Prif Araith Cynllunydd Gwasanaethau Cyhoeddus a roddwyd i Gyngor Llesiant y Byd ym mis Ebrill 2100, yn nodi 85 mlynedd ers pasio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015
‘Mae’r bywyd da yn cael ei ysbrydoli gan gariad a’i dywys gan wybodaeth’
Neges Betrand Russell i genedlaethau’r dyfodol
Hoffwn ddiolch i aelodau Cyngor Llesiant y Byd am ei wahoddiad hael i’r cyfarfod hwn, er fy mod i’n teimlo pwysau’r rôl hon ar fy ysgwyddau.
Prin bod unrhyw debygrwydd rhwng y Gymru sydd ohoni a byd ein rhieni a’u cyndeidiau. Yn ôl yn 2015, roedd Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn ymdebygu i arbrawf diddorol, sibrwd o feddwl yn y tymor hir a oedd yn cael ei golli ynghanol economeg fyrdymor. Roeddem wedi ein dal mewn cylch seithug – ansefydlogrwydd cyffredinol, aflonyddwch cymdeithasol, a dirywiad cynyddol i entropi biolegol a seicolegol. Roedd yn argoeli trychineb, a daeth trychineb yn ei sgil.
Mae polisi yn ddiflas i lawer o bobl, ond mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol yn teimlo fel trobwynt i mi, hyd yn oed 85 mlynedd wedi’i phasio. I’r rhai a oedd yn llunio polisi bryd hynny, rwy’n dychmygu ei bod yn teimlo fel petai alaw fach wrthryfelgar yn cael ei chanu yng nghanol y twrw, sibrwd yn erbyn y storm.
Tua 2035, fel y gwyddom oll, aeth pethau’n ddu ar y byd. Daeth tywydd eithaf yn beth cyffredin, dinistriwyd cnydau gan lifogydd a sychder, a chododd prisiau bwyd a biodanwydd yn aruthrol. Cymerodd poblogaeth fyd-eang llawn anobaith ran yn yr Orymdaith Fawr dros Hinsawdd, cri unedig dros newid a adleisiodd dros y blaned.
Yma yng Nghymru, daeth ein Deddf, a fu unwaith mor newydd, a’i harbrawf ecsentrig mewn meddwl yn gwch achub i ni. Drwy’r fframwaith a sefydlodd, a ystyriwyd yn idealistig gan lawer, aethom ati’n dawel bach i osod y sylfeini ar gyfer dyfodol cynaliadwy: ynni adnewyddadwy, rhoddgarwch entrepreneuraidd, a chreu cymunedau cydnerth a chadarn. Pan dorrodd y storm, roeddem ychydig o gamau o flaen pawb arall. Daeth ein rhagwelediad yn symbol o obaith, yn denu sylw’r byd. Nid athrawiaeth leol yn unig ydyw; mae’n sylfaen i fudiad byd-eang a arweinir gan neb llai na Chymru ei hun.
Fel cynllunydd gwasanaethau cyhoeddus di-nod yn y Weinyddiaeth Dylunio Atgynhyrchiol, rwy’n hynod falch bod ein cenedl fach ni, a fu gynt yn enwog am rygbi, defaid a chanu, bellach yn sbardun i ymgais unedig i sicrhau llesiant a chynaliadwyedd byd-eang.
Mae’n bleser bod yma gyda’n gilydd, yng nghyfarfod blynyddol Cyngor Llesiant y Byd yn y seiberfiosffer. O dan eich baner, mae gwledydd heddiw yn cydweithio ar bopeth o fentrau ynni adnewyddadwy i gynhyrchu bwyd ar raddfa fioranbarthol, a phleser i mi yw cynrychioli Cymru heddiw. Gyda llaw, ac fel y bydd aelodau’r Cyngor yn hollol ymwybodol, rydym yn ddyledus i weledydd o Gymru am y modwl hwn – Betrand Russell a’i syniad beiddgar o ‘lywodraeth unedig y ddynolryw’. Daeth Cymru, a’i hanes hir o syniadaeth flaengar, a llwyddiant fframwaith Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, wir yn gadarnle annhebygol!
