Mae’r papur hwn yn adrodd am ddigwyddiad a drefnwyd gan y Sefydliad Materion Cymreig (SMC) gyda chefnogaeth Cymru Greadigol yng Nghanolfan y Mileniwm, Caerdydd, ar y 7fed o Dachwedd 2023.
Gyda’r teitl ‘Croesffyrdd Creadigol: Llesiant a Chynaliadwyedd yn y Diwydiannau Creadigol’, archwiliodd y digwyddiad heriau ariannu, ansicrwydd parhaus, a chynaliadwyedd yn y sector creadigol yng Nghymru. Fe drefnwyd i gyd-fynd â lansiad Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth rhwng Cymru Greadigol a Chyngor Celfyddydau Cymru, a oedd yn nodi meysydd cydweithio rhwng y ddau sefydliad.
Mae’r sector creadigol a diwylliannol, yr economi greadigol neu’r diwydiannau creadigol – waeth beth fo’r enw a ddefnyddir i’w labelu – yn parhau i fod yn rhan allweddol o economi’r DU ac, yn yr ychydig flynyddoedd diwethaf, maent wedi cael eu canmol yn stori o lwyddiant Cymreig, gyda throsiant
wedi ei adrodd o ‘£1.7 biliwn yn 2021, cynnydd o 14% ers 2017’. Ac eto, mae llwyddiant trawiadol nifer o gwmnïau cynhyrchu ffilm wrth greu cyfleoedd cyflogaeth leol wrth wella amlygrwydd byd- eang Cymru yn gwrthgyferbynnu’n llwyr â’r heriau a wynebir gan sectorau eraill mewn sector sy’n ddibynnol iawn ar lafur llawrydd. Dangosodd trafodaethau fod ansefydlogrwydd timau gwaith a natur unigol gyrfaoedd llawrydd yn gosod y diwydiant yn y sefyllfa baradocsaidd o ddeor y syniadau mwyaf arloesol, wrth wynebu risg o atgynhyrchu hen strwythurau anghydraddoldeb.
Nid yn unig y mae’r sector yn creu buddion materol a symbolaidd i Gymru, mae hefyd, fel y gwelir o’r enghreifftiau o gydlynwyr cynaliadwyedd a hwyluswyr llesiant, yn creu datrysiadau arloesol.
Mae’r adroddiad hwn yn dechrau ac yn gorffen gyda phwysigrwydd hollbwysig ariannu’r sector creadigol yn ddigonol. Os yw cyllid i barhau i fod yn un o sylfeini craidd creadigrwydd, mae angen iddo adlewyrchu anghenion y bobl y mae’n honni eu bod yn eu gwasanaethu.
Mae’r SMC yn gwneud yr argymhellion a ganlyn ar sail y digwyddiad hwn:
- Dylai Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi ac ehangu’r cynllun hwylusydd llesiant.
- Dylai Cyngor Celfyddydau Cymru, Cymru Greadigol, a chyrff cyllido perthnasol gyfeirio ymdrechion at gyllido capasiti a llesiant, drwy sicrhau bod cyllid ar gael ar gyfer rhwydweithiau gofal a chydweithfeydd.
- Dylai cyrff ariannu anelu at ddiwygio cyllid er mwyn ei wneud yn fwy hygyrch, drwy ddirynnu allbynnau.
- Dylai Cyngor Celfyddydau Cymru a Chymru Greadigol gydlynu’r gwaith o greu cyfeiriadur gweithwyr llawrydd diwylliannol un stop, sy’n rhestru gweithwyr llawrydd yn y sector creadigol yng Nghymru.
- Dylai Llywodraeth Cymru sefydlu cyfeiriadur cyllidwyr Cymru gyfan, gan restru’r ffynonellau cyllid sydd ar gael ar gyfer gweithwyr llawrydd diwylliannol.
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.
Cefnogir gan Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree.
Gofod i drafod, dadlau, ac ymchwilio.
Cefnogwch brif felin drafod annibynnol Cymru.