Prosiect yn archwilio’r hunaniaeth Gymreig a pherthynas benodol unigolion gyda’g anghenion dysgu â’r iaith Gymraeg a’i diwylliant drwy’r celfyddydau.
Y mae Cymru’n mwynhau amrywiaeth eang o bobloedd sy’n dymuno dysgu’r Iaith, ond, yn anffodus, un o’r camsyniadau mwyaf simplistig yw’r syniad fod unigolyn a chanddo anhawster dysgu dueddiad i ‘sticio’ at un iaith ac un iaith yn unig, ac mai elfennol yw’r defnydd o iaith yn gyffredinol. Haerir mai cyfathrebu’n ffeithiol, syml ar sail gywybodaeth yn unig a wneir.
Fodd bynnag, mae Prifysgol Bangor wedi arloesi yn y maes hwn a hwy yw’r cyntaf i wneud yr astudiaeth gyda’r Iaith Gymraeg a’r Saesneg fel prif ffocws. Y mae’r ffrwyth ymchwil yn cadarnau nad oes unrhyw reswm pam na all unigolyn a chanddo unrhyw fath o anawsterau drawsieithu’r un mor effeithiol ag unrhyw un arall. Felly, gellid amddifadu unigolion o’u hunaniaeth yn sgîl y camsyniad hwn. Yn wir, un o’r prif ganfyddiadau yw fod cysylltiad yr unigolyn â’r iaith, yn llawer pwysicach nag unrhyw anhawster. A dyma ble daw’r prosiect hwn i rym.
Yr Ymchwil
‘Children with Down syndrome can and do become bilingual. Initial findings of a research study at Bangor University suggest that speaking two languages is not in any way detrimental to the language development of children with Down syndrome. Bangor University is working with the Down’s Syndrome Association in Wales to examine language in Welsh–English bilingual children with Down syndrome and children exposed to English only. Researchers tested expressive and receptive language skills, as well as phonological awareness, the ability to manipulate speech sounds, in both languages. The English of the two groups was found to be at the same level.’ – Ymchwil Dr Rebecca Ward a Dr Eirini Sanoudaki – darlithwyr ym mhrifysgol Bangor a fu’n cydlynu’r ymchwil dros y dwy flynedd ddiwethaf:
Language profiles of Welsh-English bilingual children with Down syndrome.
Mae gwir berygl yma felly i bobl golli allan ar eu hunaniaeth a diwylliant eu hunain trwy ragfarnu ar sail anabledd neu gyflwr meddygol. Noda’r ymchwil:
‘Results show no effect of language status on measures of expressive and receptive language abilities or phonological awareness. Language impairments were evident for both DS groups, particularly for expressive morphosyntax. Welsh receptive vocabulary scores of the bilinguals with DS were comparable to the TD bilinguals.’
Yn syml, nid oes gwahaniaeth rhwng unigolion heb Gyflwr Down’s ac unigolion sy’n byw efo’r cyflwr.
Robust debate and agenda-setting research.
Support Wales’ leading independent think tank.
Dwyieithrywdd? Dim problem!
Erthygl Bilingualism No Problem for Children with Down Syndrome
Byd Cyfarwydd…
Mae Pontio’n hen gyfarwydd â gweithio er hyrwyddo dwyieithrwydd gyda grwpiau penodol yng Nghymru. Meddai Mared Huws, un o’r cydlynwyr:
‘Rydym wedi bod yn gweithio gyda phobl ifanc ein gweithdai drama wythnosol BLAS yn edrych ar hanes a diwylliant Cymru drwy ddrama ac mae wedi cael effaith gadarnhaol ar agwedd y bobl ifanc (llawer o gartrefi Di-gymraeg). Drwy ddeall hanes yr Iaith, maent wedi deall pa mor lwcus ydynt yn cael dwy iaith, a sut mae’r iaith yn helpu iddynt fynegi eu hunain.
Gyrru Cymru yn ei blaen drwy ddulliau creadigol – dyna’r nod cyson. Defnyddio’r celfyddydau a byd y theatr fel offeryn er mwyn gyrru’r agenda ieithyddol yn ei blaen. Yng ngeiriau Mared Huws:
‘Dwi’n credu’n gryf ym mhŵer y celfyddydau, mae’n fodd o drosglwyddo gwybodaeth mewn modd hwyliog ac mae’n le saff i bobl fynegi barn a thrafod…Hefyd, mae’n hwyl. Mae wedi cael ei brofi dro ar ôl tro fod pobl yn dysgu yn well wrth fwynhau.’
