Wrth Dychmygu Cymru yn 2100: Edrych yn ôl ar y 2020au

A picture of a road cutting through a mountain, leading towards a cloudy horizon.

Gan edrych yn ôl ar y 2020au, mae’n rhyfedd meddwl pa mor bell rydym wedi dod, bron 80 mlynedd a dau bandemig yn ddiweddarach. 

Drwy ei ‘sgwrs genedlaethol’ uchelgeisiol, roedd cyfarpar y wladwriaeth yng Nghymru eisoes, erbyn canol y 2000au, wedi mabwysiadu’r cysyniad bod iechyd a llesiant yn amcanion hollbwysig, a oedd yn cyd-fynd yn gynnil â’i phenderfyniad i fabwysiadu prif egwyddor drefniadol datblygu cynaliadwy. 

Drwy benderfyniad beiddgar arall gwnaeth y wlad ddewr hon gydnabod pwysigrwydd gallu dynol a sut y gellir ei gysylltu a’i ddefnyddio at ddiben cymdeithasol teg, ansawdd bywyd a chyfle, gan fuddsoddi yn hynny a’i flaenoriaethu. Canolbwyntiodd y llywodraeth yn llwyr ar greu’r amodau angenrheidiol i fanteisio i’r eithaf ar allu dynol – a gwella’r amgylchedd y mae angen i’r bodau dynol hynny ei gadw’n fyw, er mwyn cyflawni eu potensial a gwneud hynny mewn cymunedau a allai ffynnu. 

Drwy ganolbwyntio ar feithrin y gallu hwn, ystyrid bod Cymru yn dilyn rhyw ffansi, heb gysylltiad â’r ‘byd go iawn’. Bryd hynny, roedd y ‘byd go iawn’ yn golygu systemau wedi methu, defnydd enfawr o adnoddau, gwleidyddiaeth wedi’i hollti, a chyhoedd wedi ei bolareiddio – a oedd yn symud yn ôl ac ymlaen rhwng rhwystredigaethau cynyddol safbwyntiau gwahanol. Yn erbyn llif technoleg a’r hyn a elwid yn ddeallusrwydd artiffisial bryd hynny, daeth llywodraethau’n beryglus o agos i fod yn ddim byd amgenach na gemau grym, yn llawn straen dal pethau ynghyd, yn hytrach na symud ymlaen. 

Yng Nghymru, gwlad a oedd eisoes yn cael ei hystyried yn ecsentrig, newidiwyd y ffocws i bobl – i’w hanghenion a sut i greu’r amodau ar gyfer bywydau da, llawn pwrpas mewn cydbwysedd gwell â’r blaned – a hynny dan gochl y natur ecsentrig hon a oedd yn cael ei gwawdio. Meddyliwyd yn ddwys am yr hyn roedd ei angen ar bobl er mwyn sicrhau’r iechyd a’r llesiant gorau posibl, i gael addysg dda, maeth a chysgod; i ffynnu ym myd eu galluoedd unigol a thrwy gysylltedd. 

Cofnodwyd y fantais gyntaf ar ôl y pandemig cyntaf – profiad lle y defnyddiwyd gwersi a ddysgwyd a buddsoddwyd mewn dulliau gweithredu gwahanol, a arweiniodd at ardaloedd lleol cydnerth, yn fwy parod ar gyfer yr ail a’r trydydd pandemig. Roedd ardaloedd lleol erbyn hynny wedi dod yn ganolfannau tra chysylltiedig. Gweithio a dysgu gartref a gweithio a dysgu’n hyblyg drwy’r wefan, y wifren, y cwmwl a’r croen ynghyd â thir a threfluniau cynhyrchiol lleol, sefydlu podiau iechyd a dysgu yn canolbwyntio ar bobl i wasanaethu, addysgu a chyflogi’r cymunedau lleol iawn a anwyd yn ystod blynyddoedd cyntaf, bron mythegol, Covid. 

Ar ôl y pandemig cyntaf, roedd ardaloedd lleol gwyrdd a dwys o aer glân, strydoedd deallus ac anheddau sy’n ymateb i’r hinsawdd yn manteisio ar systemau cyfathrebu, logisteg a chysylltu trafnidiaeth ymatebol i’r galw, yn barod ar gyfer yr ail don pe bai’n digwydd. 

Gwnaethom adfer y berthynas sympiotig rhwng y ddynolryw a’r amgylchedd sydd ei hangen arnom i oroesi a ffynnu.

