Wrth Dychmygu Cymru yn 2100:

2100

Mae’n ddiwrnod heulog ond oer ym mis Hydref ac nid yw’r tymor wedi troi eto. Mae’r goedwig yn mynd heibio mewn fflach, clytwaith o liwiau melyngoch a gwyrdd fel pe bai pob clwstwr o goed yn perthyn i dymor gwahanol. Rwyf wrthi’n astudio ap yr Arolwg Ordnans, gan olrhain y llwybr â’m bys blaen. Am y trydydd tro y bore yma, edrychaf eto ar y math o dir ac arwyneb y llwybr. Astudiaf y ffiniau i weld pa fath o gatiau a chamfeydd sydd yno, o hen arfer yn hytrach nag angen. Dylai’r llwybr hwn fod yn rhydd o gamfeydd, gatiau mochyn neu draeniau storm sy’n torri ar draws y llwybrau. 

Mae drws y bws yn agor yn awtomatig wrth i mi olwyno tuag ato ac mae’r bws yn gostwng fel y gallaf rolio’n syth i mewn i’r maes parcio. Mae rampiau wedi hen ddiflannu. 

Mae’r arwydd yn dangos pum llwybr, y mae tri ohonynt wedi’u marcio’n hygyrch ac mae’n cynnwys ffotograffau o’r gatiau awtomatig wedi’u pweru gan yr haul, arwyneb y llwybr a’r math o dir. 

Ceir ychydig o leoedd i gerbydau i unrhyw un sydd ddim yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ond mae’r rhan fwyaf o’r lleoedd wedi’u cadw ar gyfer deiliaid bathodyn glas gyda lle wedi’i farcio ar y naill ochr a’r llall er mwyn sicrhau bod digon o le i bawb fynd i mewn i’w ceir a dod allan ohonynt. Mae bloc o doiledau yn cynnwys toiledau i bawb, gan gynnwys toiledau hygyrch â drysau awtomatig wedi’u pweru â’r haul. 

Y tu hwnt i’r maes parcio, mae’r bryniau’n cynnal y cymylau ac mae’r coed yn ymestyn hyd y gellir ei weld nes eu bod yn smotiau o liw yn y pellter. Rwy’n olwyno hyd at yr arwydd lle mae diferion glaw yn hongian o’r coed yn pefrio o dan belydrau’r haul. Mae’r arwydd yn dangos pum llwybr, y mae tri ohonynt wedi’u marcio’n hygyrch ac mae’n cynnwys ffotograffau o’r gatiau awtomatig wedi’u pweru gan yr haul, arwyneb y llwybr a’r math o dir. 

Rwy’n dewis y llwybr cylchol hiraf. Yn dilyn yr arwyddion ar hyd y llwybr, rwy’n disgyn ar hyd llwybr ag wyneb da, solet i mewn i goedwig drwchus. Mae fy nghadair olwyn bweredig, sy’n addas ar gyfer pob math o dir, diolch i’r GIG, yn estyniad i’m corff, gan symud yn ddiymdrech dros frigau cwympedig ac ambell garreg. Rydym ni, sef uniad o groen, asgwrn a metel, wedi ein daearu drwy rwber ein holwynion cylchdroi. Anwybyddaf y bont wastad ar fy ochr dde, gan barhau i rolio drwy’r nant, wrth i’r olwynion symud dros y gwaelod caregog wrth iddynt fynd dan ddŵr hyd at yr echel. Mae barcud yn hedfan uwch fy mhen. 

Mae ffyngau yn gwthio ymylon y llwybr o’r neilltu, ac mae’r haul yn goleuo’r dail metelaidd sy’n gorchuddio rhannau o’r llwybr. Mae meinciau yma a thraw, fel briwsion bara ar hyd y llwybr yn gwahodd gwesteion i orffwys am ychydig ac anadlu gyda’r coed.

Mae cwpl yn eu hugeiniau mewn dillad ac esgidiau cerdded yn brasgamu tuag ataf. Rydym yn sgwrsio am y tywydd a’r hebog tramor rydym i gyd newydd ei glywed yn sgrechian o glogwyn rywle y tu hwnt i’r goedwig hon. Er nad oes angen llwybr hygyrch arnyn nhw, maen nhw wedi dewis y llwybr yma oherwydd amrywiaeth y fflora a ffawna, oherwydd harddwch y goedwig. Does neb yn colli dim drwy gadw at lwybr hygyrch. 

