Dim ond diwrnodau sydd ar ôl i gofrestru i bleidleisio a chodi eich llais yn yr etholiadau lleol ym mis Mai

Mae Rhydian Thomas yn annog pleidleiswyr ar draws Gymru i gofrestru i bleidleisio erbyn y dyddiad cau ar ddydd Iau er mwyn iddynt allu dweud eu dweud ar 5 Mai

Yr adeg hon y llynedd, roedd etholiadau’r Senedd ar y gorwel.

Roedd hwn yn ddigwyddiad mawr yng nghalendr etholiadol Cymru. Roedd yn nodi nid yn unig yr etholiad cenedlaethol cyntaf yng Nghymru ers y pandemig, ond hefyd y cyfle cyntaf i bobl ifanc 16-17 mlwydd oed sydd newydd eu rhyddfreinio a gwladolion tramor sy’n byw yng Nghymru i gymryd rhan mewn etholiad yng Nghymru.

Eleni mae gennym etholiadau llywodraeth leol yn cael eu cynnal ar draws Gymru ar ddydd Iau Mai 5 a bydd pobl ifanc 16-17 mlwydd oed a gwladolion tramor unwaith eto yn gymwys i bleidleisio. 

Dim ond tua 50% o bobl ifanc 16-17 mlwydd oed sydd newydd eu rhyddfreinio sydd wedi cofrestru i bleidleisio cyn etholiad y Senedd.

Gwnaeth ein hadroddiad yn dilyn etholiad y Senedd ganfod bod angen addysg ac ymgysylltu pellach i gynorthwyo pleidleiswyr newydd gyda deall etholiadau yng Nghymru a sut i gymryd rhan ynddynt. Er bod yr ymchwil wedi canfod bod y rhan fwyaf o bobl yn fodlon gyda’r prosesau cofrestru i bleidleisio a phleidleisio, roedd rhai pleidleiswyr newydd wedi’i chael hi’n anoddach i gymryd rhan nag etholwyr sydd wedi pleidleisio sawl gwaith. Dim ond tua 50% o bobl ifanc 16-17 mlwydd oed sydd newydd eu rhyddfreinio sydd wedi cofrestru i bleidleisio cyn etholiad y Senedd.

Yma yn y Comisiwn, un o’n prif gyfrifoldebau yw gwneud yn siŵr bod etholwyr cymwys yn gallu cofrestru a phleidleisio, pe baent yn dewis gwneud hynny. Dros y 18 mis diwethaf, rydym wedi datblygu deunyddiau addysg i athrawon a dysgwyr i helpu pobl ifanc i ddeall ein proses ddemocrataidd yn well, er mwyn iddynt allu cymryd rhan mewn etholiadau yn hyderus. Yn ogystal, rydym wedi rhedeg ein hymgyrch ‘Croeso i Dy Bleidlais’, gan dargedu pleidleiswyr sydd newydd eu rhyddfreinio, ac wedi gweithio’n agos gyda’n partner llais yr ieuenctid, The Democracy Box, i sicrhau bod ein negeseuon a’n deunyddiau’n cyrraedd pobl ifanc.

Ochr yn ochr â’r gwaith hwn gyda phleidleiswyr newydd, rydym wedi parhau i weithio gyda sefydliadau sy’n bartneriaid, gan gynorthwyo grwpiau eraill a allai wynebu rhwystrau ychwanegol i gofrestru, megis rhai pobl ag anableddau, y rheiny sy’n profi digartrefedd a’r sawl sy’n goroesi cam-drin domestig, i ddatblygu adnoddau gwybodaeth arbennig i bleidleiswyr. Eleni, mae ein partneriaid yng Nghymru wedi cynnwys RNIB Cymru, Llamau, Mencap, Cymorth i Ferched Cymru a Sipsiwn a Theithwyr Cymru. 

Gofod i drafod, dadlau, ac ymchwilio.
Cefnogwch brif felin drafod annibynnol Cymru.

 

Ein nod yn ein holl waith allgymorth a phartneriaeth yw dangos bod gwleidyddiaeth yn effeithio ar bopeth yn ein cymunedau a’n cymdeithas, a bod cymryd rhan mewn etholiadau’n rhoi cyfle i chi sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed. Ar 5 Mai, er enghraifft, bydd gan bleidleiswyr y cyfle i ddewis cynghorwyr lleol, a fydd yn gwneud penderfyniadau ar faterion sy’n effeithio’n uniongyrchol ar eu hardal leol, megis cyfleusterau hamdden, parciau, ffyrdd a gwasanaethau addysg.

Fodd bynnag, dim ond pleidleiswyr cofrestredig fydd yn cael y cyfle i ddweud eu dweud. Felly dylai unrhyw un sy’n pleidleisio am y tro cyntaf ym mis Mai, neu sydd wedi symud tŷ yn ddiweddar, wneud yn siŵr eu bod wedi cofrestru cyn y dyddiad cau – 23:59 ar Ddydd Iau 14 Ebrill.

Mae cofrestru i bleidleisio yn gyflym ac yn hawdd, ac mae’n bosibl i chi ei wneud ar-lein. Dim ond 5 munud mae’n ei gymryd – yr amser mae’n ei gymryd i ddarllen yr erthygl hon. Ewch i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio a nodwch eich dyddiad geni, cyfeiriad a rhif Yswiriant Gwladol. 

Unwaith y byddant ar y gofrestr, yr unig beth sydd angen i bleidleiswyr feddwl amdano yw sut y byddant yn dymuno bwrw eu pleidlais. Gallant bleidleisio’n bersonol, trwy’r post, neu drwy benodi rhywun maent yn ymddiried ynddynt i bleidleisio ar eu rhan, a elwir yn bleidlais drwy ddirprwy. Ewch i’n gwefan i gael rhagor o wybodaeth am sut i wneud hyn.

Y mis Mai hwn, cynhelir cynlluniau peilot hyblyg mewn pedair sir* yn Ne Cymru fel rhan o agenda diwygio etholiadau Llywodraeth Cymru. Bydd cyfle gan y pleidleiswyr yn yr ardaloedd hyn i bleidleisio’n gynnar mewn lleoliadau sy’n wahanol i’w gorsafoedd pleidleisio arferol. Mae hwn yn ymgais i’w gwneud hi’n haws i bleidleisio mewn man ac ar amser sy’n fwy cyfleus. Byddwn yn gwerthuso’n llawn y cynlluniau peilot hyn ac yn adrodd ar y gwersi sy’n cael eu dysgu, gan gynnwys rhoi argymhellion i Lywodraeth Cymru.

Sut bynnag y dymunwch bleidleisio ym mis Mai, cofiwch mai pleidleisio yw’r unig ffordd y gallwch sicrhau eich bod yn cymryd rhan yn ein proses democrataidd, ac rydym yn annog pawb yng Nghymru i wneud yn siŵr eu bod yn dweud eu dweud.

*Mae cynlluniau peilot pleidleisio’n gynnar yn cael eu cynnal ym Mhen-y-bont ar Ogwr, Blaenau Gwent, Caerffili a Thorfaen yn unig. I gael rhagor o wybodaeth am y cynlluniau peilot, cysylltwch â’r tîm Gwasanaethau Etholiadol perthnasol.


All articles published on the welsh agenda are subject to IWA’s disclaimer.

Rhydian Thomas is Head of the Electoral Commission in Wales.

Also within Politics and Policy