Bydd fy araith fel prif siaradwr i’r Cyngor yn tynnu sylw at rai o’r arferion gorau rydym wedi’u datblygu yn ein llifau gwaith estynedig yn y Weinyddiaeth Dylunio Atgynhyrchiol yng Nghymru, yn y gobaith y gallwn barhau â’n rôl o lunio ffyrdd newydd a gwell o weithio gyda’n gilydd.
Yr arfer cyntaf, a mwyaf hanfodol o bosibl, yw’r Gwasanaeth Sylfaenol Cyffredinol. Gan gydnabod cyfyngiadau incwm sylfaenol cyffredinol traddodiadol, mae Cymru wedi cyflwyno Gwasanaeth Sylfaenol Cyffredinol. Mae hwn yn mynd y tu hwnt i sicrwydd incwm, gan roi mynediad i wasanaethau hanfodol fel dŵr glân, bwyd a gynhyrchir yn lleol, ynni adnewyddadwy, a seiberfiosffer amledd uchel. Mae hyn yn cael gwared ar anghenion sylfaenol fel rhwystr i dwf personol ac yn rhoi cyfle i bawb ganolbwyntio ar eu hoff bethau.
Gofod i drafod, dadlau, ac ymchwilio.
Cefnogwch brif felin drafod annibynnol Cymru.
Mae gan bob trigolyn, a’i anghenion sylfaenol wedi’u diwallu, y rhyddid i archwilio eu potensial creadigol. Gall pawb ymgymryd â phrosiectau artistig, gwirfoddoli yn eu cymunedau, neu ddysgu sgiliau newydd. Mae’r Gwasanaeth Sylfaenol Cyffredinol yn grymuso unigolion i gyfrannu’n ystyrlon at gymdeithas a chreu bywydau llawn pwrpas a boddhad.
Un pwynt allweddol arall o ran y ffordd rydym yn gweithredu yw Llywodraethu Bioranbarthol.
Nid yw map Cymru heddiw yn gasgliad o siroedd na chodau post mwyach. Mae’r llinellau mympwyol a dynnwyd er cyfleustra weinyddol wedi diflannu. Yn lle hynny, mae’r wlad yn glytwaith o Gynefinoedd – bioranbarthau bywiog – endidau hunanlywodraethol ac iddynt ffiniau naturiol fel cefnau deuddwr, bryniau, a pharthau ecolegol. Mae’r rhanbarthau hyn, a lywir gan yr ecosystemau unigryw y maent yn eu cwmpasu, yn grymuso cymunedau i reoli eu hadnoddau a llunio atebion lleol i heriau’r hinsawdd.
Gallai bioranbarth arfordirol flaenoriaethu harneisio ynni llanw ac ynni’r gwynt, ond gallai rhanbarth mynyddig ddatblygu atebion trydan dŵr arloesol a chanolbwyntio ar arferion coedwigaeth gynaliadwy. Mae’r broses gwneud penderfyniadau leol hon yn meithrin dealltwriaeth ddofn o’r amgylchedd lleol ac yn hyrwyddo arferion rheoli adnoddau yn gyfrifol.
Dros y degawdau diwethaf, mae Cymru hefyd wedi gweld ei seilwaith yn cael ei ailddylunio’n radical. Nid ôl-ystyriaeth yw trafnidiaeth gyhoeddus mwyach. Mae gan Gymru rwydwaith o lonydd glas – llwybrau penodol i gerddwyr, beicwyr, eco-bodiau a cherbydau trydan sy’n cysylltu bioranbarthau. Rhai piesodrydan ydynt – sy’n golygu eu bod yn cynaeafu ynni o bwysau parhaus traffig. Mae deunyddiau a beiriannwyd yn benodol sydd wedi cael eu gosod yn arwyneb y ffordd yn troi pwysau a symudiad traffig yn drydan. Mae ffyrdd segur wedi cael eu hailbwrpasu’n ffermydd solar, sy’n ffynonellau o ynni ac yn goridorau gwyrdd ar yr un pryd. Strwythurau byw yw adeiladau cyhoeddus, sy’n integreiddio gerddi fertigol a systemau cynaeafu dŵr glaw er mwyn dyfrhau gerddi ac ail-lenwi dyfrhaenau.
