A oes arnom angen gweithlu dwyieithog ym maes iechyd a gofal cymdeithasol?

Mae Dafydd Trystan yn trafod sut medrai’r GIG cefnogi cleifion sy’n siarad Cymraeg yn well

Aeth Iris (nid ei henw go iawn) i’r ysbyty ar ôl cael strôc fach. Roedd hi’n ofidus, yn ffwndrys a’r nyrsys oedd yn gofalu amdani yn bryderus iawn. Cawsant sgwrs gychwynnol ynghylch a ddylid ei secsiynu dan y ddeddf iechyd meddwl ar gyfer ei diogelwch ei hun. O fewn pedair awr roedd Iris yn gwella’n dda – wedi newid y sifft roedd nyrs ddwyieithog bellach yn gofalu amdani. Roedd Iris yn gwbl dealladwy yn Gymraeg – er ei bod mewn cryn boen – ond roedd yn cael anhawster gwirioneddol wrth fynegi hyn yn Saesneg. Maes o law cafodd Iris gymorth arbenigol i fynd i’r afael ag effaith y strôc gan un o’r arbenigwyr prin ddwyieithog mewn therapi iaith a lleferydd.

Fel mae plant bach yn gwneud, torrodd Jac  ei fraich tra allan yn chwarae yn y goedwig lleol. Aeth ei rhieni ag ef i’r ysbyty ac yno bu ei fam yn gwneud ei gorau i dawelu Jac. Wnaeth yr Ymgynghorydd ddim helpu – mynnodd nad oedd Jac yn siarad Cymraeg gyda’i rieni – a bod siarad Saesneg yn hanfodol er mwyn gwella!

Bachgen yn ei arddegau yng Nghymoedd De Cymru yw James. Roedd angen iddo gael lawdriniaeth bach o dan anesthetig cyffredinol yn ei ysbyty lleol. Wrth i effaith yr anesthetig bylu roedd e’n gwingo mewn poen ac yn gweiddi, ond yn Gymraeg, ei iaith gyntaf. Doedd y staff oedd yn gofalu amdano ddim yn siŵr beth i’w wneud, ond cofiodd un bod Dai y porthor yn siarad Cymraeg. Galwyd am Dai a dywedodd wrth bawb a fedrai glywed bod James yn dweud bod ganddo boen ddirdynnol yn ei droed dde! Yn fuan iawn cafodd James feddyginiaeth lleddfu poen ac erbyn y noson honno roedd James yn hapus yn sgwrsio yn y ddwy iaith.

Mae’r tri darlun bach yma – i gyd yn seiliedig ar brofiad bywyd go iawn o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Maent yn fodd i danlinellu pwysigrwydd, fan leiaf, bod yn ymwybodol o gyd-destun dwyieithog Cymru. Ym mhob achos byddai’r gofal wedi gwella wrth ddarparu gwasanaeth yng Gymraeg – neu o leiaf dangos sensitifrwydd i’r ffaith bod llawer o bobl, yn enwedig mewn sefyllfaoedd llawn straen, yn ei ffindio hi’n llawer haws i fynegi ei hunain yn ei hiaith gyntaf. Ac os nad ydych yn gwbl argyhoeddedig, ac yn ddigon ffodus i fod wedi dysgu ail iaith – efallai Ffrangeg neu Sbaeneg – y tro nesaf y byddwch yn sâl ceisiwch egluro sut rydych yn teimlo yn eich ail iaith!

Felly beth sydd i’w wneud? Mae camau mawr ymlaen wedi cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd diwethaf gyda strategaeth ‘Mwy na Geiriau’ – ac mae ymgynghoriad ar y strategaeth olynol ar agor ar hyn o bryd:

http://gov.wales/consultations/healthsocialcare/more-than-just-words/?skip=1&lang=cy

Ond, yr her fawr yw’r gweithlu, a dyna pam fod y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn cynnal seminar yn ddiweddarach yr wythnos hon i drafod datblygu gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ddwyieithog. Os yw gofal effeithiol wrth wraidd y GIG yng Nghymru, mae’n angenrheidiol i’r gofal fod yn briodol i’r claf, ac yn sensitif i’w hanghenion ieithyddol. Ceir tystiolaeth gynyddol yn rhyngwladol sy’n awgrymu’n gryf fod darparu gofal yn iaith gyntaf y claf yn gwella canlyniadau i gleifion h.y. mae pobl yn gwella yn gyflymach!

