Mae Aelodaeth Pobl Ifanc ar gyfer pobl hyd at 30 oed.
Ein haelodaeth yw eich man cychwyn ar gyfer yr ymchwil a’r adroddiadau diweddaraf, cyfleoedd i ymuno â’r ddadl gyda mynediad cyntaf i’n digwyddiadau poblogaidd a bod yn rhan o rwydwaith digyffelyb o arbenigedd o bob cefndir yng Nghymru.
Gyda chymuned gynyddol o bron i 1,000 o aelodau eraill, a rhwydwaith o arbenigwyr o bob cefndir, gallwn eich rhoi yng nghanol y ddadl Gymreig a’r sgyrsiau sydd wir yn bwysig.
Drwy ddod yn aelod, byddwch yn gallu:
- Manteisio ar brif ddadleuon materion cyfoes Cymru gyda’n cylchgrawn uchel ei barch, the welsh agenda, a gyhoeddir ddwywaith y flwyddyn.
- Cysylltu ag eraill trwy ddewis yr adnoddau a’r digwyddiadau sy’n gweithio i chi. Ymuno â’r sgwrs gyda phobl eraill o’r un anian yn ein Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.
- Byddwch y cyntaf i gael mynediad at ein hymchwil gadarn sy’n gosod yr agenda, ein harweinyddiaeth feddwl a’n dirnadaeth o feysydd polisi hanfodol.
- Cynyddwch eich hyder wrth ddeall sut mae tirlun gwleidyddol Cymru yn gweithio gyda thocynnau gostyngol i’n cyrsiau hyfforddi proffesiynol.
Yn bwysicaf oll, bydd eich aelodaeth yn amddiffyn ein hannibyniaeth rhag y llywodraeth a phleidiau gwleidyddol wrth inni ymdrechu i helpu i wella Cymru.
Aelodaeth Pobl Ifanc
Dim ond £3 y mis drwy ddebyd uniongyrchol neu £36 am flwyddyn
Talwch yn fisol drwy ddebyd uniongyrchol Talwch am aelodaeth flynyddol