Mae Duncan Fisher yn dadlau y gellir leihau llygredd carbon a gwrthsefyll ansicrwydd bwyd drwy ffordd ddatganoledig o ymdrin â’n systemau bwyd.
Nawr: system hynod ganolog
Mae system fwyd y byd yn ansefydlog, yn annibynadwy ac yn rhy ganolog – ac felly’n agored i risgiau. Ni ddylid diystyru’r perygl os gadawn i’r sefyllfa hon barhau: o fewn 48 awr yn unig gall anhrefn yn y gadwyn cyflenwi bwyd droi’n argyfwng. Yn yr hierarchaeth o risgiau, mae prinder bwyd yn agos i’r brig. Mae ein cadwyn gyflenwi yn dibynnu ar lond dwrn o archfarchnadoedd, a wasanaethir gan lond dwrn o systemau meddalwedd, a gysylltir â nifer bach o byrth. Mae ein cyflenwad bwyd yn wynebu bygythiad bythol gynyddol oherwydd y newid yn yr hinsawdd, rhyfel ac ansefydlogrwydd gwleidyddol sy’n creu rhwystrau newydd i fasnachu. Defnyddwyr sy’n talu’r pris yn y sefyllfa hon, a rhagwelir y bydd costau’n parhau i gynyddu wrth i’r cyflenwad fynd yn llai. Bydd hyn, yn ei dro, yn arwain at gynnydd yn nifer y bobl sy’n mynd islaw lefel fforddio bwyta. Yn y dyfodol gwelwn achosion sydyn o brinder o ganlyniad i argyfyngau unigol. Rydym eisoes wedi gweld y rhain yn ddiweddar.
Ond mae’r sefyllfa bresennol yn ddatblygiad cymharol ddiweddar, a ddechreuodd ar ôl yr Ail Ryfel Byd. Mae archifau ffotograffig yng Nghymru yn dangos trefi a chaeau o boptu lle y tyfid cnydau ar gyfer marchnadoedd lleol. Gwnaeth y Polisi Amaethyddol Cyffredin chwalu’r system hon a hefyd gyffredinoli cyfalaf, gyda’r holl system yn cael ei throsfeddiannu gan gorfforaethau bwyd mawr. Nid yw ein dull gweithredu presennol yn gwneud fawr ddim i fynd i’r afael â hyn, a ninnau wedi hollti trafodaethau ynglŷn â thlodi bwyd oddi wrth y drafodaeth am amaethyddiaeth gynaliadwy a datgarboneiddio. Mae angen i ni ystyried y risg i’n hinsawdd a’r risg i’n diogelwch.
Ar hyn o bryd, pan fydd gan ffermwyr ŵyn, maen nhw’n gwybod ble i’w gwerthu. Ond mae’r darlun yn wahanol iawn os edrychwn ar foron yn lle ŵyn. Does dim llwybr amlwg i’r farchnad a dim ffordd o wybod beth fydd y pris. Mae angen ailadeiladu’r fasnach, a gall galw cynyddol am fwyd a dyfir yn lleol helpu i gefnogi arallgyfeirio. Bwlch arall yw’r set o sgiliau sydd ar gael: bydd angen i ffermwyr yfory ddysgu sgiliau arbenigol i dyfu ffrwythau a llysiau mewn ffordd amaethecolegol ddwys. Gallai’r sgiliau hyn wella cynhyrchiant tir, o tua 151 gwaith yr incwm cyfartalog presennol yr erw yng Nghymru. Mae gan y ffermydd presennol rôl i’w chwarae, drwy arallgyfeirio eu gweithrediadau rhwng gweithrediadau bach arbenigol a gweithrediadau ar raddfa fwy. Mae’n rhaid i ni hefyd ryddhau ffermwyr oddi wrth y system bresennol, sy’n eu clymu wrth berthynas anghydradd ac anghynaliadwy â system fwyd y byd, gan achosi i’w prisiau fynd yn is ac yn is, sy’n golygu bod ffermwyr yn byw ar fin y gyllell. Er mwyn cadw’r elw yn lleol, mae angen i ni greu cadwyni cyflenwi newydd sy’n fyrrach ac o dan berchnogaeth leol, gan gynnwys ffermwyr eu hunain.