Achosodd codiad yn lefel y môr gryn ddifrod yn y gorffennol gan orfodi llawer o gymunedau i symud i ardaloedd mewndirol. Er mwyn gwrthsefyll hyn, rydym wedi adeiladu morfuriau – ecosystemau wedi’u peiriannu o blanhigion sy’n gallu gwrthsefyll halen a cherrig wedi’u gosod yn strategol i efelychu morliniau naturiol, sy’n amsugno ynni tonnau ac yn cynnig cynefin i fywyd morol. Mae’r morfuriau byw hyn yn helpu i ddod â ni yn agosach i’r môr unwaith eto ac adfywio bywyd dyfrol.
Yn olaf, mae ‘rhoddwyr-entrepreneuriaid’ yn allweddol i’n ffordd o fyw yn y We-conomi.
Rydym wedi dysgu nad oes modd datrys unrhyw broblemau ecolegol na systemig drwy fodel economaidd sy’n canolbwyntio ar ddiwallu anghenion unigol heb gyfeirio at yr ecosystem y mae’n rhan ohoni. Mae prynwriaeth o’r diwedd wedi datblygu’n economi rhannu cydweithredol gadarn. Mae llyfrgelloedd adnoddau cymunedol yn disodli’r angen am berchnogaeth unigol, ac mae canolfannau gweithgynhyrchu ar alwad yn caniatáu cynhyrchu nwyddau hanfodol ar alwad, gan leihau gwastraff ac anghenion cludiant i’r eithaf.
Mae rhwydweithiau bargeinio a chyfnewid yn ffynnu bellach, sy’n meithrin ymdeimlad o ryngddibyniaeth o fewn a rhwng eco-glystyrau. Rydym yn cefnogi ein rhwydwaith o roddwyr-entrepreneuriaid wrth iddynt ddatblygu’r iteriad nesaf o Weithgarwch Atomaidd Fanwl sy’n trin atomau unigol i greu gwrthrychau ar lefel foleciwlaidd. Gallai ddileu gwastraff a chreu deunyddiau cryf, hyblyg a dargludol iawn. Dychmygwch argraffu dillad pwrpasol sy’n addasu’n berffaith i dymheredd eich corff neu adeiladau sy’n gallu atgyweirio eu hunain: mae’r datblygiadau technolegol hyn bellach o fewn cyrraedd.
Wrth gwrs, mae’r frwydr dros ddyfodol cynaliadwy’r blaned yn parhau. Mae heriau newydd o ran yr hinsawdd, tarfu ecolegol nas rhagwelwyd, a’u goblygiadau i gymdeithas yn anochel. Rydym yn arloesi ac yn addasu o hyd. Mae fy nhîm a minnau yn datblygu Arsyllfa Risgiau’r Dyfodol sy’n defnyddio dadansoddiad gAIA a data i adnabod bygythiadau posibl a datblygu cynlluniau wrth gefn.
Dim ond y llynedd, gwnaeth llifogydd sydyn ddifrod mawr i rannau o fioranbarth Ystwyth, gan ddadleoli teuluoedd ac achosi cryn ddifrod i seilwaith. Rydym yn gweithio i wella systemau rhagweld llifogydd a datblygu datrysiadau arloesol fel cysgodfannau hunanosodadwy a deunyddiau adeiladu sy’n gwrthsefyll llifogydd. Hefyd, mae llywodraethu bioranbarthol yn golygu bod modd addasu’n lleol. Mae bioranbarth Ystwyth bellach yn treialu rhaglen sy’n adfer gwlyptiroedd ac sy’n integreiddio gorlifdiroedd yn eu tirwedd, gyda’r nod o efelychu gallu naturiol ecosystemau cynddiwydiannol i gadw dŵr.
