Iwan Trefor Jones (Adra)
Croeso I Dy Gwyrddfai ym Mhenygroes. Falch iawn i weld gymaint ohonoch chi yma bore ma. Nifer o unigolion a sefydliadau yn cael eu gynrychioli yma heddiw. A gobeithio bydd bore ma yn gyfle i chi rwydweithio, i gyfnewid gwybodaeth, i gasglu syniadau ac i wrando yn amlwg ar rai o’r siaradwyr sy’n cymryd rhan bore ma…Y cyfan dwi mynd i wneud yw eich croesawu chi yma bore ma i Dy Gwyrddfai, a gwneud yn siŵr eich bod yn ymwybodol o’r hyn da ni’n cyflawni trwy’r cynllun unigryw yma…Iwan Trefor Jones ydw i, dwi’n Brif Weithredwr Adra…cwmni ydy Adra sy’n gwarchod buddiannau dros deunaw mil o drigolion lleol. Da ni’n rheoli dros saith mil o gartrefi yma yng Ngwynedd. Ac wrth gwrs ma gyno ni blaenoriaethau reit glir yn ymwneud hefo buddsoddi yn y stoc dai presennol, codi tai fforddiadwy a tai cymdeithasol er mwyn ymateb i’r angen lleol. Ac hefyd trio gwneud yn siŵr bod y rheini da ni’n cynrychioli yn cael tegwch, a bod y pobl sy’n byw yn ein cymunedau yn cael y cyfle i symud ymlaen a chyflawni eu potensial. I ryw raddau, da ni’n rhannu yr un gwerthoedd ac egwyddorion a mentrau cymdeithasol sy’n cael eu cynrychioli yn yr ystafell yma bore ma. Mae’n wych i gynnal digwyddiad fel hyn yn un o’n cynlluniau ni yn Adra. Da ni hefyd yn gwmni reit flaengar, yn ystyried pa gyfleoedd sydd yna yn enwedig i’n pobl ifanc, a gwneud yn siŵr bod nhw’n cael cyfleoedd i ddatblygu sgiliau, i fynd ar gyrsiau hyfforddi, a chael mynediad at y cyfleoedd sydd yna yn y farchnad lafur. Hyn i sicrhau bod nhw’n medru byw yn annibynnol a chyflawni eu potensial yn lleol. Un enghraifft ydy fan yma, Tŷ Gwyrddfai. Ma hyn yn gynllun sydd wedi datblygu mewn partneriaeth, ar y cyd rhwng Grŵp Llandrillo Menai, Prifysgol Bangor a nifer o sefydliadau eraill. Ond y pwrpas fan yma yw trio gwneud yn siŵr bod ni’n rhoi cyfleoedd i pobl ifanc i ddatblygu sgiliau, yn enwedig yn y maes galwedigaethol. Da ni’n rheoli dros saith mil o dai, a da ni angen crefftwyr drwy’r adeg i gynnal a chadw y tai yna. Da ni hefyd angen crefftwyr i adeiladu tai o’r newydd. Ma na gyfrifoldeb arnom ni i wneud yn siŵr bod y math iawn o hyfforddiant ar gael yn lleol, er mwyn datblygu sgiliau pobl ifanc yr ardal yma. Un o’r prif rhesymau i ddatblygu’r lle yma ydy i wneud yn siŵr bod y ddarpariaeth hyfforddiant ar gael i’r bobl hynny…Mae Penygroes yn ganolfan ac yn ganolbwynt yng Ngwynedd, a bydd yr hyfforddiant sy’n cael ei darparu yma yn paratoi pobl ifanc ar gyfer cyfleoedd gwaith, sy’n mynd i ddod gyda dadgarboneiddio y stoc dai, yn sgil y buddsoddiad da ni’n gwneud yn y stoc dai presennol. Fe fydd na gant, cant a hanner o bobl ifanc yn cael eu hyfforddi yn y ganolfan yma yn flynyddol. Sgiliau fel gosod ‘exterior wall insulation’, gosod paneli solar, gosod ‘heat pumps’ newydd, a gwneud yn siŵr bod nhw hefo’r hyder a’r sgiliau i wneud hynny. Mae’n nod bwysig i’r ganolfan yma. Mae’n nod bwysig yn lleol hefyd er mwyn tendro am waith. Peth dwetha da ni am wneud yw dod a cwmnïoedd mawr allanol i fewn i weithio ar ein stoc dai. Be da ni isio gwneud yw creu cadwyni cyflenwi lleol, sicrhau bod cwmnïoedd contractwyr lleol yn cael gwaith, ma fama yn allweddol