Yn ei lyfr The Good Ancestor, mae Roman Krznaric yn disgrifio’r cwestiwn a godwyd gan aelod o’r tîm a ddatblygodd frechlyn rhag polio. Gofynnodd Jonas Salk: ‘Are we being good ancestors?’
Mewn byd sydd, i bob golwg, yn troi o amgylch natur ddisyfyd gwybodaeth, a ddaw o bob cwr o’r byd ac sydd ar gael ar unwaith ar ddyfeisiau sydd ar flaenau ein bysedd drwy’r amser, mae ein sylw yn aml wedi’i hoelio’n ddiarbed ar y presennol.
Ac eto yng Nghymru o leiaf, dylem fod wrthi’n gwneud pethau’n wahanol. O dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol a weithredwyd yn 2015, mae’n ofynnol i gyrff cyhoeddus ddilyn ‘Ffyrdd o Weithio’. Un o’r rhain yw ‘meddwl yn y tymor hir’.
Mae hyn yn achosi cryn densiwn; mae llawer o gyrff cyhoeddus yng Nghymru, ar ôl mwy na degawd o gyni cyllidol, o bosibl yn canolbwyntio’n dactegol ar y sefyllfa bresennol mewn ymateb i broblemau dilys a dybryd mewn perthynas â darparu gwasanaethau. Pam y byddai rhywun yn poeni am fyd 80 mlynedd yn y dyfodol, a ninnau o dan rwymedigaethau statudol sydd i’w cyflawni heddiw, yfory a’r wythnos nesaf? Efallai y bydd dull gweithredu strategol yn defnyddio safbwynt hirdymor i helpu i lunio, a gwella o bosibl, benderfyniadau tactegol angenrheidiol y presennol.
Yn y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol rydym wedi cael anhawster i ddatblygu, neu fabwysiadu, fframwaith ar gyfer ein gwaith ‘at y dyfodol’ ein hunain. Sut y gallwn ddychmygu beth fyddai anghenion rhywun a anwyd yn 2104, er enghraifft?
Mae Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru mewn sefyllfa unigryw o bosibl yng nghyd-destun llinell amser o syniadaeth. Mae ein cylch gorchwyl yn ei gwneud yn ofynnol i ni ystyried anghenion seilwaith Cymru o fewn 5 i 80 mlynedd yn y dyfodol.
Mae’r terfyn amser hwn yn achosi heriau. Yn y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol rydym wedi cael anhawster i ddatblygu, neu fabwysiadu, fframwaith ar gyfer ein gwaith ‘at y dyfodol’ ein hunain. Sut y gallwn ddychmygu beth fyddai anghenion rhywun a anwyd yn 2104, er enghraifft? Byddai’n debyg i ofyn i rywun yn 1945 ddychmygu anghenion seilwaith 2025, a’i gael i gynnig argymhellion i wella ein bywydau drwy ddefnyddio technegau, syniadau a thechnolegau’r oes honno.
Ond bydd gan bobl 2100 yr un hawl â ninnau i fyw bywyd iach a phleserus. Nid yw’r ffaith eu bod yn byw mewn oes wahanol, ymhell yn y dyfodol, yn golygu nad ydynt yr un mor werthfawr ag unrhyw un sy’n byw heddiw, gan gynnwys darllennydd y frawddeg hon. Ni allaf weld unrhyw reswm athronyddol pam na ddylem ymdrechu eto i geisio gwneud penderfyniadau yn awr sy’n gwarchod byd natur, yr amgylchedd a’r hinsawdd, i bobl a chymunedau Cymru a fydd yn byw mewn byd sy’n wynebu holl oblygiadau ein penderfyniadau – er gwell gobeithio.
Syniadau uchelgeisiol, awdurdodol a mentrus.
Ymunwch â ni i gyfrannu at wneud Cymru gwell.
Credaf, drwy arddel safbwynt hirdymor, y gall hynny helpu i wella penderfyniadau yn y byrdymor. Un enghraifft o hynny yw’r Adolygiad Ffyrdd. Yn ei hymateb derbyniodd Llywodraeth Cymru yr egwyddor o ddefnyddio profion i ganiatáu adeiladu ffyrdd newydd. Mae’r profion y cytunwyd arnynt yn cynnwys sicrhau mwy o newid o ran dulliau teithio, lleihau allyriadau carbon, gwella diogelwch, gwella’r ffordd y caiff ffyrdd eu haddasu i’r newid yn yr hinsawdd, a gwella canlyniadau economaidd drwy well cysylltedd. Mae pob un o’r profion hyn yn dwyn cysylltiad â llesiant pobl ymhell i’r dyfodol.
Byddai trigolion Cymru 2100 siŵr o fod yn cymeradwyo’r syniad o adeiladu llai o ffyrdd ond gwell ffyrdd sy’n gallu gwrthsefyll y newid yn yr hinsawdd yn well, ac felly sy’n fwy tebygol o fod yn fuddsoddiad a fydd yn para hyd at eu realiti hwythau. I mi, mae’r Adolygiad Ffyrdd yn pasio prawf ‘hynafiad da’.
Y farn yn y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol oedd bod yr Adolygiad Ffyrdd yn gyson ar y cyfan â’n fframwaith ein hunain sy’n cynnwys meddwl yn y tymor hir, er bod gennym rai awgrymiadau i wella canlyniadau i fyd natur, gwella parodrwydd digidol, a defnyddio dull systemau i ymgorffori anghenion seilwaith ehangach.
Mae polisïau fel hwn yn arwydd bod y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu o ran meddwl yn y tymor hir yn datblygu. Hyd yn oed os nad yw’r sector cyhoeddus wedi’i ddarbwyllo eto am feddwl at y dyfodol, credaf fod ymarferwyr cynaliadwyedd yn dechrau gweld Cymru fel arloeswr polisi yn y DU, a thu hwnt hefyd.
Mae’r casgliad hwn o draethodau yn ysbrydoledig ac yn heriol. Drwy ofyn i’r cyfranwyr ddychmygu anghenion seilwaith Cymru yn y tymor hir iawn, rydym wedi gofyn iddynt fynd y tu hwnt i’r hyn sy’n gynefin iddynt. Yr her i ni, ac i bawb arall yng Nghymru, yw mynd y tu hwnt i’r hyn sy’n gynefin i ni ac i bob un ohonom ar y cyd a cheisio ystyried y ‘ni’ a fydd yn byw yma ymhell yn y dyfodol pan fyddwn yn gwneud penderfyniadau am heddiw. Gadewch i ni gyd ymdrechu i fod yn hynafiaid da.
Mae’r traethawd hwn yn rhan o gyfres a gomisiynwyd ar y cyd â Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.