Ymhlith y rhai a ddadleolwyd roedd fy ffrind Dafydd; artist ifanc disglair y dinistriwyd ei stiwdio’n gyfan gwbl. Mae Dafydd yn gerflunydd sy’n enwog am ei waith syfrdanol sy’n cael ei grefftio o bren lleol, sydd bellach yn mynd i gael ei reoleiddio’n llym. Mae mewn cyfyng-gyngor. Mae’n credu’n gryf yn y ffordd y mae’r bioranbarth yn gweithredu a phwysigrwydd cyfrifoldeb amgylcheddol. Ond eto, mae’n ofni y bydd y cyfyngiadau ar bren yn llesteirio ei greadigrwydd ac yn ei orfodi i gefnu ar yr iaith artistig y mae wedi’i meithrin dros flynyddoedd.
Mae fy merch, Eira, yn wynebu problem arall. Mae newydd raddio ac mae’n cael trafferth dod o hyd i lwybr gyrfa boddhaus mewn byd lle mae llawer o’r swyddi wedi’u hawtomeiddio ac mae ganddi hawl i Wasanaeth Sylfaenol Cyffredinol. Mae awtomeiddio wedi rhyddhau pobl rhag tasgau diflas, ond mae hefyd wedi creu pryder ynglŷn â sicrwydd cyflogaeth ac ymdeimlad o bwrpas. Rydym yn llunio rhaglenni llesiant personol sy’n helpu dinasyddion i ddarganfod eu cryfderau a’u hoffterau, a’u cysylltu â chyfleoedd ystyrlon i wirfoddoli a rhaglenni ailhyfforddi sy’n canolbwyntio ar feysydd newydd fel bioefelychu ac amaethyddiaeth atgynhyrchiol.
Gwnaethom gyflawni llawer diolch i feddwl yn y tymor hir – llwyddwyd yn y pen draw i gyrraedd cyfraddau defnyddio cytbwys o ganlyniad i’r gwahanol fesurau a roddwyd ar waith, gan osgoi diwrnod gorhedeg y Ddaear. Ni fyddai Eira yn credu straeon ei thad-cu a’i mam-gu am safleoedd tirlenwi gorlawn a phlastigion untro. Erbyn hyn, mae popeth yn mynd drwy ail, trydydd, hyd yn oed degfed bywyd. Mae’n treulio ei phrynhawniau yn gweithio ar hen ddronau yn y lle cymunedol i wneuthurwyr, gan eu hailbwrpasu’n fonitorau amgylcheddol ar gyfer y bioranbarth lleol.
‘Dad-gu,’ bydd hi’n gofyn weithiau, yn crychu ei thalcen dan ganolbwyntio, ‘Oedd pobl wir yn taflu pethau yn yr hen ddyddiau?’ Mae fy nhad yn chwerthin am yr atgof o adlais pell. ‘Oedden, cariad. Mae’n ymddangos yn hurt erbyn hyn, ond yw e?’
Drwy gyflwyno’r gwaith hwn i Gyngor Llesiant y Byd heddiw, rydym am gynnig y dylai’r Arsyllfa ddod yn ymdrech fyd-eang. Drwy ymateb i’r heriau hyn ac arloesi o hyd, gall Cymru gryfhau ei sefyllfa fel arweinydd yn y mudiad byd-eang ar gyfer dyfodol cynaliadwy a theg. Mae’n daith y mae’n rhaid i bob un ohonom ei gwneud gyda’n gilydd, ac yn un lle mae cynllunwyr gwasanaethau fel minnau yn chwarae rôl hollbwysig i sicrhau llesiant nid yn unig i Gymru, ond i’r cenedlaethau sydd i ddod. Diolch am eich sylw.
Mae’r traethawd hwn yn rhan o gyfres a gomisiynwyd ar y cyd â Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.