i sicrhau bod ni’n cefnogi cwmnïoedd contractwyr lleol, gwneud yn siŵr bod gyno nhw’r capasiti i fynd am gyfleoedd tendro, ac felly ma fama yn adnodd pwysig yn cyflawni hynny. Da ni’n cyflogi dros 180 o grefftwyr, ma gyno ni tîm trwsio sy’n gwneud y gwaith yma a da ni o hyd yn chwilio am grefftwyr, da ni bob tro yn tri recriwtio yn lleol a cadw’r budd yn yr ardal yma. Ma hynna yn nod bwysig a bydd y ganolfan yma yn greiddiol ar gyfer gwneud hynny. Yn hynny o beth da ni’n rhannu’r un gwerthoedd ac egwyddorion gyda chi fel mentrau cymdeithasol, trio cadw y budd yn lleol, trio gwneud yn siŵr bod gyno ni’r cadwyni cyflenwi lleol, trio neud yn siŵr bod ni’n recriwtio yn lleol a datblygu cyfleoedd i cymunedau lleol, ma hynny’n dwi’n siŵr yn gorwedd yn gyfforddus hefo chi fel mentrau cymdeithasol. Dwi’n teimlo da ni’n rhannu’r un gwerthoedd a chi fel sefydliadau. Dwi’n siŵr bod chi’n ymwybodol o hanes yr adeilad yma. Rodd fan yma yn ganolfan i Dyffryn Nantlle, rodd yn cyflogi yn agos i gant a hanner, a fe gaeodd Kruger tua pump, chwe mlynedd yn ôl, a rodd yr adeilad yn segur am dros dwy tair blynedd. A mi wnaethom y penderfyniad, yn hytrach na chodi adeilad o’r newydd, gwnaethom buddsoddi mewn adeilad fel hyn, oedd yn ased cymunedol. A thrwy gwaith partneriaeth, yn llwyddiannus yn targedu grantiau gwahanol, a mi lwyddom i addasu’r adeilad i’r ganolfan yma, i Tŷ Gwyrddfai, i ddarparu hyfforddiant a gwneud gwaith ymchwil er mwyn eu defnyddio ar gyfer gwaith datgarboneiddio. Mae wedi bod yn broses hir, ond yn sicr dwi’n teimlo eu fod o werth o. Os dach chi’n edrych o gwmpas, mae’r adeilad yn defnyddio gwlân Cymreig er mwyn insiwleiddio’r adeilad, yn defnyddio’r ‘heat pumps’ ar gyfer cynhesu’r adeilad, da ni’n ddatgarboneiddio uned diwydiannol i bwrpas cymunedol, a hynny yn cyd-fynd gyda themâu bore ma. Da ni’n gweithio’n agos hefo Grŵp Llandrillo Menai, a fydd yn darparu’r hyfforddiant i bobl ifanc, hyfforddi y gweithlu presennol, ond hefyd mae’r berthynas hefo Prifysgol Bangor yn un allweddol, ma hwnna yn amlwg yn bwysig i ni, i wneud gwaith ymchwil, gwaith arloesi ar gynnyrch a deunyddiau lleol, a defnyddio’r deunyddiau yna wrth ddatgarboneiddio y stoc dai. Eto, defnyddio ymchwil lleol, defnyddio adnoddau lleol, defnyddio cynnyrch lleol, defnyddio gweithlu lleol, ar gyfer cyflawni amcanion ni fel cwmni. Mae Tŷ Gwyrddfai yn fwy na adeilad, mae’n gatalydd i dynnu lot o bartneriaid at eu gilydd, yn gatalydd i ddatblygu’r cadwyni cyflenwi lleol, yn gatalydd i wneud yn siŵr da ni’n defnyddio adnoddau yr ardal yma er mwyn cyflawni ein hamcanion fel cwmni. Mae’r amcanion yna yn bwysig i bob un ohonom, ymateb i anghenion ein cymunedau, ac ymateb i anghenion cymunedau mwya bregus yn yr ardal yma, a mae’r cymunedau yna yn haeddu pob cefnogaeth, pob tegwch, ac yn amlwg yn bwysig o ran cynaliadwyedd y Gymraeg yn ein cymunedau yn yr ardal yma…Dyna ddigon gen i…Falch iawn i’ch gweld i gyd yma, a gobeithio wnewch chi mwynhau’r profiad o fod yn Tŷ Gwyrddfai, a ma na gyfle i chi fynd o gwmpas Tŷ Gwyrddfai tuag at y diwedd, ma Julie ar gael i fynd a chi o gwmpas…wnai trosglwyddo chi rŵan i Andrew, diolch yn fawr iawn.