Yn 2100: Tuag at system fwyd ddatganoledig
Felly sut rydym yn paratoi ar gyfer y dyfodol fel y mae’n ymddangos ar hyn o bryd i ni? Un rhan allweddol o’r ateb yw arallgyfeirio’r gadwyn cyflenwi bwyd, sy’n golygu bod cyfran lawer mwy o’n bwyd yn cael ei thyfu’n lleol neu’n rhanbarthol. Nid sôn am ardaloedd gwledig yn bwydo eu hunain yn unig ydw i. Mae’r rhan fwyaf o’r bobl yn byw mewn dinasoedd ac felly ein prif her yw llunio llwybrau cyflenwi i mewn i ddinasoedd o gefn gwlad. Yn Ffrainc, mae dyletswydd statudol ar bob dinas i gynllunio ar gyfer bwydo eu poblogaeth o gefn gwlad.
Mae’n rhaid i ni ddechrau ailadeiladu economi fwyd amaethyddol newydd. Ar y lefel leol iawn, yn seiliedig ar gylch wythnosol, mae angen i ni weld mwy o fasnachu unigol, cynlluniau bocs, er enghraifft, Caiff y cylch wythnosol ei ysgogi gan ffrwythau a llysiau, gyda bwydydd eraill yn cael eu masnachu drwy’r sianeli newydd hyn. Un cyfle allweddol arall yw caffael gan awdurdodau lleol. Y cyfle mwyaf oll i’n ffermwyr yw bwydo’r dinasoedd, yng Nghymru ac yn Lloegr, fel Birmingham, Lerpwl a Manceinion.
Yr ail agwedd ar ein seilwaith economi fwyd newydd fydd sicrhau bywoliaethau sefydlog i ffermwyr y bydd ein dyfodol yn dibynnu ar eu sgiliau. Heddiw, mae mwy a mwy o ffermwyr yn cael eu hyfforddi mewn ffermio amaethecolegol dwys. Mae sefydliadau fel Coleg y Mynydd Du eisoes yn hyfforddi ffermwyr y dyfodol. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, nid yw’r ffermwyr hynny yn gallu bwrw gwreiddiau yng Nghymru, lle mae amaethyddiaeth yn cystadlu â’r farchnad dai am brisiau sydd y tu hwnt i’r rhan fwyaf o dyfwyr. Nid oes fawr ddim tir i’w rentu, ac er bod rhai ffermwyr yn prydlesu tir, yn ein profiad ni, nid yw’r model hwn yn un y gellir ei addasu at raddfeydd gwahanol. Mae’n rhaid i ffermwyr fyw’n agos at eu ffermydd. Ar hyn o bryd, un opsiwn rydym yn ei gymeradwyo yw prynu tir o dan berchnogaeth gymunedol a darparu tir ar gyfer ffermydd bach newydd, gyda chartrefi. Ac mae’n rhaid i ni sicrhau nad oes modd gwerthu’r cartrefi hyn i’r rhai sydd y tu allan i’r sector ffermio, fel cartrefi i bobl gyfoethog, neu lety gwyliau, sy’n fwy proffidiol na thyfu bwyd.
Mae’n rhaid i’n heconomi fwyd yn y dyfodol fod yn fwy amrywiol, gyda thir yn cael ei ddefnyddio at sawl diben: tyfu bwyd, cynhyrchu ynni, atafaelu carbon a busnesau gwledig eraill. Mae angen i dir fod ar gael mewn darnau llai i deuluoedd ffermio newydd. Mae angen i’r ffermydd newydd hyn ffermio drwy ddefnyddio dulliau amaethecolegol, atafaelu carbon a gwarchod bioamrywiaeth ar yr un pryd â thyfu bwyd. Byddant yn dibynnu ar gyd-gymorth a chefnogaeth – clystyrau o ffermydd, a elwir hefyd yn bentrefi. Mae cyfuno adnoddau – cyfleusterau, marchnata, gwerthu, prosesu – yn hanfodol i hyfywedd economaidd.
Mae’n ddigon hawdd ysgrifennu am yr hyn y mae angen ei wneud. Yr her yw gweithredu, a dyna beth rydym yn dechrau ei wneud ym Mhowys – adeiladu ffermydd fforddiadwy newydd er mwyn i genhedlaeth o ffermwyr yn y dyfodol dyfu’n amaethecolegol ar gyfer marchnadoedd mwy lleol, ac adeiladu economi fwyd newydd i holl ffermwyr y rhanbarth.
Mae’r traethawd hwn yn rhan o gyfres a gomisiynwyd ar y cyd â Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.