Mae’r papur hwn yn seiliedig ar yr ail mewn cyfres o drafodaethau bord gron a drefnwyd gan yr IWA mewn partneriaeth ag Arup.
Mae ein hadroddiad newydd, Y Cam Nesaf i Drafnidiaeth yng Nghymru, a ysgrifennwyd gan y Cyd-gyfarwyddwr Joe Rossiter, yn argymell dull cydgynghorol o ymdrin â thrafnidiaeth gynaliadwy, a ddatblygwyd mewn partneriaeth â chymunedau.
Mae ar Gymru angen system drafnidiaeth sy’n diogelu’r dyfodol i wynebu realiti newid yn yr hinsawdd, ond mae Llywodraeth Cymru yn wynebu cyfres o heriau cymhleth: annog pobl i ddefnyddio cerbydau trydan a seilwaith gwefru, ariannu darpariaeth gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus ddigonol ac ysgogi newid ymddygiad ymysg barn gyhoeddus ranedig yw rhai o’r tasgau sy’n aros i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau am y degawd nesaf.
Er mwyn gwneud hyn, rhaid i Lywodraeth Cymru fabwysiadu dull integredig o ymdrin â thrafnidiaeth, sy’n clymu manteision system drafnidiaeth gymysg ag iechyd y cyhoedd ac sy’n ymgorffori penderfyniadau ynghylch trafnidiaeth wrth lywio’r gwaith o gynllunio cymunedau.
Mewn degawd tyngedfennol o’n blaenau ar gyfer gweithredu i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, rhaid cyflymu datgarboneiddio’r system drafnidiaeth yn fawr. Mae hyn yn gofyn am ymrwymiad cyson ar gymell dulliau trafnidiaeth cynaliadwy ac ar alinio buddsoddiad tuag at lwybr sero net uchelgeisiol.
Bydd angen i’r broses hon ddod ag amrywiaeth o asiantau i mewn, o gymunedau, i’r rhai sy’n gwneud penderfyniadau a chyflogwyr. Rhaid iddo ystyried y gwahaniaethau rhwng cymunedau trefol a gwledig a chynnwys Awdurdodau Lleol a’r Cyd-bwyllgorau Corfforaethol (CJCs) sy’n dod i’r amlwg yn yr ymdrech hon.
Yn y papur hwn, rydym yn trafod rhinweddau buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus gynaliadwy a datgarboneiddio’r defnydd o geir i dargedu dibyniaeth Cymru ar geir ac ansawdd aer gwael.
Gall trafnidiaeth atal neu alluogi cenedl fwy cyfartal. Ar hyn o bryd, mae diffyg mynediad at drafnidiaeth gynaliadwy yn cloi cymunedau allan o gyfleoedd ac yn gwaethygu anghydraddoldebau rhanbarthol. Drwy dargedu buddsoddiad i alluogi cymunedau â thrafnidiaeth ddibynadwy, fforddiadwy, hygyrch a chynaliadwy, gall Llywodraeth Cymru ddod â manteision economaidd i gymunedau a gwella safonau byw.
Gydag arweinyddiaeth newydd yng Nghymru ac etholiadau ar y gorwel, rydym yn gwneud yr argymhellion a ganlyn:
- Dylai Llywodraeth Cymru ystyried manteision polisi i annog newid ymddygiad a chael cymunedau i gyd-fynd â’i phenderfyniadau
- Buddsoddi mewn newid ymddygiad
- Archwilio mecanweithiau democrataidd i ddarparu llwybrau ar gyfer newid
- Bysiau – darparu rhwydwaith sydd â budd cyhoeddus yn ganolog iddo
- Parhau â’r cyfeiriad polisi cadarnhaol ar drafnidiaeth – cefnogi ystyriaeth eang o werth wrth arfarnu prosiectau trafnidiaeth ar bob lefel
- Gosod targedau cryfach i gyfeirio canlyniadau cyflenwi trafnidiaeth
- Ymgymryd â chasglu data cadarn sy’n cyd-fynd ag uchelgeisiau polisi
- Sefydlu arfer gorau i gyflogwyr gefnogi dulliau trafnidiaeth cynaliadwy yn eu sefydliad
- Cyflymu’r newid i ddatblygiad sy’n canolbwyntio ar drafnidiaeth ar bob lefel o lywodraeth
- Buddsoddi mewn mentrau hyfforddi sector cyhoeddus
- Defnyddio proses y CJC i wneud y mwyaf o benderfyniadau rhanbarthol ar drafnidiaeth
Gallwch ddarllen yr adroddiad llawn yma.
Darllenwch y papur cyntaf yn y gyfres hon a gynhyrchwyd mewn partneriaeth ag Arup yn: Cymru, Y Daith i Sero Net: Mynd i’r afael â lliniaru newid yn yr hinsawdd drwy fuddsoddi’n gyflymach mewn seilwaith.
Gofod i drafod, dadlau, ac ymchwilio.
Cefnogwch brif felin drafod annibynnol Cymru.