Yr Athro Andrew Edwards (Prifysgol Bangor)
Diolch Iwan, a braf iawn cael bod nol yn Tŷ Gwyrddfai. Bore da a chroeso cynnes i chi gyd i’r digwyddiad yma heddiw. Dyma’r pumed yn ein cyfres o chwe digwyddiad yn rhan o’r berthynas tair blynedd hefo’r Sefydliad Materion Cymreig, neu’r IWA. Jyst ychydig o gefndir, pan wnes i cymryd y rôl ma drosodd yn misoedd cynta Covid, pedair mlynedd yn ôl, wnes i etifeddu prosiect cenhadaeth ddinesig, dodd gyno ni ddim strategaeth, dim cyllid cenhadaeth ddinesig yn y Brifysgol, dim staff yn gweithio ar cenhadaeth ddinesig. Pedair mlynedd i lawr y lein, ma gyno ni dri o staff, gyno ni cyllid a da ni wedi ariannu ryw ugain o brosiectau, lle ma staff y Brifysgol yn medru cael arian i weithio gyda cymunedau lleol ar brosiectau, a ma gyno ni strategaeth. Os da chi’n meddwl amdano ni yn dringo Everest, efallai da ni’n agos i gyrraedd ‘base camp’ yn gyntaf, da ni’n bell, bell o lle da ni isio bod, ond ma neud stwff fel hyn a bod allan yn y gymuned yn hollbwysig i ni. Pan on i’n cadeirio’r grŵp cymunedol am y tro cynta, odd y trafodaethau wastad ar myfyrwyr yn cam-bihafio, yn neud petha gwirion ym Mangor, a bins! A da ni wedi troi hyn i rownd, sefydlu Bwrdd Cymunedol, tua tri deg o aelodau, a’r Bwrdd Cymunedol erbyn hyn yn cynnwys grwpiau cymunedol lleol, elusennau, cynghorwyr ac yn y blaen. Da ni wedi symud y Brifysgol ymlaen, a ma dod allan i’r gymuned yn lle bod chi yn dod ato ni o hyd yn y Brifysgol ym Mangor yn hollbwysig…Ma gallu dod yma i Benygroes a Tŷ Gwyrddfai yn arwyddocaol o sut da ni am symud cyfeiriad y strategaeth ym Mangor. Yn ôl i’r berthynas gyda’r IWA, ma’r sesiynau da ni wedi cael hyd yn hyn wedi edrych ar iechyd, twristiaeth, y berthynas rhwng Cymru ac Iwerddon, ac ynni. A bydd digwyddiad heddiw yn cyffwrdd ar y materion yma, wrth i ni edrych ar sut mae grwpiau lleol a mentrau cymdeithasol yn mynd ati i brynu a chynnal eu hasedau eu hunain yn yr ardal. Fel da ni’n gwybod, ma awdurdodau lleol a chynghorau cymunedol yn gwynebu heriau ariannol, chael hi’n anodd i gadw asedau a chadw pethau i fynd, ac yn gorfod wneud mwy a mwy o doriadau…arwyddocaol i gyllidebau yn ystod y flwyddyn, gyda thoriadau yn y sector cyhoeddus, mae grwpiau a mentrau lleol yn dod at eu gilydd i reoli eu hasedau lleol. Wrth gwneud hynny ma nhw’n cymryd cam tuag at rheoli cymunedau a hefyd yn datblygu yr economi leol fel mae Iwan wedi disgrifio yn barod. Ma Cymru yn gwynebu heriau sylweddol, da ni’n gwybod hyn, ma’r problemau yn gymhleth, yn enwedig mewn cymunedau ar draws gogledd Cymru, ond gall mentrau cymdeithasol a modelau perchnogaeth cymunedol cynnig atebion newydd i ni, lle caiff elw ei ail-fuddsoddi yn lleol i gryfhau cymunedau, amddiffyn yr amgylchedd leol, a dod a buddion economaidd a chymdeithasol…Da ni yma heddiw i gynnal trafodaeth ddifyr ac amserol, yn archwilio twf mentrau cymunedol a pherchnogaeth leol, fel enghreifftiau o ddatrysiadau medrwn ni ffeindio o’r gwaelod i fyny. O dai i iechyd a cludiant i ynni cymunedol, mae rôl mentrau cymdeithasol a modelau perchnogaeth cymunedol yn croes-torri o fewn amrywiaeth o sectorau. Felly da ni mynd i glywed o’n panelwyr arbenigol, yn archwilio sut ma’r mentrau hyn yn gweithredu, ac yn cael effaith yma yng ngogledd Cymru. Gobeithio gewn ni bore difyr, digon i’w drafod. Dwi am ddechrau mewn munud gyda cyflwyniad gan Ed, ac yna trafodaeth gyda’r panelwyr cyn agor y drafodaeth allan i chi fel cynulleidfa….Yn gynta gai cyflwyno Ed, cydweithiwr i mi ym Mhrifysgol Bangor, ma Ed Jones yn Uwch Ddarlithydd ac yn Economegydd ym Mhrifysgol Bangor. Economegydd ariannol ydy Ed hefo profiad proffesiynol ar lefel uwch yn y sector breifat a’r sector cyhoeddus. Ma ganddo brofiad mewn dadansoddi modelau ariannol, economi yn ymwneud hefo rhanddeiliaid, ymchwil dechnolegol a datblygu strategaethau busnes. Yn ddiweddar, mae wedi gwneud ymchwil ar strydoedd mawr yn y Deyrnas Unedig, a da ni fel dinas ym Mangor wrth gwrs yn gweld y problemau yna, ac hefyd yn edrych ar systemau treth mewn economïau ymwelwyr, a bob math o faterion eraill. Croeso cynnes Ed.
Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor)