Rwy’n parhau ar hyd y llwybr. Mae’r coed yn mynd yn brinnach wrth i mi gyrraedd copa bryn. Mae niwl yn dechrau disgyn, gan godi’n orfoleddus o’r dyffryn islaw. Mae’r clytwaith o gaeau yn ymestyn i’r gorwel a’r unig raniad yw’r llwybrau bach cymen. Dim ond o amgylch ambell i gae lle mae defaid yn pori y gwelir ffensys a gatiau; mae ffiniau’r lleill wedi’u marcio gan derfyn perllannau, coed ifanc newydd eu plannu, dolydd neu wrychoedd trwchus, heb eu torri. 

Wrth i mi stopio i gymryd ychydig o ddŵr ac edrych ymlaen at y llwybr dirwystr sy’n ymestyn yn llawen dros ffiniau, gwn fy mod i’n perthyn. 

*

2024

Fel defnyddiwr cadair olwyn, does dim byd mwy modern, mwy radical ac uchelgeisiol na chydraddoldeb yn yr awyr agored. Nid sôn am rampiau i fyny ein mynyddoedd ydwyf (ond byddwn wrth fy modd yn cael disgyn arnynt); rwy’n golygu cynnal fy hawl sylfaenol i ddefnyddio llwybrau, gan symud yn ddiymdrech ac yn ddidrafferth drwy ein tirweddau fel yr oeddwn i’n ei wneud cyn i mi orfod amau fy hawl i fodoli yn yr awyr agored. 

Mae cychwyn ar daith ar olwynion, heb orfod poeni am hygyrchedd nac ableddiaeth yn teimlo’n llawer mwy anghredadwy nag unrhyw dechnoleg iwtopaidd megis tacsis sy’n hedfan neu fapiau holograffig ar ddechrau pob taith. Efallai y bydd fy mreuddwyd ar gyfer 2100 hygyrch yn ymddangos yn un eithaf tila, heb uchelgais i ddarllennydd nad yw’n anabl ond fel defnyddiwr cadair olwyn, ni allaf ddychmygu hawl fy nghymuned i gael mynediad i fyd natur yn cael ei hystyried mor ddilys â hawl pobl sydd bob amser wedi symud drwy’r awyr agored yn rhwydd ac yn ddigwestiwn. Mae’r syniad hyd yn oed o gael defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus i gyrraedd lleoliad gwledig yn hawdd i rywun nad yw’n anabl bron yn anhygoel. Rwy’n osgoi trenau a bysiau am fod gyrwyr bysiau yn aml yn gwrthod stopio i ddefnyddwyr cadair olwyn neu fod pram neu gasys yn y lle i gadeiriau olwyn, ac rwyf wedi cael fy nhaflu oddi ar un o drefnau Trafnidiaeth Cymru oherwydd ramp nad oedd wedi’i sicrhau’n iawn, gan lanio’n galed ar y platfform ychydig fetrau o’m cadair. Ni ddylai trafnidiaeth gyhoeddus hygyrch na digon o leoedd i ddeiliaid bathodyn glas fod yn radical. Mae hyd yn oed lleoedd wedi’u cadw i ddeiliaid bathodyn glas am ddim mewn meysydd parcio gwledig sydd â digon o le ar y naill ochr a’r llall er mwyn i mi symud fy nghadair olwyn i mewn ac allan o’r car yn beth prin o hyd. 

Ni allaf ddychmygu ychwaith ddarllen map i ganfod a allaf symud drwy dirwedd neu rolio i lawr llwybr hygyrch ag arwyneb da heb wynebu rhwystr sy’n golygu bod yn rhaid i mi droi’n ôl. Yn ôl ymchwiliad gan y BBC, mae hawliau tramwy cyhoeddus wedi’u rhwystro mewn 32,000 o leoedd ledled Cymru a Lloegr, a dim ond i 11% o’r tir rydym yn cael mynediad. O ran mynediad, rwy’n golygu mynediad cyfreithiol i dir mynediad agored. Nid yw hyn yn cynnwys y realiti a yw’r tir yn hygyrch ac i bwy. Mae canran y tir sy’n hygyrch i bobl anabl yn anfesuradwy ac yn ganran fach iawn o’r 11% hynny. Mae’r rhan fwyaf o lwybrau sydd wedi’u mapio ac mewn cyflwr da hyd yn oed yn atal mynediad i bobl anabl. 

