Diolch am eich diddordeb yn nyfodol y Sefydliad Materion Cymreig (IWA). Rhodd yn eich ewyllys yw un o’r rhoddion mwyaf arwyddocaol y gallwch ei gwneud, ac mae’n arwydd o’ch cefnogaeth barhaus a’ch hoffter o’r IWA.
Fel cefnogwr ymroddedig, byddwch yn gwybod ein bod yn hynod falch o’n hannibyniaeth. O ganlyniad, cefnogaeth ein haelodau, cymrodyr a phartneriaid sydd wedi ein galluogi i wneud cyfraniad pwysig i fywyd dinesig Cymru ers 1987.
Beth bynnag fo’u maint, mae rhoddion cymynroddol yn cyfrannu at ein gwaith i wella economi a democratiaeth Cymru, a’i wneud yn fan lle gall cenedlaethau’r dyfodol ffynnu. Rydym yn wirioneddol ddiolchgar i’r rhai ohonoch sy’n bwriadu cyfrannu at yr IWA yn y modd arbennig hwn: mae’n golygu llawer i ni, a bydd yn golygu llawer i Gymru.
Os hoffech adael cymynrodd i ni, rydym yn argymell eich bod yn gwneud neu’n newid eich ewyllys gyda chymorth cyfreithiwr neu weithiwr cyfreithiol proffesiynol. Byddant yn sicrhau bod eich dymuniadau’n cael eu mynegi’n glir ac yn gyfreithiol ddilys, a byddant yn gallu darparu cyngor cyfrinachol sy’n benodol i’ch anghenion.
A oes gennych weledigaeth ar gyfer Cymru well?
Drwy adael rhodd i ni yn eich ewyllys, byddwch yn helpu’r genhedlaeth nesaf o wneuthurwyr polisi a phenderfyniadau i adeiladu Cymru well ar gyfer y dyfodol. Byddwch yn buddsoddi mewn sicrhau economi lwyddiannus, lân a theg, a democratiaeth gref, hyderus i bawb.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am sut y byddwn yn defnyddio’ch cymynrodd, geiriad enghreifftiol a’n haddewid i chi yma.
Os hoffech drafod ymhellach, gallwch ein cyrraedd ar-lein, anfonwch e-bost atom ar [email protected], neu dewch o hyd i ni yn sbarc|spark, Caerdydd. Rhowch wybod i ni os byddwch yn penderfynu gadael rhodd i ni, byddem wrth ein bodd yn diolch i chi cyn derbyn y rhodd.