Yn y blynyddoedd diwethaf mae’r Coleg Cymraeg, mewn partneriaeth â Phrifysgolion Cymru wedi buddsoddi’n helaeth mewn capasiti darlithio ar draws Cymru i ddarparu cyrsiau iechyd a gofal cymdeithasol yn y Gymraeg. Yr ydym wedi gweld datblygiadau mewn Nyrsio, Meddygaeth, Biofeddygaeth, Geneteg, Fferylliaeth, Bydwreigiaeth, Therapi Iaith a Lleferydd, Therapi Galwedigaethol, Gwaith Cymdeithasol – ac mae mwy o ddatblygiadau yn yr arfaeth. Mae’r buddsoddiad hwn yn dechrau cael dylanwad gyda dros 200 o fyfyrwyr bellach yn astudio gyda rhannau o’u cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg yn y meysydd yma.

Dim ond un rhan o jig-so mwy cymhleth yw myfyrwyr. Mae’r mwyafrif helaeth o weithlu’r GIG ymhen 10 mlynedd eisoes wedi’i gyflogi gan y GIG – felly mae angen mynd i’r afael â hyfforddiant yn y gweithle hefyd. Bydd rhan allweddol o’r seminar yn trafod y math o hyfforddiant sydd ei angen – ac i gychwyn y drafodaeth awgryma’r Coleg fodel pyrmaid.

 

Ein barn ni yw bod datblygu ymwybyddiaeth iaith yn sgìl craidd, sgil y gellid ac y dylid ei ddatblygu ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Gan adeiladu ar CAEA (Cwrs ar-lein enfawr agored / MOOC) a lansiwyd yn ddiweddar  ar gyfer Ymwybyddiaeth Iaith mewn Gwaith Cymdeithasol (partneriaeth rhwng y Coleg Cymraeg a’r Cyngor Gofal), mae modelau y gellid eu datblygu i ddarparu hyfforddiant o’r fath yn ddi-drafferth ac yn gost effeithiol.

Ar lefel arall, mae nifer sylweddol o fyfyrwyr a staff y gellid eu hannog i wneud mwy o ddefnydd o’u Cymraeg wrth gyfathrebu â chleifion. Efallai na fydd rhai staff yn hyderus yn trafod diagnosis yn Gymraeg – ond efallai yn hapus i drafod amrywiaeth o agweddau am fywyd bob dydd y claf yn y Gymraeg. Byddai hyn mewn llawer o achosion yn gwella gofal.

Ac ar frig y pyramid mae’r angen am weithwyr proffesiynol iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gallu ymarfer yn hyderus ddwyieithog. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer y rhai sy’n ymdrin â grwpiau mwy bregus – pobl iau, pobl hŷn a’r rhai ag anawsterau iechyd meddwl. Mae symud tuag at gynnig cyrsiau prifysgol cwbl ddwyieithog yn gam mawr yn y cyfeiriad iawn yma.

Mae rhywfaint o waith, felly, wedi ei gwblhau yn barod, ond mae cymaint mwy i’w wneud – a llawer i’w trafod yn y seminar. Yn angenrheidiol, fodd bynnag, os ydym am wella ansawdd y gofal a ddarperir i Iris, Jac a James a llawer tebyg iddynt – mae’r her sydd o flaen strategaeth nesaf Llywodraeth Cymru ar y Gymraeg mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn un fawr.

Dr Dafydd Trystan yw Cofrestrydd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol Mae'r seminar 'Gweithlu Dwyieithog ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol' yn cael ei gynnal yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar 25 Chwefror. Mae cofrestru yn rhad ac am ddim - cysylltwch â Lisa Haf - [email protected] i gofrestru

Also within Politics and Policy