Rwy’n ysu am gael mynd ar deithiau cylchol hygyrch hir y gallaf eu cwblhau ar fy mhen fy hun. Breuddwyd yn unig yw cael crwydro ar fy mhen fy hun oddi ar y llwybr arferol os nad yw’r llwybr arferol hyd yn oed yn hygyrch, ac ni allaf gychwyn ar daith ar fy mhen fy hun rhag ofn y bydd angen i rywun fy nghodi neu fy ngwthio pan fydd y rhwystrau yn ormod i’m cadair olwyn. 

Mae lleoedd yng Nghymru yn 2024, y tu hwnt i barciau trefol, lle mae mynediad wedi cael ei ystyried i bawb, nid dim ond y bobl sy’n cerdded yn rhwydd heb orfod meddwl am y peth. Er bod parciau trefol, megis Parc y Rhath yng Nghaerdydd lle mae mulfrain yn eistedd ar gerrig sy’n codi o’r dŵr, yn cyfarch yr wybren gyda’u hadenydd, yn ffyrdd hanfodol a hygyrch o fwynhau byd natur, ni ddylent fod yn unig opsiwn i unrhyw un sy’n cael ei atal rhag crwydro cefn gwlad. 

Ni allaf gofio sut brofiad ydyw i symud drwy’r awyr agored heb fod cerddwr yn dod i fyny ataf i wneud jôc am derfynau cyflymder, a gofyn pam rwy’n defnyddio cadair olwyn neu ddweud wrtha i fod fy nghadair olwyn yn ddel.

Mae llwybrau hygyrch yn bodoli yng Nghymru, ond pethau prin ydynt. Ar Wlyptiroedd Casnewydd, mae llwybrau cymen yn ymlwybro heibio corsleoedd lle rydych yn gallu gweld cornicyllod a phiod môr. Yng Nghoedwig Hafren, Powys, mae llwybr hygyrch yn dechrau â ramp i lwybr pren sy’n dilyn ystumiau’r afon cyn ymuno â llwybr tarmac drwy goedwig ffyniannus lle mae ffyngau yn tyfu drwy’r mwsogl. Efallai y byddwch yn gweld cudyllod bach, sgrechod y coed neu weilch glas o’r maes parcio lle mae lleoedd parcio i ddeiliaid bathodyn glas wedi’u cadw ac wedi’u marcio. Mae Beddgelert, Gwynedd yn croesawu ymwelwyr drwy bontydd hygyrch dros yr afon a llwybrau concrid. Mae toiled hygyrch ym mhob un o’r lleoliadau hyn. Mae’n hawdd i gynllunwyr nad ydynt yn anabl anghofio bod angen y rhain ond maent yr un mor hanfodol i fwynhau byd natur â’n rhwydweithiau o lwybrau. 

Hyd yn oed ar yr achlysur prin pan fo mynediad i bawb yn wirioneddol i bawb, mae rhwystrau o ran agweddau yn dal i fy anablu ym myd natur oherwydd cynrychioliaeth wael pobl anabl yn yr awyr agored. Nid yw cerddwyr yn disgwyl fy ngweld i na’m cadair olwyn yn rhannu eu llwybrau. 

Ni allaf gofio sut brofiad ydyw i symud drwy’r awyr agored heb fod cerddwr yn dod i fyny ataf i wneud jôc am derfynau cyflymder, a gofyn pam rwy’n defnyddio cadair olwyn neu ddweud wrtha i fod fy nghadair olwyn yn ddel. Nid yw’r dieithryn wedi gweld fy nghorff anabl yn yr awyr agored o’r blaen felly er gwaethaf y bwriadau da, mae’n fy atgoffa na ddylwn fod yma. Rwy’n gweld eisiau cydgerddwyr yn sôn am y tywydd neu dynnu sylw at aderyn: mân sgwrsio a gedwir i’r rhai sy’n perthyn. 