Erbyn i’r ail don gyrraedd, roedd y cyfle bach hwnnw wedi cael ei ddefnyddio i sefydlu’r lefel gywir o ddylunio, deall, medrusrwydd ac ymrwymiad. Roeddem wedi deall potensial trafnidiaeth a chysylltedd arwyneb yn ogystal â’r seilwaith enfawr a oedd yn ymestyn oddi tanom. Roeddem yn cydnabod nad amcan strategol oedd cydymffurfiaeth, ond rhwymedigaeth sylfaenol – rhywbeth anhepgor. Felly aethom ati i geisio datrysiadau gwell, mwy o werth cyhoeddus a chymdeithasol i’n cymunedau – nodweddwyd adfywio trefol a gwledig gan ragoriaeth dylunio trefol, peirianneg, pensaerniaeth, a phensaerniaeth dirwedd. Nid oedd creu lleoedd yn cael ei ystyried yn rhywbeth ychwanegol at ddatblygiad mwyach ond yn rhywbeth hollol greiddiol er mwyn gwneud newidiadau cadarnhaol i ble a sut y gallem fyw, gweithio a hamddena. Gwnaethom anelu’n uwch, a chyrraedd yn uwch – gan ddeall yr hyn roedd ei angen yn union i wneud hynny a chyflawni – nid dweud ond gwneud. 

Gwnaethom adfer y berthynas sympiotig rhwng y ddynolryw a’r amgylchedd sydd ei hangen arnom i oroesi a ffynnu. Gwnaethom ymrwymo i ddulliau gweithredu cynhwysol a chydweithredol mewn diwylliant o ansawdd a diben cyffredin. Roeddem yn deall ac yn creu’r amodau ar gyfer arweinyddiaeth greadigol a beiddgar a gweledigaeth glir. 

Gwnaethom ailgydio yn ymdrechion glew cenedlaethau’r gorffennol, gan arwain ac ymrwymo i ansawdd, uchelgais ac atebolrwydd, achub ar y cyfle economaidd drwy brosiectau ar raddfa a oedd yn symbylu arloesedd ac yn ei wneud yn angenrheidiol. Gwnaethom fuddsoddi adnoddau dynol nid yn y byrdymor am y gost gyfalaf isaf ond yn yr hirdymor, i sicrhau’r ansawdd uchaf, a budd y cyhoedd. Yn systematig, cafodd prosiectau, gwasanaethau a strwythurau hollbwysig ar gyfer yr hirdymor eu cyflwyno yn lle hen fodelau â ffocws ar gyfalaf a manteision byrdymor. Arweiniodd newid strwythurol newydd at ymgorffori hawliau sylfaenol i gartref, i aer glân, ynni, sicrwydd a thirweddau sy’n byw ac yn ffynnu. 

Gofod i drafod, dadlau, ac ymchwilio.
Cefnogwch brif felin drafod annibynnol Cymru.

 

Gwnaethom osgoi amgylchedd gwywedig lle mae adnoddau yn mynd yn brinnach ac yn brinnach – ac osgoi aberthu buddiannau cenedlaethau’r dyfodol, gan flaenoriaethu budd ehangach y cyhoedd. Yng Nghymru, aethom ati i sicrhau canlyniadau a amlygwyd yn y ddeddfwriaeth a grëwyd ar gyfer llesiant cenedlaethau’r dyfodol, gan ei ymgorffori mewn prosesau polisi a chyflawni, gan gychwyn ar yr agenda ddatgarboneiddio, a chyflymu ein proses o bontio i economi ddigarbon. Aethom ati ar y cyd i ailffurfio economïau a chymunedau bywiog, cynhwysol a chydlynol, a herio achosion sylfaenol strwythurol disymud tlodi o bob math. Er mwyn gwneud hyn, cefnwyd ar gysyniadau beio a dal dig. Edrychwyd arnom ni’n hunain a’r rhai a oedd yn rhannu ein gweledigaeth a’n pwrpas. 

Gwnaethom gydnabod bod yn rhaid i drafnidiaeth i bobl, nwyddau a gwasanaethau ddod yn elfen allweddol o ran ffurfio ein hamgylchedd cyfan – ble a sut roeddem yn byw, pa ddewisiadau y gallem eu gwneud ac ar ba gyfleoedd y gellid manteisio. Gwelsom fod ein system drafnidiaeth yn gallu ffurfio gwlad, ei heconomi ac iechyd ei hamgylchedd; sut y gall wasgu bywydau pobl at ymylon prin priffyrdd enfawr sy’n llygru aer ac i mewn i gerbydau na fyddem yn eu dewis fel y rhai mwyaf cyfleus fel arall. Dyluniwyd systemau trafnidiaeth, dosbarthu a chyfathrebu i’r safon uchaf a blaenoriaethwyd cysur ac effeithlonrwydd, gyda deunyddiau newydd a ffynonellau ynni effeithlon, yn sbarduno’r oes ddatgarboneiddio gyntaf. 

