Lleisiau’r Dinasyddion, Newyddion y Bobl: Sicrhau bod y Cyfryngau’n Gweithio dros Gymru

Gan fod llai na 1,000 o newyddiadurwyr yn cael eu cyflogi yng Nghymru ar hyn o bryd, ni all tirwedd y cyfryngau yng Nghymru wasanaethu buddiannau pobl Cymru yn ddigonol – ac eto, mae gobaith.

Cafodd ein hadroddiad newydd Lleisiau’r Dinasyddion, Newyddion y Bobl: Sicrhau bod y Cyfryngau’n Gweithio i Gymru (EN / CY) ei ysgrifennu ar y cyd gan Dylan Moore, Arweinydd Polisi y Sefydliad Materion Cymreig (IWA) ar y Cyfryngau a Democratiaeth, Dr Philip Sargeant (Y Brifysgol Agored) a Dr Donna Smith (Y Brifysgol Agored). Mae’n dangos y byddai pobl yng Nghymru yn cefnogi cyllid ar gyfer newyddion hyperleol gwell a mwy ohono, gwell addysg am ddemocratiaeth a mwy ohoni, a rheoleiddio’r cyfryngau yn well ac yn fwy helaeth yng Nghymru.

Mae cyfryngau Cymru’n wynebu argyfwng: ers blynyddoedd bellach, mae toriadau cyllid, cau gwasanaethau newyddion, bygythiadau i ddarlledu gwasanaeth cyhoeddus a llai o gyfleoedd i newyddiadurwyr weithio yng Nghymru i gyd yn arwyddion o ddemocratiaeth â sgwâr cyhoeddus sy’n lleihau.

Er mwyn creu atebion i’r argyfwng hwn, yn haf 2022 comisiynodd IWA a’r Brifysgol Agored yng Nghymru Banel Dinasyddion o bymtheg unigolyn o gefndiroedd gwahanol yng Nghymru i drafod y materion hyn yn fanwl ac i lunio argymhellion ar gyfer atebion. Roedd yna gefnogaeth gref o blaid mesurau a fyddai’n caniatáu i Gymru gefnogi ei chyfryngau yn fwy effeithiol, a rhoi blaenoriaeth i fuddiannau dinasyddion a chymunedau.

Wrth siarad â dinasyddion, canfu IWA a’r Brifysgol Agored y gallai corff rheoleiddio effeithiol, yn cwmpasu holl sefydliadau’r cyfryngau sy’n weithredol yng Nghymru, gan gynnwys y wasg, y cyfryngau darlledu ac ar-lein, helpu i gynyddu ymddiriedaeth yn ansawdd a chywirdeb y newyddion. Mae’r adroddiad yn dweud y dylai newyddion o safon uchel fod yn hawdd iawn ei gyrchu a’i wirio, ac mae’n argymell fframwaith arfer orau ar gyfer newyddiaduraeth a allai arwain at ddefnyddio graddfeydd tebyg i’r rhai a ddefnyddir gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd i wirio lefelau hylendid bwyd mewn bwytai.

Roedd dinasyddion hefyd yn cynghori y dylai’r cyfryngau yng Nghymru ymdrin â hanes a diwylliant Cymru yn well, yn ogystal â dod â gwleidyddiaeth a materion cyfoes Cymreig i’r gymuned ehangach yn fwy effeithiol. Roeddent yn glir bod addysgu democratiaeth yn rhan bwysig o sicrhau bod dinasyddion yn teimlo’n wybodus ac yn rhan o’r prosesau penderfynu sy’n effeithio ar eu bywydau.

Dywedon nhw y dylai Llywodraeth Cymru sefydlu ffynonellau cyllid cyhoeddus newydd i alluogi grwpiau lleol i ddarparu newyddion lleol yn hygyrch ar-lein, ac y dylai gwasanaethau gwybodaeth newydd am hanes, diwylliant a systemau gwleidyddol Cymru lywio rhaglen helaeth o addysg i oedolion i gryfhau dealltwriaeth dinasyddion o ddemocratiaeth.

Dywedon nhw hefyd y dylid cryfhau’r gwaith o addysgu democratiaeth mewn ysgolion drwy’r Cwricwlwm i Gymru a’r set newydd o gymwysterau TGAU sy’n cael eu datblygu ar hyn o bryd gan Cymwysterau Cymru.

Mae ein hargymhellion yn Lleisiau’r Dinasyddion, Newyddion y Bobl yn deillio’n uniongyrchol o’r sgyrsiau a gynhaliwyd gan y panel, ac maent fel a ganlyn:

RHEOLEIDDIO’R CYFRYNGAU

  1. Rydym yn cefnogi’r ymrwymiad i greu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru, ac yn argymell y dylid ystyried cylch gwaith ehangach ar gyfer y corff hwn ymhellach, a fyddai’n cynnwys monitro’r holl ffynonellau cyfryngau yng Nghymru, gan gynnwys print
  2. Argymhellwn ymhellach y dylai aelodaeth yr Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru fod yn gynrychioliadol ac yn amrywiol ac y dylai fod system ar gyfer ymgynghori â dinasyddion Cymru yn ehangach wrth lunio polisi rheoleiddio
  3. Argymhellwn y dylai’r Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol i Gymru ddatblygu fframwaith arferion gorau pwrpasol i Gymru y gellid mesur allbynnau newyddion yng Nghymru yn ei erbyn (a’u sgorio o ran eu dibynadwyedd mewn ffordd debyg i system sgoriau hylendid bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd) ac y gallai newyddiadurwyr (gan gynnwys hyfforddeion) ei ddefnyddio at ddibenion hyfforddi a meincnodi
  4. Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Llywodraeth y DU i wella atebolrwydd sefydliadau Cyfryngau Gwasanaeth Cyhoeddus i’r Senedd, drwy ddatganoli pwerau darlledu penodol, ac i greu sianelau y gellid eu defnyddio i archwilio atebion i’r materion trawswladol rheoleiddiol a’r rhai nad ydynt yn rheoleiddiol sy’n wynebu’r cyfryngau yng Nghymru, y DU a ledled y byd ymhellach

ADDYSG DINASYDDIAETH A DEMOCRATIAETH

  1. Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru gymryd camau i atgyfnerthu Addysg Dinasyddiaeth a Democratiaeth mewn ysgolion, gan gynnwys canllawiau cliriach ar addysgu dinasyddiaeth a democratiaeth (ar lefel leol, genedlaethol a byd eang), yn ogystal â gwleidyddiaeth a hanes modern Cymru, o fewn maes dysgu a phrofiad y Dyniaethau (MDPh) y Cwricwlwm i Gymru
  2. Argymhellwn ymhellach y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y cymwysterau TGAU Hanes ac Astudiaethau Cymdeithasol newydd yn cynnwys agweddau sy’n berthnasol i Gymru arwyddocaol ar wleidyddiaeth a phrosesau democrataidd
  3. Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru greu llwybrau hyfforddiant athrawon priodol, gan gynnwys TAR a hyfforddiant mewn swydd er mwyn galluogi athrawon i arbenigo mewn Astudiaethau Cymdeithasol, gan gynnwys gwleidyddiaeth

CYDNABOD CYMREICTOD

  1. Rydym yn cefnogi’r ymrwymiad yng Nghytundeb Cydweithio Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru i ‘gyllido mentrau presennol a newydd i wella newyddiaduraeth yng Nghymru er mwyn mynd i’r afael â diffyg gwybodaeth’ ac yn argymell y dylid dyrannu rhagor o gyllid i gefnogi newydd-ddyfodiaid o amrywiaeth eang o gefndiroedd mewn ardaloedd ledled Cymru i fanteisio ar hyfforddiant newyddiaduraeth, gan ganolbwyntio’n benodol ar wella’r sylw a roddir i faterion Cymreig yn y cyfryngau, darpariaeth Gymraeg a mynd i’r afael â grwpiau heb gynrychiolaeth ddigonol
  2. Argymhellwn y dylai Llywodraeth Cymru greu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i ddarparu amrywiaeth o adnoddau addysg Dinasyddiaeth a Democratiaeth o ansawdd uchel ar gyfer disgyblion ysgol ac oedolion; dylai’r rhain gael eu llunio ar y cyd â dinasyddion, eu dosbarthu drwy amrywiaeth eang o leoliadau cymunedol a sianeli cyfathrebu, a’u hategu gan ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd wedi’i hariannu’n dda, wedi’i hanelu at amrywiaeth o grwpiau gwahano

Dywedodd Auriol Miller, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig:

‘Credwn y dylid trin y cyfryngau yng Nghymru fel gwasanaeth hanfodol, gyda phopeth y mae’r term hwn yn ei awgrymu o ran ansawdd, cywirdeb a hygyrchedd i bawb, ym mhob man yng Nghymru. Newyddiaduraeth o ansawdd uchel yw sylfaen democratiaeth iach a dylid ei gwarchod a’i hariannu’n ddigonol er mwyn gwasanaethu anghenion pob dinesydd.’

Louise Casella, Cyfarwyddwr, Y Brifysgol Agored yng Nghymru:

“Er bod ein democratiaeth yn ifanc o hyd, gall Cymru fod ar flaen y gad o ran democrateiddio gwybodaeth. Trwy weithio gyda’n gilydd, gallwn sicrhau nid yn unig bod ein dinasyddion yn gallu cael gafael ar wybodaeth, ond eu bod hefyd yn gallu deall a defnyddio’r wybodaeth.’

Cefnogwyd Lleisiau’r Dinasyddion, Newyddion y Bobl: Sicrhau bod y Cyfryngau’n Gweithio dros Gymru gan gyllid gan y Brifysgol Agored yng Nghymru ac Ymddiriedolaeth Elusennol Joseph Rowntree. Cyflwynwyd y Panel Dinasyddion ar y cyd â’r Sefydliad Sortition a Mutual Gain.

Gallwch ddarllen Lleisiau’r Dinasyddion, Newyddion y Bobl: Sicrhau bod y Cyfryngau’n Gweithio dros Gymru yn Gymraeg yma, yn Saesneg yma, ac mae crynodeb gweithredol ar gael i’w lawrlwytho yn Gymraeg ac yn Saesneg.