Un o’r rhesymau pam mae cerddwyr yn mynnu canmol fy nghadair olwyn yw nad yw’n gadair olwyn â llaw safonol. Rwy’n defnyddio beic llaw pweredig, un gwyrdd llachar, sy’n atodi i’m cadair olwyn (heb grogiant) a thrwy hynny gallaf adael y tarmac neu’r cerrig palmant. Mae’r beicwyr ‘difrifol’ yn eu dillad lycra yn genfigennus a byddant yn gweiddi ‘hoffi’r olwynion’ arnaf wrth i mi sio heibio ar 20mya. Talwyd amdano drwy ymgyrch crowdfunder, nid drwy Wasanaethau Cadeiriau Olwyn cwbl annigonol y GIG. Nid oess llawer o ddefnyddwyr cadair olwyn yn gymwys i gael cadeiriau olwyn gan y GIG ac mae’r cadeiriau sy’n cael eu hariannu i bobl ddethol yn rhai sylfaenol â llaw, nid y rhai a fyddai’n ei gwneud yn bosibl i ddefnyddwyr cadair olwyn grwydro yn yr awyr agored. Mae cadeiriau olwyn sy’n gallu eu cludo y tu allan i ddinasoedd yn cael eu hystyried yn fraint yn hytrach nag yn hawl, er eu bod yn llawer mwy hanfodol i fod yn yr awyr agored na’r esgidiau cywir neu gôt law. Hyd nes bydd cadeiriau olwyn sy’n addas at bob math o dir a chyfarpar cynorthwyol ac addasol arall sydd eu hangen i sicrhau y gall pawb fwynhau cefn gwlad yn cael eu hariannu, ni fydd modd sicrhau cydraddoldeb yn yr awyr agored. 

Nid yw cydraddoldeb yn yr awyr agored yn golygu gosod tarmac dros gefn gwlad. Mae mynediad teg gwirioneddol yn golygu sicrhau bod gan bawb yr adnoddau sydd eu hangen i fwynhau’r awyr agored, nad yw ein seilwaith yn gwahaniaethu ar sail pwy y mae disgwyl iddynt fynnu mynediad, bod hawliau pobl a byd natur o’n hamgylch yn cael eu parchu a’u diogelu, bod pobl yn cael y cyfarpar sydd ei angen i fwynhau’r awyr agored (boed hynny’n esgidiau addas neu gadair olwyn), bod eu mynediad a’u symudiadau yn cael eu mapio, eu bod yn cael eu cynrychioli, ac y gallant symud yn ddirwystr a heb darfu. Nid yw cydraddoldeb yn golygu datgan bod yr awyr agored yn agored i bawb heb nodi rhwystrau i fynediad. Mae hyrwyddo mynediad i bawb heb nodi’n gyntaf pwy sydd eisoes ar goll o gefn gwlad a pham yn golygu hyrwyddo cyfle cyfartal Thatcher – datgan bod llwybr yn gyhoeddus heb ystyried all gyrraedd y llwybr a phwy sy’n rhydd i symud ar hyd-ddo. 

Mae cefn gwlad lle teimlaf y bydd fy nghorff a’i gadair olwyn yn perthyn a lle mae mynediad wedi’i gynllunio i gyrff sy’n symud fel fy un i yn teimlo mor annelwig, mor bell i ffwrdd, ond po leiaf o flaenoriaeth a roddwn ar fynediad i bawb, y mwyaf yw’r perygl i iechyd ein planed. Mae angen i bawb, o bobl sydd wedi symud drwy gefn gwlad yn hanesyddol i’r rhai y gwrthodir mynediad iddynt, symud drwy fyd natur, a bod yn dyst gydag empathi. Nid ydych yn diogelu’r hyn nad ydych yn malio dim amdano; mae dadlau o blaid mynediad i bawb yn gyfystyr â dadlau o blaid hawl byd natur i fodoli. Mae buddsoddi mewn mynediad yn gyfystyr â buddsoddi yn y blaned. 

Mae pobl Cymru yn haeddu dyfodol lle mae llwybrau troed cyhoeddus yn wirioneddol gyhoeddus. 

 


Mae’r traethawd hwn yn rhan o gyfres a gomisiynwyd ar y cyd â Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Bethany Handley

Also within Politics and Policy