Wrth Dychmygu Cymru yn 2100: Y Dyffryn 2100

A row of recognisably Welsh houses on a sunny day.

Rwy’n breuddwydio yn y tywydd anwadal. Mae cymylau llwyd isel yn dynesu drwy’r dyffryn.

Mae’r cymylau yn addo cawod o genllysg, ac rwy’n crynu wrth iddynt fynd heibio heb gadw’r addewid hwnnw. Mae plu yn dal i guddio brigau’r coed sy’n tyfu i lawr y llethrau serth. Yna, mae’r haul yn disgleirio, fel petai wedi bod ers misoedd, haul diflino y mae pob math o fywyd yn y cwm yn ymestyn tuag ato. Rwy’n dringo llwybr i fyny’r bryn crwn, cysgodion o gymylau yn rholio dros y llystyfiant isel. Wedi cyrraedd copa’r bryn, mae caeau â chloddiau cymysgryw yn amsugno egni o’r pridd, o’r gwynt, o’r haul, gan ymestyn dros y gwastatir, wrth i’r pantiau a’r bannau ymdoddi i’w gilydd yn amsugno’r golau yn ystumedig. Wrth i mi gerdded drwy’r caeau, teimlaf fy mod yn gallu clywed cliciau a newidiadau cynnil yn y pwysedd aer wrth iddynt drawsyrru eu data meteorolegol i fan arall. Gan ddod o hyd i fan agored wrth ymyl yr arsyllfa, rwy’n gorwedd ar y tir grugog, yng ngwres yr haul a’m llygaid ynghau rwy’n dychmygu fy hun yn arnofio drwy’r cymoedd islaw. 

Gan edrych i lawr o’r llethr ar arwyneb llym y llygad a llygaid y dydd a’r triongl tywyll hwnnw, rwy’n cofio’r diffyg ar yr haul yn 2090.

O’r olygfan hon, rwy’n gwylio pum bod dynol mewn gwisgoedd oren llachar yn ymgasglu o amgylch tir comin wrth odre’r bryn. Gan symud i mewn i ganol y tir comin, maent yn crafu yn y glaswellt hir a dod o hyd i ddarn mawr o fetel. Ar ôl ei symud o’r neilltu, maent yn datgelu twll trionglog, a siafft. Maen nhw’n codi trybedd 8 troedfedd drosto. Yna, allan o’r golwg yn y goedwig, mae dau fod dynol arall mewn gwisg rwber du, yn debyg i offer sgwba, â harneisiau a goleuadau pen, yn cerdded tuag atynt. Maen nhw’n dweud ychydig eiriau, yn eu clymu eu hunain wrth y drybedd a dechrau disgyn, gan abseilio i’r agoriad tywyll. Bob pedair blynedd, maen nhw’n archwilio’r cylfertau sy’n sianelu dŵr ymhell o dan y tir comin ac i mewn i’r afon sy’n ystumio drwy’r dyffryn. Gan ddilyn y dŵr adleisiol, maen nhw’n archwilio’r twneli rhag malurion, rhwystriadau a gwendidau strwythurol, y tramwyfeydd concrid sy’n rhedeg uwchben ansicrwydd dyfnach y pileri glo sy’n dymchwel mewn pyllau glo 300 oed. Gan edrych i lawr o’r llethr ar arwyneb llym y llygad a llygaid y dydd a’r triongl tywyll hwnnw, rwy’n cofio’r diffyg ar yr haul yn 2090. Heno mae’r lleuad lawn yng nghwr y Sgorpian.

Yn y niwl, gwelir breichiau enfawr colyn yr iard sborion uwchlaw pentyrrau o fetel wedi’i ailgylchu. Mae’r offer awtomataidd yn troi, yn faletig, uwchben eu dewis fôr. Wrth deithio drwy’r dyffryn ar gyflymder mawr, dim ond cipolwg ar raddfa’r iardiau sborion a gaf rhwng y coed; tarth yn glynu wrth baent golchedig. Dan oruchwyliaeth gweithredwyr mewn man arall, mae’r breichiau yn mynd ati i ddidoli, prosesu, symud a llwytho’r metel ar lorïau sy’n gadael yn rheolaidd ar brif ffyrdd brifwythiennol y cwm. Mae cerbydau blaen y trên yn ymlwybro tuag at y llethr, y llwybr uwch i ddod yn croesi ffyrdd ac afonydd, y ffenestri gwydr crwm yn creu tiwb yn adlewyrchu pob fflicr a newid yn y golau. I mewn i dwnnel ac wedyn allan, rydym yn symud i’r dde unwaith eto ymhell oddi fry; mae’r toeon rhychog wedi’u pacio ac yn gorgyffwrdd, etifeddiaeth, diwydiant addasedig, yn rhedeg mewn sectorau tuag at y môr. 