Er mwyn cyrraedd y sefyllfa hon, y byd hwn yr oedd bron yn amhosibl i ni ei ddychmygu ddegawd yn ôl, gwnaethom grisialu egwydddorion allweddol, trawsnewid ein dulliau addysgol, a buddsoddi er mwyn cau’r bylchau sgiliau enfawr a nodwyd gennym ar ddechrau’r 2020au.

Drwy ddefnyddio elw elfennol y chwyldro adnewyddadwy cyntaf dechreuwyd cydnabod defnydd tir fel adnodd strategol hollbwysig a gwireddwyd aneddiadau tra effeithlon, dwys a chysylltiedig gyda gofal cymdeithasol, iechyd, addysg, a gwasanaethau cwbl annatod a hyblyg. Er i ni weld ei fanteision gwnaethom hefyd gydnabod ôl troed carbon ‘deallusrwydd artiffisial’, fel y’i gelwid, a dod o hyd i ffyrdd o’i ddofi er mwyn helpu i sbarduno’r byd gwahanol hwn. 

Erbyn hyn mae creadigrwydd a diwylliant hanfodol wedi’u cydblethu â gwead ein cymunedau wedi’u haillgysylltu; gall straeon Cymru, sy’n hollbwysig yn fyd-eang, gael eu dysgu o’r newydd, eu rhannu, eu hail-greu a’u hail-lunio. Gellir galw ar ein meddylwyr creadigol mwyaf medrus yn rheolaidd i gynnig polisi cyflym, prototeipio a dulliau cyflawni drwy fanteisio ar ein sgiliau a’n gallu dynol. Gwnaeth y ‘celloedd ymennydd’ creadigol hyn, yn llythrennol ac yn drosiadol, dyfu o’r ymgyrch fawr am sgiliau ac addysg gynhwysol a ysgogodd feddylwyr, dylunwyr a gwneuthurwyr i ddefnyddio dyfeisgarwch dynol i ddiffinio, profi, ailddiffinio a phrototeipio polisi yn strategaeth ac yn gamau cyflawni yn ddi-oed, gan gadw Cymru o dan fantais amgylcheddol, economaidd, gymdeithasol ac addysgol. Roedd arbenigedd yn cael ei groesawu a’i ddefnyddio, a’i annog i herio a dadansoddi data, tystiolaeth a gwybodaeth wrth ystyried sut y gellid eu cymhwyso. 

Er mwyn cyrraedd y sefyllfa hon, y byd hwn yr oedd bron yn amhosibl i ni ei ddychmygu ddegawd yn ôl, gwnaethom grisialu egwydddorion allweddol, trawsnewid ein dulliau addysgol, a buddsoddi er mwyn cau’r bylchau sgiliau enfawr a nodwyd gennym ar ddechrau’r 2020au. Cafodd creadigrwydd, dyniaethau ac ieithoedd eu hailintegreiddio â’r gwyddorau – drwy rychwant o wybodaeth, dealltwriaeth, dewrder, ymgysylltu a meddwl yn annibynnol, bu modd cyflwyno dyfeisgarwch a herio’r hen ddulliau gweithredu a chanlyniadau confensiynol. O’r diwedd, gwelsom sut mae syniadau yn marw yn nhywyllwch buddiant amddiffynnol unigol a sut y cânt eu hailfywiogi pan gânt eu rhannu, eu lledaenu a’u poblogi. Cafodd yr hen angorau llusgo, tiriogaeth ac ofn, eu goresgyn gan barodrwydd newydd a gwirioneddol i fod yn agored a rhannu gwybodaeth. Roedd cymhlethdod a natur frys ein heriau yn golygu bod rhwystrau yn cael eu chwalu, bod rhagfarn yn cael ei goresgyn, bod diben cyffredin yn cael ei adfer, bod confensiynau yn cael eu dymchwel. 

Yn ystod misoedd, diwrnodau ac oriau’r bygythiad mwyaf, gwnaethom ymwroli a choleddu arweinyddiaeth ar y cyd a diben a rennir lle roedd maint yr ymdrech, o’r diwedd, yn hafal i faint yr her. 


Mae’r traethawd hwn yn rhan o gyfres a gomisiynwyd ar y cyd â Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Carole Anne Davies

Also within Politics and Policy