Yn dilyn ein cyfres lwyddiannus o ddadleuon gyda Phrifysgol Caerdydd, mae’r Sefydliad Materion Cymreig yn falch o gyhoeddi cydweithrediad newydd gyda Phrifysgol flaenllaw arall yng Nghymru.
Mae’r Sefydliad Materion Cymreig a Phrifysgol Bangor wedi dechrau ar bartneriaeth tair blynedd i gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau rhithwir, wyneb yn wyneb neu hybrid, a fydd yn cyfrannu at ddylanwadu ar yr agenda polisi cyhoeddus ar draws amrywiaeth o faterion, yn cynnwys:
- Canfyddiadau a realiti Gogledd Cymru a pherthynas gymdeithasol, economaidd a gwleidyddol y rhanbarth â gweddill y wlad a thu hwnt
- Y ffin hydraidd rhwng Gogledd-ddwyrain Cymru a Gogledd-orllewin Lloegr, a beth mae’n ei olygu o ran poblogaethau’n symud
- Buddsoddiad, arloesedd, yr agenda Ffyniant Bro a chynghreiriau cyn-datganoli
Trwy drafodaethau ag ymchwilwyr a gweithwyr proffesiynol o’r sectorau preifat a chyhoeddus a’r trydydd sector byddwn yn archwilio tirwedd economaidd-gymdeithasol y Gogledd ac yn helpu i lywio trafodaethau am ei dyfodol. Bydd yn gyfle i arddangos ymchwil newydd am y rhanbarth a chreu cyfleoedd i gael trafodaethau am ei ddyfodol. Bydd pob digwyddiad yn agored i’r cyhoedd, a byddant yn cael eu recordio i’w rhoi ar ein gwefan.
Bydd y dudalen hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd gyda newyddion a digwyddiadau a drefnir fel rhan o’r bartneriaeth.
Cynhelir ein digwyddiad nesaf mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor ar 19 Mawrth 2024. Cofrestrwch yma.
Trafodaeth banel oedd y digwyddiad cyntaf, a gynhaliwyd yn rhithwir ar 31 Mawrth 2022 am 10am. Roedd y digwyddiad yn archwilio beth mae gostyngiad ym mhoblogaeth oedran gweithio’r Gogledd yn ei olygu ar gyfer cadernid economaidd a chymdeithasol yn y dyfodol, ac i’n hiechyd, llesiant a’n lles yn y dyfodol.
Y siaradwyr oedd:
- Yr Athro Rhiannon Tudor Edwards – Athro Economeg Iechyd, Prifysgol Bangor
- Dr Sibani Roy – Sylfaenydd, Rhwydwaith Cydraddoldeb Rhanbarthol Gogledd Cymru
- Ceri Cunnington – Hwylusydd Cymunedol, Cwmni Bro Ffestiniog
- Mario Kreft MBE – Cadeirydd, Fforwm Gofal Cymru
Gallwch wrando ar y digwyddiad fel podlediad hefyd. Mae’r sgwrs o’r digwyddid ar gael yma.
Ein hail ddigwyddiad, a gynhaliwyd ym Mangor ar 6 Hydref 2022, oedd dadl am fanteision ac anfanteision treth dwristiaeth bosibl yng Nghymru. Yn ystod y drafodaeth rhoddwyd sylw i faterion fel perchnogaeth ail gartrefi a chynaliadwyedd y sector yn y dyfodol.
Y siaradwyr oedd:
- Auriol Miller, Cyfarwyddwr, Sefydliad Materion Cymreig – Cadeirydd
- Dr Edward Jones, Darlithydd mewn Economeg, Prifysgol Bangor
- Adrian Barsby, Is-gadeirydd, Cynghrair Twristiaeth Cymru
- Emyr Williams, Prif Swyddog Gweithredol, Parc Cenedlaethol Eryri
- Dylan Williams, Prif Swyddog Gweithredol, Cyngor Sir Ynys Môn
- Annette Pritchard, Athro Rheoli Twristiaeth, Prifysgol Beckett Leeds
- Stephen Davies, Prif Swyddog Gweithredol, The Welsh Whisky Company
Cynhaliwyd ein trydydd digwyddiad mewn partneriaeth â Phrifysgol Bangor ar 21 Mawrth 2023. Roedd y digwyddiad diweddaraf yn y gyfres o ddigwyddiadau partneriaeth 2022-24 rhwng Prifysgol Bangor a’r Sefydliad Materion Cymreig yn canolbwyntio ar y berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon ar ôl Brexit.