Prif amcanion
- Dangos i bobl sydd heb gael y cyfle i ddysgu Cymraeg, fod y Gymraeg i bawb a bod hanes yr Iaith yn hanes Cymru.
- Archwilio technegau newydd o drosglwyddo’r iaith drwy ddefnyddio diwylliant a chelfyddyd i weld beth sydd yn effeithiol – a beth sydd ddim. ‘Byddwn yn creu pecyn ar y diwedd i fudiadau yn sôn am yr hyn a ddysgwyd, a sut gallent hwy hyrwyddo’r iaith mewn modd hwyliog a pherthnasol.’
‘Ymroddi, Galluogi, Rhagori’ – dyma arwyddair Annedd Ni, mudiad sy’n gweithio gydag oedolion a chanddynt anawsterau dysgu neu gorfforol yng Ngwynedd. Mae’r syniad o ‘droi hanes ddoe yn hyder heddiw’ yn gynllun celfyddydol cyffrous sy’n bwriadu olrhain ein gorffennol fel gwlad a’i ddefnyddio fel platfform i feithrin hyder unigolion arbennig iawn yn y Gymraeg trwy gyfrwng y celfyddydau creadigol.
Dyma brosiect arloesol, beiddgar, gyda’r bwriad o weithio gydag ‘Anedd Ni’ i gynnig sesiynnau therapiwtig, addysgol, diwylliannol a chymdeithasol i oedolion a chanddynt anghenion dysgu penodol neu gorfforol. Rhoddwyd taw ar brosiect Lleisiau’r Annedd mewn cydweithrediad ag Annedd Ni gan gyfyngiadau Covid, ac felly, gyda’r awch eisoes yno i gyd-weithio gyda’r mudiad yn glir, y mae’r brwdfrydedd ac awydd i ail-gydio yn y cyswllt yn sylweddol.
Wrth i Blas gyd-weithio ar brosiect diwylliannol-gyfnewidiol yn Iwerddon, sylwyd ar y modd y defnyddid elfennau ‘traddodiadol’ megis clocsio, noson lawen, canu gwerin – pethau hwyliog yn y bôn – i drochi’r plant mewn hanes a diwylliant. Gwelwyd fod y plant mor brysur yn mwynhau eu hunain yn datblygu sgíl newydd, doedden nhw ddim yn sylweddoli eu bod, ar yr un pryd, yn hogi arfau ieithyddol. Roedden nhw’n dysgu iaith heb sylwi eu bod yn dysgu. A dyma ble ddaeth y syniad gan Mared Huws. A hithau eisoes wedi bod yn gweithio gydag Anedd Ni am flynyddoedd, roedd yn gwbl naturiol oedd iddi blethu’r deupeth ynghyd – gweithgareddau hwyliog, dargyfeiriol bron, a dysgu iaith. Gwelwyd hyn fel cyfle euraidd i alluogi carfan benodol o oedolion i ymdrochi’n eu diwylliant eu hunain am y tro cyntaf – diwylliant amddifad efallai, i’r unigolion dan sylw. Mae’r prosiect yma felly’n un sy’n archwilio sut gallwn ddefnyddio gweithgareddau sydd yn dathlu hanes a diwilliant Cymru fel modd i anog a chefnogi dysgu Cymraeg i oedolion gydag anableddau dysgu. Ar ei ddiwedd, byddwn yn creu adroddiad neu becyn i fudiadau yn cyflwyno’r arddulliau sydd wedi gweithio orau yn y broses o gaffael neu ddysgu iaith.
Am luniau o’r prosiectau diweddaraf / nesaf cliciwch yma i fynd at wefan AnneddNi.
GALWAD is part of UNBOXED: Creativity in the UK, co-commissioned with Creative Wales with funding from Welsh Government and UK Government. GALWAD was a week-long story told in real-time across social and broadcast channels which asked what if the future made contact with us. You can watch the full story at www.galwad.cymru/watch
All articles published on the welsh agenda are subject to IWA’s disclaimer.