Diolch yn fawr iawn, bore da pawb. Pleser bod hefo chi bore ma. Mi wnâi troi at y Saesneg ar gyfer yn nghyflwyniad. As I prepared for this academic year, I reviewed the economic models that I’d be teaching my students. I trawled through my textbooks, looked at new models, and all of a sudden I became particularly interested in one type of economic model, that is community or people-led ventures. I found this to be a simple yet extremely powerful model. It has the collective capacity, skills and innovation, and direct these towards achieving beneficial outcomes to the local community. This usually involves taking ownership or the management of local assets which are used to benefit more resilient communities, establish the real needs of those communities, empowering and upskilling local people. Some suggest that communities have taken these opportunities because governments at all levels are no longer able to provide the services that they need. Others suggest that through these ventures, communities are addressing market failures, offering services that are no longer provided by private business. However, the idea of communities taking ownership of local assets, whether that’s by buying, leasing, managing or even creating something new from scratch, is not new. Over 400 years ago, the biggest group of religious dissidents in England took ownership of under-used land for the common good. Early charitable organisations owned land and buildings to support poor people. The collective ownership of assets also had roots in the cooperative and mutual associations of shared ownership by members. Settlements and social action centres, community centres and village halls have frequently managed a building as part of their service. History is full of impressive examples of communities coming together to fund assets for local use. By the summer of 1885, the Statue of Liberty was in New York in pieces, waiting to be assembled. Designed by a French sculptor and paid for by the government of France, the statue was a diplomatic gift to the US. However, the US government had been unable to raise the 250,000 US dollars needed for the statue, four million pounds in today’s prices. The New York Governor rejected the use of city funds to pay for it and Congress could not agree on a funding package. It seemed as though New York had run out of options when renowned publisher Joseph Pulitzer launched a fundraising campaign in his newspaper. The campaign eventually raised money through more than 160,000 donors, including young children, businessmen, street cleaners, and politicians, with more than three quarters of donations amounting to less than a dollar. It was a triumphant rescue effort, in just five months, the newspaper raised enough money to cover the costs, and have money leftover as a gift to the sculptor. It’s a great example of how communities can achieve great things when they come together to tackle a problem. Today, there are plenty of examples of community-owned ventures in Wales, who provide an invaluable service and benefit to local people. The Iorwerth Arms in Bryngwran, Partneriaeth Ogwen in Bethesda, Pwll Glas Community Shop in Rhuthun, Llanfechan Community Shop, Tafarn y Sinc, Siop y Parc, Galeri in Caernarfon which is also the largest community-owned venture in Wales, are just some examples of community-owned ventures across this country. In 2019 the community created a fan-owned football club, Bangor 1876, to ensure the continuation of competitive football at the highest possible standard in the city. Communities across Wales are also taking the initiative to tackle the housing crisis by building their own properties that will be affordable for local people. For example, Bro’r Efyl community land trust in Pen Llyn has come together to develop affordable housing for local people, using the community land trust model. Which ensures that land assets remain in the hands of the local community in perpetuity. Across the whole of Wales more communities are taking the initiative to purchase assets of local interest and ensure they’re operated for the long-term benefit of those communities. These ventures