Mae’r Sefydliad Materion Cymreig wedi arwain y ffordd dros y 15 mlynedd diwethaf gyda’u hymchwil i gyfryngau Cymru.
Mae Archwiliadau Cyfryngau y Sefydliad Materion Cymreig 2008, 2015 ac Uwchgynhadledd y Cyfryngau eleni wedi’u cydnabod fel darnau allweddol o ymchwil ac mae Blaenoriaethau Cyfryngau ar gyfer y Senedd Nesaf wedi’u seilio ar y gwaith hwn.
Mae’r blaenoriaethau hyn yn canolbwyntio ar gyllido cyfryngau Cymru, camwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, datganoli darlledu a datblygu’r diwydiannau creadigol.
Crynodeb
Dylai Llywodraeth Cymru:
- greu cronfa gystadleuol ar gyfer newyddion annibynnol o £1 miliwn y flwyddyn o leiaf
- gweithio gyda Llywodraeth y DU i wella atebolrwydd sefydliadau Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus i’r Senedd, drwy ddatganoli pwerau darlledu penodol
- sicrhau bod Cymru Greadigol yn hafan i strategaeth uchelgeisiol ar gyfer economi cyfryngau sy’n ffynnu, sy’n adrodd straeon bywyd Cymru yn ei holl amrywiaeth.
Dylai’r Senedd:
- cynnal pwyllgor gyda chylch gwaith dros bolisi cyfathrebu
- sicrhau bod y pwyllgor hwn yn cynnal ymchwiliad i rôl y cyfryngau cymdeithasol a chamwybodaeth yn ystod etholiadau’r Senedd 2021.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.
Aethom ati i ofyn cwestiynau penodol am ein blaenoriaethau i’r cyfryngau i’r pleidiau a oedd yn sefyll yn etholiadau’r Senedd 2021. Gallwch ddarllen eu hymatebion yma.