Roedd y panel o siaradwyr yn cynnwys yr Athro John Parkinson, Deon y Coleg Gwyddorau Dynol, Denise McQuade, Conswl Cyffredinol Iwerddon, Noel Mooney, Prif Weithredwr, Cymdeithas Bêl-droed Cymru, a Desmond Clifford, Prif Ysgrifennydd Preifat i Brif Weinidog Cymru.
Cyflwynwyd y digwyddiad ym Mae Caerdydd gan yr Athro Andrew Edwards, Dirprwy Is-Ganghellor Ymgysylltiad Dinesig a’r Gymraeg, gydag Auriol Miller, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig yn cadeirio’r sesiwn banel.
Rhoddodd yr Athro Parkinson gyflwyniad ar brosiect y Rhwydwaith Arloesi Celtaidd ar gyfer Gwyddor Bywyd Uwch (CALIN), lle mae’r brifysgol yn cydweithio â phrifysgolion blaenllaw eraill ar draws Cymru ac Iwerddon.
Cynigiodd Denise McQuade a Desmond Clifford eu syniadau ar y Cyd-gynllun Gweithredu 2021-2025 rhwng Llywodraethau Cymru ac Iwerddon, a sut mae datblygiadau gyda thrafodaethau Brexit yn effeithio ar ddynameg wleidyddol, economaidd a masnachu ar draws Môr Iwerddon.
Trafododd Noel Mooney ddylanwad cadarnhaol chwaraeon ar lesiant pobl, pwysigrwydd hunaniaeth Cymru yn ystod ac ar ôl Cwpan y Byd FIFA, a’r gwersi y gall Iwerddon eu mabwysiadu o Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Cafwyd sesiwn holi ac ateb i ddilyn, gydag aelodau o’r gynulleidfa’n gofyn cwestiynau ar amrywiaeth eang o faterion, yn cynnwys y posibilrwydd o gydweithio pellach ar brosiectau ynni, heriau cynnal masnach â phartneriaid yn Iwerddon ar ôl Brexit, a sut y gall Cymru ddysgu o lwyddiant proffil marchnata a brand Iwerddon yn rhyngwladol.
Meddai’r Athro Andrew Edwards, ‘Rydym mor falch fod y digwyddiad diweddaraf yn y gyfres bartneriaeth gyda’r Sefydliad Materion Cymreig wedi bod yn llwyddiant mawr arall. Roedd y berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon ar ôl Brexit yn bwnc trafod hollbwysig, ac roeddem yn falch o gael arbenigwyr o’r byd academaidd, llywodraeth a chwaraeon at ei gilydd i gynnig eu dealltwriaeth a’u safbwyntiau. Dangosodd y trafodaethau bod yna gonsensws sylweddol ar y cyfleoedd a’r heriau sy’n wynebu’r ddwy wlad ond hefyd bod yna gyfle digynsail i weithio mewn partneriaeth. Edrychwn ymlaen at barhau â’r drafodaeth bwysig hon a chryfhau ein trefniadau cydweithio â’n partneriaid yn Iwerddon drwy’r mentrau niferus fel y rhai sydd ar waith neu’n cael eu datblygu yn y Brifysgol.’
Cynhaliwyd y pedwerydd digwyddiad gyda Phrifysgol Bangor ar Ynys Môn ar 5 Hydref 2023. Gallwch weld crynodeb a dadansoddiad o’r materion dan sylw ar yr agenda Gymreig ar-lein.
Roedd y pumed digwyddiad yn ein partneriaeth â Phrifysgol Bangor yn trafod rôl hanfodol mentrau cymdeithasol a modelau perchnogaeth gymunedol wrth fynd i’r afael â heriau economaidd lleol.
Gallwch weld crynodeb a dadansoddiad o’r materion dan sylw ar yr agenda Gymreig ar-lein.
Gallwch ddarllen trawsgrifiad yma.