and others across Wales have brought a sense of purpose and achievement, provided a sense of local and national history, and renew the sense of community. Some have been successful in generating a sense of social identity of local community, bringing people together who otherwise would have remained as anonymous neighbours. And have preserved a significant place, a cornerstone in local history. Each kind of venture has a distinct value, either for its contribution to various social goods, including collective and individual wellbeing, cultural identity or participation, or economic value. As interest in local wealth grows, the potential for community-led ventures should be part of activities, grow local shared wealth and help places which are economically disadvantaged. Improving the economic profile of a place through the generation of revenue and diversification of the local economy will, as a result, generate wider benefits. The loss of community assets is an ongoing concern. These losses are due to economic trends and the erosion of public sector support. In the past few years the news has been full of stories where community assets have been sold and lost. For example, Capel Bethana in Pistyll was sold to a private investor after being advertised by the auctioneer as a holiday home. Despite the best efforts of the local community to raise funds to purchase the local historical chapel. There is some interesting research looking at the risks associated with community-led ventures. While providing communities with funding, and the spending on projects that communities really need can have a positive effect, this approach can also entrench existing inequalities. The UK’s largest community empowerment programme, the National Lottery funded Big Local, is a prime example of this. Launched in 2010, it supports resident-led partnerships in 150 relatively disadvantaged areas in England. With each scheme receiving at least £1 million to improve their neighbourhood. Using data from surveys and public services to assess the benefits for residents involved in the 150 partnerships and the people living in those local areas, research published in the Public Health Research Journal found that improvements delivered by these communities are many and varied. Communities involved have set up football clubs, support facilities, created community gardens, opened community hubs, increased work-related skills, improved public transport, deepening community cohesion along the way. But it wasn’t all good news. Among residents on big local partnerships, those with higher educational qualifications reported improved mental wellbeing, but those with no formal qualifications did not. And at least initially, men were more likely to report improved mental wellbeing than women. Differences in power between individuals and groups in the communities as well as professional organisations meant some residents benefited far more than others. Power differentials also limit the extent to which Big Local can be delivered, delivering lasting change in social and health inequalities. To make a real change to our communities, we need to ask new questions about the social purpose and economic function of local assets. There is a growing awareness of the need to develop local assets for the local community and ensure accessibility to local service and experience regardless of age, experience, income or background. Community-led ventures have the capacity to shift power dynamics from a top-down approach to where the community decides what’s best for it. Places that have the ability to bring people together can become the central focal point of communities, and help improve or enrich the quality of life of those living there. Where new initiatives have been sparked, community schemes have the ability to create new energy and dynamism. Most of all, being part of such ventures harnesses the experience of being part of a community. One that works together for the common good, which can achieve great things when local people unite, and decide to build something positive and lasting for the future. Diolch yn fawr iawn.
