Rhannu pŵer, lledu cyfoeth: tuag at bontio ynni teg i Gymru

Elijah Thomas / Picture of the Welsh Valleys
Credyd llun: Elijah Thomas

Rhaid i Lywodraeth Cymru osod telerau ymrwymo â’r sector ynni adnewyddadwy masnachol, gan sicrhau bod Cymru’n cadw mwy o incwm o’r datblygiadau ynni adnewyddadwy sy’n cael eu sefydlu yma.

Yn ein hadroddiad newydd a ysgrifennwyd gan Lydia Godden, Rhannu pŵer, lledu cyfoeth, rydym yn gwneud argymhellion i sicrhau bod cymunedau Cymru yn elwa ar y newid i sero net. Er gwaethaf targedau uchelgeisiol, mae diffyg trafodaethau strategol a chanllawiau polisi ar hyn o bryd yn caniatáu i gyfoeth lithro allan o’n dwylo yma yng Nghymru. Mae ein hymchwil yn ystyried sut i osgoi gweld camgymeriadau a phatrymau o echdynnu adnoddau a welwyd yn y gorffennol yn digwydd eto, er mwyn sicrhau canlyniadau cymdeithasol ac economaidd cadarn i’n bröydd ni.

Dros Gymru benbaladr, rhaid i gymunedau sy’n gartrefi i brosiectau ynni adnewyddadwy nid yn unig gadw incwm sy’n dod o ddatblygiadau masnachol ond hefyd chwarae rhan ystyrlon o ran perchnogaeth prosiectau ynni adnewyddadwy lleol er mwyn sicrhau bod buddion hirdymor yn aros yma.

Rhannu pŵer, lledu cyfoeth (EN)

Argymhellion

Argymhelliad 1: Ailrymuso cymunedau: diwygio arian budd cymunedol. Er mwyn sicrhau bod mwy o effaith economaidd ac incwm o brosiectau ynni adnewyddadwy yn aros yng nghymunedau Cymru, dylai Llywodraeth Cymru amlinellu canllawiau polisi ac arferion da clir ar gyfer darparu arian budd cymunedol o brosiectau ynni adnewyddadwy er mwyn helpu datblygwyr a chymunedau i sicrhau bod arian budd cymunedol yn cael rhagor o effaith economaidd.

Argymhelliad 2: Pennu arferion gorau drwy Trydan Gwyrdd Cymru, gan sicrhau o leiaf 30% o berchnogaeth gymunedol ar eu datblygiadau yn y dyfodol er mwyn cynyddu incwm sy’n cael ei gadw a sicrhau mwy o effaith economaidd ar gymunedau. Wrth i Lywodraeth Cymru ffurfioli rôl Trydan Gwyrdd Cymru, dylai archwilio’r posibilrwydd o sicrhau perchnogaeth gymunedol lle bo modd. Yn achos prosiectau sy’n ffrwyth partneriaeth breifat/cyhoeddus ar y cyd â datblygwr masnachol, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y datblygwr yn darparu arian budd cymunedol sy’n dangos arferion gorau.

Argymhelliad 3: Cyflymu perchnogaeth gymunedol ar brosiectau masnachol, drwy orfodi bod o leiaf 15% o bob prosiect adnewyddadwy masnachol newydd uwchlaw 5MW dan berchnogaeth gymunedol a lleol erbyn 2028. Dylai Llywodraeth Cymru ddysgu o esiampl Llywodraeth Denmarc a sefydlu polisi i gadw’r buddion yma yng Nghymru a sicrhau bod gan gymunedau fudd yn yr ynni sy’n cael ei gynhyrchu yn lleol. Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda datblygwyr i archwilio i ystod o fodelau perchnogaeth gymunedol fel bod modd eu cynnig, gan leihau rhwystrau ariannol ymlaen llaw sydd ar hyn o bryd yn cyfyngu ar allu cymunedau o dan anfantais economaidd i ymrwymo i berchnogaeth gymunedol.

Argymhelliad 4: Ailfuddsoddi ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, dylai Llywodraeth Cymru sefydlu Cronfa Cyfoeth Cymru, gan ailfuddsoddi incwm o brosiectau ynni adnewyddadwy er budd hirdymor cenedlaethau’r dyfodol. Byddai’r gronfa’n cipio ‘taliadau cronfa gyfoeth sofran’ sef o leiaf 15% o refeniw net a wneir o brosiectau gwynt graddfa fawr yn y dyfodol ar y tir ac ar y môr sydd â thros 50 MW o gapasiti cynhyrchu gosodedig yng Nghymru, ochr yn ochr ag arian budd cymunedol ar gyfer y gymuned leol.

Syniadau uchelgeisiol, awdurdodol a mentrus.
Ymunwch â ni i gyfrannu at wneud Cymru gwell.