Mae adroddiad newydd gan y Sefydliad Materion Cymreig yn galw am fesurau i gryfhau democratiaeth Cymru y tu hwnt i’r cylch etholiadol ac yn rhybuddio yn erbyn effeithiau pesimistiaeth wleidyddol os ydym am oresgyn ein ‘hanniddigrwydd democrataidd’.
Yn seiliedig ar drafodaethau bord gron rhwng trefnwyr llawr gwlad, ymchwilwyr a swyddogion y llywodraeth, mae’r papur yn tynnu sylw at gyfoeth o dystiolaeth, mesurau arloesol ac arbrofion mewn democratiaeth sy’n edrych y tu hwnt i brosesau etholiadol. Mae hefyd yn dangos bod angen cyd-greu addysg ddemocrataidd a chyfranogol er mwyn bod yn effeithiol.
Dim ond rhan fechan o broblemau cyfranogiad gwleidyddol yw nifer isel y pleidleiswyr. Mae llawer o bobl yng Nghymru wedi buddsoddi yn eu cymunedau, ac yn dangos hynny bob dydd trwy wirfoddoli, cymryd rhan mewn grwpiau cymdogaeth neu ymgyrchoedd lleol, mynychu protestiadau a llofnodi deisebau. Gall Cymru adeiladu ar yr egni hwn i wneud democratiaeth yn wahanol.
Cyn y diwygiadau etholiadol yng Nghymru, mae angen metrigau arnom sy’n ehangu ein dealltwriaeth o wleidyddiaeth a sut mae pobl yn ymgysylltu â nhw. Dylai’r rhain hefyd gynnwys mesurau i ehangu cyfranogiad cyn etholiadau er mwyn osgoi defnyddio technoleg ddigidol i ddarparu system analog.
Y tu hwnt i dynnu sylw at sawl peilot llwyddiannus, galwodd yr adroddiad am waith cydgysylltiedig a fyddai’n adeiladu ar y llwyddiannau hynny i newid y system.
Dywedodd Dylan Moore, Arweinydd Polisi’r Cyfryngau a Democratiaeth y Sefydliad Materion Cymreig, ac awdur yr adroddiad: ‘Fel gwlad fechan, mae Cymru wedi bod yn gartref i lawer o raglenni peilot sydd wedi gwthio’r ffiniau o ran sut y gall democratiaeth weithio. Nawr yw’r amser i blethu’r datblygiadau arloesol hynny i wead ein cymdeithas fel nad yw’r rhain yn ddigwyddiadau untro, ond yn dod yn arbrofion y gellir eu hehangu o ran sut y gallwn wneud democratiaeth yn wahanol. Dydy pobl ddim wedi syrffedu ar wleidyddiaeth, y ffordd rydyn ni’n siarad am wleidyddiaeth sydd angen ei newid fel bod ei berthnasedd i fywydau pobl yn dod yn amlwg.”
Gallwch ddarllen Adeiladu Pontydd: democratiaeth Cymru – nawr, ac ar gyfer ein dyfodol yn Gymraeg yma a yn Saesneg yma