferoedd sy’n gallu’r Gymraeg ac yn ei defnyddio pob dydd.

  • Y gweithwyr sydd yn cael eu gwaharadd rhag siarad Cymraeg yn y gweithle.
  • Y plant niferus, o Aberystwyth i Abercynon ac o Rydaman i’r Rhos, sy’n methu cael gwersi nofio yn Gymraeg.
  • Yr holl bobl ifanc sydd â sgiliau yn y Gymraeg yn gadael Cymru i chwilio am waith, tra, ar yr un pryd, bod cyrff a chwmniau yn methu cyflenwi gwasanaethau yn Gymraeg.
  • Y gweithwyr a’r plant nid oes mo’r hawl ganddynt i ddysgu Cymraeg yn rhugl.
  • Y bobl ifanc nad ydynt yn gweld yr iaith fel un fodern oherwydd nad oes rhyngwyneb ar yr I-pad neu ffonau symudol yn Gymraeg
  • Y cleifion, rhai ohonynt yn eu cyfnodau mwyaf bregus, sydd yn dioddef oherwydd nad oes gweithiwr iechyd sydd yn siarad Cymraeg.

Mae pobl Cymru wedi aros yn llawer rhy hir am well gwasanaethau Cymraeg: undeg-tri o flynyddoedd ers i’n hymgyrch dros ddeddf iaith newydd cychwyn, pum mlynedd ers i’r broses ddeddfu dechrau, a thros ddwy flynedd ers pasio Mesur y Gymraeg yn y Cynulliad.

Mae’r oedi’n gwbl annerbyniol, ac yn awgrymu llusgo traed a diffyg blaenoriaethu’r Gymraeg gan y Llywodraeth. Mae’r holl oedi yn dod wedi i ni, a llawer o bobl eraill, ddisgwyl yn hir ac ymrwymo’n llwyr i’r broses ddemocrataidd.

Ar y pryd, dyna oedd y darn o ddeddfwriaeth hiraf a mwyaf cymhleth a ystyriwyd gan y Cynulliad Cenedlaethol. Enghraifft arall o ymrwymiad Cymdeithas yr Iaith Gymraeg i ymdrechu i bwyso ar y Cynulliad er lles yr iaith. Buodd ymgyrch fawr gyhoeddus y tu ôl i’r Mesur hwnnw, gyda chytundeb eang yn y diwedd i’r angen am statws swyddogol, Comisiynydd cryf a hawliau i’r Gymraeg, fel amlinellwyd yn y cynigion a gyhoeddwyd gennym yn 2006. Fodd bynnag, er gwaethaf yr holl frwydro – ers dros ddegawd – rydym yn aros am well gwasanaethau Cymraeg o hyd.

Llynedd, bu ymgynghoriad arall ar gynigion am y safonau iaith, y tro hwn gan Gomisiynydd y Gymraeg. Fel cannoedd o gyrff eraill, ymatebon ni i’r ymgynghoriad. Er nad oedd safonau’r Comisiynydd, yn ein tyb ni, yn ddigon cryf, maent o leiaf yn pwysleisio mai ar y cyrff eu hunain y dylai’r cyfrifoldeb i ddarparu er lles y bobl fod, yn hytrach na bod y dinesydd yn gorfod brwydro trwy’r adeg. Mae cynigion Meri Huws hefyd yn sefydlu’r egwyddor y dylid darparu isafswm o wasanaethau yn Gymraeg ledled y wlad – o Fôn i Fynwy. Mae gwir angen cryfhau cynigion y Comisiynydd, nid eu gwanhau.

Pryderwn, fel awgrymir gan lythyr diweddar y Gweinidog at y Comisiynydd, fod penderfyniad Leighton Andrews i wrthod y safonau iaith arfaethedig yn mynd i arwain at wanhau, yn hytrach na chryfhau, y cynigion a chyhoeddwyd ganddi ym Mis Tachwedd y llynedd.

Yr hyn rydyn ni eisiau gweld y Gweinidog yn ei sefydlu yw hawliau penodol, megis yr hawl i addysg gymraeg, yr hawl i ofal iechyd, yr hawl i weithio yn Gymraeg, er mwyn newid profiad pob dydd pobl. Dylai’r safonau hefyd sicrhau bod rhagor o gyrff, rhai awdurdodau lleol yn enwedig, yn dilyn enghraifft Cyngor Gwynedd ac yn gweinyddu’n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg.

