Towards a Sustainable Future for North Wales and its Communities

Venue

Pontio Arts and Innovation Centre

Deiniol Road, Bangor, LL57 2TQ

Bangor, Wales, GB, LL57 2TQ

Join the IWA and Bangor University as we look into how we can create a sustainable future for communities in north Wales.

Tuag at ddyfodol cynaliadwy i ogledd Cymru a’i chymunedau

Ymunwch â’r Sefydliad Materion Cymreig (IWA) a Phrifysgol Bangor i ystyried sut y gallwn greu dyfodol cynaliadwy i gymunedau’r gogledd.

Bydd digwyddiad olaf ein partneriaeth 3 blynedd yn dod â phanelwyr a phrif siaradwyr ynghyd i drafod yr heriau a’r cyfleoedd ehangach i’r rhanbarth. Byddwn yn ystyried sut y gallwn sicrhau lles y cymunedau, a chynaliadwyedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol-ddiwylliannol. Byddwn hefyd yn archwilio’r rôl y gall gogledd Cymru ei chwarae nid yn unig i’r Cymry, ond ar lwyfan y Deyrnas Unedig hefyd ac yn fyd-eang.

Fel penllanw’r bartneriaeth, bydd y digwyddiad yn cydblethu â themâu o’r pum digwyddiad blaenorol, a fu’n archwilio amryw o bynciau sy’n berthnasol i gymunedau’r gogledd (economeg iechyd, datblygu twristiaeth gynaliadwy, cysylltiadau Cymru ac Iwerddon, y seilwaith ynni a pherchnogaeth gymunedol). Byddwn yn adfyfyrio ynglŷn â rôl pwrpas a gwerth cymdeithasol yn y sector addysg uwch ac addysg bellach, a’r rôl y gall prifysgolion, fel sefydliadau angori, ei chwarae i fynd i’r afael â heriau cymdeithasol, economaidd a gwleidyddol cyffredin.

Caiff y digwyddiad ei gadeirio gan yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor, Prifysgol Bangor, ac yn ymuno ag ef, bydd:

  • Dr Edward Thomas Jones – Uwch Ddarlithydd mewn Economeg, Prifysgol Bangor
  • Meleri Davies – Prif Swyddog, Partneriaeth Ogwen
  • Sarah Schofield – Cyfarwyddwr Cwsmeriaid a Chymunedau, Adra
  • Nia Jones – Cyfarwyddwr Gweithredol, Cwmni Frân Wen
  • Dylan Williams – Prif Weithredwr, Cyngor Sir Ynys Môn

– ———————————————————————–

Towards a sustainable future for north Wales and its communities

Join the IWA and Bangor University as we look into how we can create a sustainable future for communities in north Wales.

The final event in our 3-year partnership will bring together panellists and keynote speakers to discuss the wider challenges and opportunities for the region. We will look into how we can ensure the wellbeing of its communities, and its economic, environmental and socio-cultural sustainability. We will also explore the role that north Wales can play not only on the Welsh, but on the UK and global stage, as well.

As the culmination of our partnership, the event will tie in themes from our five preceding events, which explored a range of topics pertinent to our north-Walian communities (health economics, sustainable tourism development, Wales and Ireland relations, energy infrastructure and community ownership). We will reflect on the role of social purpose and value in the higher and further education sector, and the role universities, as anchor institutions, can play in addressing shared social, economic and political challenges.

The event will be chaired by Professor Andrew Edwards, Pro Vice-Chancellor, Bangor University, who will be joined by:

  • Dr Edward Jones – Senior Lecturer in Economics, Bangor University
  • Meleri Davies – Chief Officer, Partneriaeth Ogwen
  • Sarah Schofield – Director of Customers and Communities, Adra
  • Nia Jones – Executive Director, Cwmni Frân Wen
  • Dylan Williams – Chief Executive, Anglesey County Council

Bydd y digwyddiad hwn ar gael yn Gymraeg a Saesneg / This event will be available in both Welsh and English.