‘Being the Change’ WCVA photo series: Hope Rescue

Mae’r arddangosfa ‘Ni yw’r Newid’ yn taflu goleuni ar y cyfraniad rhagorol a wneir gan staff a gwirfoddolwyr at yr elusennau a’r mentrau cymdeithasol hyn. / The ‘Being the Change’ exhibition throws a spotlight on the wonderful contribution made by staff and volunteers to these charities and social enterprises.

Hope Rescue
Y gwirfoddolwyr Lois Bolton, Alison Jakob ac Angela Morris, gyda Connie sy’n deirblwydd oed

 

Mae Hope Rescue yn achub bywydau cŵn crwydr a chŵn dieisiau, a hynny ers 2005. O’u canolfan yn Llanharan, maent yn helpu dros 800 o gŵn y flwyddyn, sef tua chwarter yr holl gŵn crwydr yng Nghymru.

 

Maent yn helpu cŵn yn Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a gorllewin Bro Morgannwg. Maent hefyd wedi ymrwymo i dderbyn pob ci crwydr o Flaenau Gwent, Merthyr Tudful, a Thorfaen.

 

Mae Hope Rescue yn dibynnu ar wirfoddolwyr fel Lois, Alison ac Angela, sy’n helpu i roi gobaith i gŵn fel Connie. Mae hi’n deirblwydd oed, wedi bod dan ofal Hope Rescue ers Rhagfyr 2016 ac yn chwilio am gartref newydd.

 

Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru (WCVA) yw’r mudiad aelodaeth cenedlaethol i’r trydydd sector yng Nghymru. Mae ein harddangosfa luniau ‘Byw i arall yw byw yn iawn’ yn darlunio dim ond 11 o’n 900 o aelodau. Mae’r arddangosfa hon yn taflu goleuni ar y cyfraniad rhagorol a wneir gan staff a gwirfoddolwyr at yr elusennau a’r mentrau cymdeithasol hyn.

 

Mae’r 11 llun yn cipio angerdd ac ymroddiad y bobl arbennig hyn at eu dewis fudiad. Byddai Cymru yn sicr ar ei cholled hebddynt. Gyda’i gilydd, mae’r lluniau hyn yn cynrychioli’r holl aelodau o staff a gwirfoddolwyr sy’n gweithio ar hyd a lled Cymru, yn y 32,000 o fudiadau a amcangyfrifir sydd yn y trydydd sector. Mae pob un ohonynt yn barod i weithredu dros eraill a dros y newid yr hoffent ei weld yng nghymdeithas. Ond gallwn ni gyd gefnogi’r newid hwn. Mae yna elusen neu fenter gymdeithasol sydd eich angen chi. Ewch amdani a helpwch y mudiadau hyn i ffynnu, er lles pawb yng Nghymru.

 

Tynnwyd y lluniau hyn i gyd gan y ffotograffydd Warren Orchard sy’n gweithio’n bennaf yn y cyfryngau a’r sector hysbysebu, i gwmnïau fel Netflix, Channel 4, Universal a Warner Brothers, ac fe enillodd wobr Bafta Cymru yn ddiweddar am ei ddilyniant ar ddechrau penodau cyfres deledu Y Gwyll / Hinterland.

 

Lansiwyd yr arddangosfa yn gofod3 ar 21 Mawrth ac ar gael i’w gweld eto yn Eisteddfod Genedlaethol Llanrwst rhwng 3 a 10 Awst 2019.

 


Hope Rescue
Volunteers Lois Bolton, Alison Jakob and Angela Morris, with three-year-old Connie

 

Hope Rescue has been saving the lives of stray, abandoned and unwanted dogs since 2005. Based in Llanharan, they help 800 dogs a year, which is approximately a quarter of all strays in Wales.

 

They help dogs in Rhondda Cynon Taff, Bridgend and the western part of the Vale of Glamorgan. They are also committed to taking in all stray dogs from Blaenau Gwent, Merthyr Tydfil, and Torfaen.

 

Hope Rescue is indebted to volunteers like Lois, Alison and Angela, who help give hope to dogs like three-year-old Connie. She’s been in Hope Rescue’s care since December 2016 and is currently looking for a new home.

 

Wales Council for Voluntary Action (WCVA) is the national membership organisation for the third sector in Wales. Our ‘Being the Change’ photo exhibition showcases just 11 of our 900 members. This exhibition throws a spotlight on the wonderful contribution made by staff and volunteers to these charities and social enterprises.

 

These 11 images capture the passion and commitment of these extraordinary people to their chosen organisation. Wales would certainly be the poorer without them. Together, these images represent all staff and volunteers who work the length and breadth of Wales, in what is estimated to be over 32,000 third sector organisations. Each and every one of them are being the change they want to see in society. But we can all be that change. There is a charity or social enterprise that needs you. Get involved and help these organisations thrive, so we can improve the wellbeing of all people in Wales.

 

All images were taken by photographer Warren Orchard who predominantly works within the media and advertising sectors, for the likes of Netflix, Channel 4, Universal and Warner Brothers, recently winning a Bafta Cymru for his title sequence for the TV series Hinterland / Y Gwyll.

 

The exhibition will be available to view at the Eisteddfod Genedlaethol in Llanrwst from 3rd to 10th August 2019.

 

All articles published on Click on Wales are subject to IWA’s disclaimer.

Also within Uncategorised