Syniadau uchelgeisiol, awdurdodol a mentrus.
Ymunwch â ni i gyfrannu at wneud Cymru gwell.

Pan fyddaf yn y ddinas, byddaf bob amser yn cerdded ar hyd Ffordd fasnachol. Mae’n ffordd gyflym i’r canol neu, i’r cyfeiriad rwy’n cerdded nawr, i’r afon. O ddarllen am ddinasoedd y gorffennol, roedd pwysau yn ddisgrifydd digwestiwn. Ond mae’r stryd hon yn gorwedd yn addfwyn ar y ddaear, yn amharhaol, bron yn dryloyw. Mae’n waith cyflym a syml gosod pibell, trawsyrrydd, fasad, cyswllt trafnidiaeth; tynnu arwyneb, datgloi clo, cofrestru panel. Mae modiwleiddio wedi gwneud y ddinas yn olau, cread drychiolaethol. Mae’r tai yn teimlo fel cynwysyddion cyfnewidiol, mae’r marchnadoedd fel digwyddiadau a drefnwyd, algorithm o gynllunio dinas berffaith, y lefel uchaf bosibl o foddhad a hamddena hael. Wrth gyrraedd pen y stryd, edrychaf i fyny ar y Bont Gludo. Yn ymestyn dros yr afon, ei cherbyd yn hongian oddi ar edau cytgordiol lu, y mae ei thoslath yn ymestun uwchlaw’r dŵr, ei thrawstiau yn codi o ganol y llaid. Mewn hen ffotograffau, mae’n symbol o ddiwydiant, H enfawr am hanes, y mae ei rhwyllwaith eliptigol yn llwybr tuag at ei chreu ei hun yn y gwaith dur diflanedig. I’r rhai sy’n edrych allan o ddecin fflatiau glan yr afon, a chyfarpar torheulo o’u cwmpas, ar sylfeini amddiffynfeydd llifogydd concrid hindreuliedig, erys yn symbol, oherwydd ei natur led-dryloyw ac absennol, platfform hamdden gwyrdd a thywynnol.

O’n blaenau, mae’n llithro allan o’r dŵr, calchfaen staenedig a chrychiog, pocedi o gerrig mân yr arfordir ac, wedi’i himpio ar y clogwyni, siâp tywodlyd main, yr ynys artiffisial atodol.

Edrychaf yn ôl at y cannoedd o lithrfeydd ar hyd yr arfordir, sydd, bob hyn a hyn, yn rhyddhau llongau teithwyr i mewn i’r dŵr. Mae fy stumog yn troi. Ar ddibyn y clogwyni ac yn fewndirol, saif pyramidau llwyd, prin, fel rocedi, wedi’u plannu yn y bryniau. Rydym yn torri drwy’r dŵr, fy ffrind yn llywio ei gwch hwylio tuag at yr ynys. Gan siglo’n ysgafn yn y gwynt, rwy’n gwisgo fy sbectol haul a syllu ar y gorwel. Llawer o liwiau gwyrdd a glas; haen wyrddlas yn galw wrth hofran uwchben y cefnfor. Rwy’n gadael i’m llaw gyffwrdd â brig tonnau y dŵr garw. Oddi tano mae byd arall, yn ymdonni ac yn fud, rhesymeg ddieithr sy’n cofnodi’r mordeithiau lu sydd wedi gadael yr arfordir hwn. Mae fy ffrind yn galw arnaf, yn pwyntio at yr ynys, ni allaf ei glywed oherwydd y gwynt ond rwy’n ei wylio’n gwenu. O’n blaenau, mae’n llithro allan o’r dŵr, calchfaen staenedig a chrychiog, pocedi o gerrig mân yr arfordir ac, wedi’i himpio ar y clogwyni, siâp tywodlyd main, yr ynys artiffisial atodol. Gallaf weld llawer mwy o ynysoedd nawr, yn neidio allan o’r cefnfor. Ynysoedd iaith, lleuadau gosgordd, aneddiadau; eu gŵyl agoriadol. Ar ôl i ni lanio, rwy’n crwydro ar hyd rhodfa o stondinau. Oedaf ychydig, yn gwylio rhywun yn cerfio elfennau cadair. Mae ed dwylo’n gafael yn dynn, yn uno â’r pren anwastad. Mae’r awyr yn olau ac mae’r pren yn euraid a syllaf ar symudiadau trawsnewidiad, creu newid yn ddiymdrech. 


Mae’r traethawd hwn yn rhan o gyfres a gomisiynwyd ar y cyd â Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru.

Beau W Beakhouse

Also within Politics and Policy