Heb amheuaeth, mae canlyniadau’r Cyfrifiad wedi dangos i’r Llywodraeth bod angen newidiadau polisi pendant, a phenderfyniadau dewr er mwyn cryfhau’r Gymraeg. Gobeithiwn fod Leighton Andrews yn barod i gymryd y camau heriol hyn – wedi’r cwbl mae’r penderfyniad sydd yn ei ddwylo yn un hynod o bwysig i’n hiaith genedlaethol unigryw.

Mae Robin Farrar yn gadair ar Gymdeithas yr Iaith Gymraeg.

 

********************************************************************************************************************

Leighton Andrews holds fate of language in his hands

Robin Farrar explains the importance of an imminent decision on the duties of public bodies and some companies to provide services in Welsh 

Education Minister Leighton Andrews’ will shortly make one of the most important decisions on the fate of the Welsh language over the next fifteen years and beyond. The new standards that will determine the use of Welsh by public bodies and some companies will be a vital to the hopes of everyone in Wales who want to ensure its growth.

Future of the Language

Tomorrow: Harold Carter and John Aitchison argue that economics rather than rights are critical for the survival of the Welsh language. On Saturday Rhodri Talfan Davies examines the role of Radio Cymru.

So much is at stake. The standards could deliver essential things like children being able to receive sports lessons in Welsh, older people having access to Welsh-medium care services, and workers’ rights to speak the language and use it at work. These standards could transform their lives, and, as a result, could spark growth in the numbers who are able to speak it and those who use it every day.

It’s easy to forget that people in the country are the focus of the debate, not political games in Cardiff Bay. Civil servants and politicians should never forget people such as:

  • The workers who are banned from speaking Welsh in the workplace.
  • The numerous children, from Aberystwyth to Abercynon and from Rhydaman to Rhos, who can’t get swimming lessons in Welsh.
  • All the young people who have Welsh language skills who leave Wales looking for work, while, at the same time, bodies and companies fail to supply services in Welsh.
  • The workers and the children who don’t have the right to learn Welsh fluently.
  • The young people who don’t see the language as a modern one because their i-pad or mobile phone interface isn’t available in Welsh.
  • The patients, some of them in their most fragile moments in life, who suffer because there’s no health worker who speaks Welsh.

People in Wales have waited much too long for better Welsh language services. It has been thirteen years since our campaign for a new language act began, five years since the legislative process started, and over two years since the Welsh Language Measure was passed by the Assembly.

The delay is completely unacceptable. It suggests the dragging of feet and that the Government is not prioritising the language. All this delay comes after we, and many others, have waited a long time and been committed completely to the democratic process.

At the time, the Welsh Language Measure was the most complex and longest piece of legislation considered by the National Assembly. It was another example of Cymdeithas yr Iaith’s effort to put pressure on the Assembly for the benefit of the language. There was a large, public campaign behind the Measure, with a wide agreement in the end for the need for official status, a strong Commissioner and rights for the language, as outlined in the proposals we published in 2006. However, despite all the pressure – for over a decade – we are still waiting for better Welsh language services.

Last year, there was another consultation about the proposals for language standards, this time by the Welsh Language Commissioner. Like hundreds of other bodies, we responded to the consultation. Although the Commissioner’s standards, in our view, were not strong enough, they at least emphasised that bodies themselves are responsible for providing services for people’s benefit, rather than the citizen having to fight for them all the time. Meri Huws’ proposals also established the principle that a minimum of Welsh language services should be available across the country – from Ynys Mon to Monmouthshire. There’s a real need to strengthen the Commissioner’s proposals, not weaken them.

We fear, as implied by the Minister’s recent letter to the Commissioner, that Leighton Andrews’ decision to reject the proposed standards is going to weaken, rather than strengthen, the recommendations she published in November last year.

We want to see the Minister establish specific rights, such as the right to Welsh medium education, the right to health care, the right to work in Welsh, in order to change people’s every day experience. The standards should also ensure that more bodies, especially in some counties, follow Gwynedd Council’s example and administrate internally through the medium of Welsh.

Without a doubt, the Census results have demonstrated that specific policy changes and bold decisions are needed in order to strengthen the language. We hope Leighton Andrews is ready to take the challenging steps needed – after all the decision in his hands is a vitally important one for our unique national language.

Robin Farrar is Chair of Cymdeithas yr Iaith Gymraeg.

Comments are closed.

Also within Culture