Yr Athro Andrew Edwards (Prifysgol Bangor)
Iawn, croeso I chi gyd. Felly fel yr X Factor ‘in no particular order’, y panel sydd hefo ni bore ma. Yn gyntaf Sel Williams, Cyfarwyddwr Cwmni Bro Ffestiniog ac yn cyn-ddarlithydd datblygu cymunedol Prifysgol Bangor, ma Cwmni Bro Ffestiniog ym Mlaenau Ffestiniog yn gweithio er budd y gymuned ac yn rhan o Cymunedoli, a dwi’n siŵr neith Sel sôn mwy am Cymunedoli yn y man. Trwy Cymunedoli mae Sel yn hybu gweithgaredd cymunedol, gwella cydweithrediad mewn mentrau cymunedol, elusennau, cyrff gwirfoddol, asiantaethau cyhoeddus a phreifat yn yr ardal. Yn ogystal a hyn, ma’n cefnogi mentrau presennol a newydd, a chyfrannu at datblygiad unigolion a datblygiad economaidd amgylcheddol, economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac addysgol, ac felly croeso i Sel. Meleri yw Prif Swyddog Gweithredol Partneriaeth Ogwen, lle mae cymuned, yr amgylchedd, yr economi, iaith a diwylliant wrth galon yr hyn y wnaent. Gyda blynyddoedd o brofiad rheoli timau a prosiectau cymunedol, mae Meleri hefyd yn gyfarwyddwr gwirfoddol gyda Ynni Ogwen, Ynni Cymunedol Cymru, a Siop Ogwen. Ers ei phenodiad gyda Phartneriaeth Ogwen, mae Meleri wedi ennill gwobr pencampwr cynaliadwyedd Cymru yn ngwobrau Academi Cynaliadwy Cymru a gwobr ‘Green Energy Pioneer’ yng Ngwobrau Prydain. Blwyddyn diwethaf roedd Partneriaeth Ogwen ar restr fer Gwobr Menter Cymdeithasol y Flwyddyn yng Ngwobrau Busnes Cymdeithasol Cymru. Jess yw Rheolwr Rhaglen Cymru People’s Economy Cymru. Cyn ymuno a People’s Economy, treuliodd Jess pum mlynedd fel gweithiwr cymunedol i grŵp a arweiniwyd gan breswylwyr, gan weithio gyda preswylwyr i wireddu eu gweledigaethau ar gyfer y gymuned. Cyn hynny gwnaeth PhD mewn prosesu cefnfor, a systemau hinsawdd. Mae Jess yn credu fod newid economaidd yn allweddol i sicrhau ein bod yn byw gyda chydbwysedd gyda’n gilydd ac hefo’r planed. Mae’n optimistaidd gallwn dychmygu a gwneud byd mwy cyfiawn, wedi ei siapio gan yr hyn sy’n bwysig i bobl a chymunedau. Yn olaf, Grant. Grant yw cyfarwyddwr Datblygiadau Egni Gwledig. Mae Grant yn entrepreneur cymdeithasol, yn ymarferydd lleoliaeth ac yn ymgynghorydd cymunedau cynaliadwy. Mae’n un o gyfarwyddwyr gwreiddiol DEG ac mae hefyd yn gyfarwyddwr ynni teg, ac ynni newydd a sefydlog. Yn y gorffennol mae Grant wedi helpu i sefydlu nifer o fentrau cymdeithasol, gan gynnwys ei dafarn leol Tŷ’n Llan, i helpu’r gymuned i berchen arni. Treuliodd pum mlynedd fel cyfarwyddwr Ynni Cymunedol Cymru, ac yn fwy diweddar sefydlodd mudiad GwyrddNi, i gal gweithredu cymunedol a newid yn yr hinsawdd ar draws Gwynedd. Gobeithio fod hynna yn crynhoi ychydig bach, bach o’r hyn da chi gyd yn ei wneud. Unwaith eto, croeso cynnes i chi gyd. Mae na gyfle wedyn i chi gael trafodaeth hefo’r panel, wnâi agor y llawr i’r gynulleidfa cyn gynted a fedrai, ond wnâi cychwyn hefo chdi Ed, yn dilyn y cyflwyniad. Mi rwyt yn economegydd. Be di gwerth yr hyn roeddet yn sôn amdano? Be di gwerth economaidd yr holl waith ma sy’n mynd ymlaen? Lle mae’r heriau wrth i ni symud ymlaen i’r lefel nesa gyda’r gwaith yma?
Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor)
Dwi’n ymwybodol o’r gwaith gwnaeth Sel ychydig o flynyddoedd yn ôl hefo gwerth economaidd. Ond ma na beryg fama ein bod yn rho gwerth economaidd yn unig ar y mentrau yma. Gynta oll, da ni’n gwybod bod nhw’n cael gwerth economaidd, ma nhw’n creu elw neu byse nhw dal ddim yma, ond hefyd ma nhw’n cael effaith bositif ar y gymdeithas leol, a dyna sy’n bwysig hefo’r mentrau yma, ma na werth economaidd ond mae’n ddarlun cymhleth mewn ffordd, ma na werth llawer mwy yn gymdeithasol, i’r amgylchedd. Sut da ni’n datblygu nhw? Ma hyn yn her yn ei hun, be ma pob cymuned yn wneud yn mynd i fod yn wahanol. Be fedrwn ddim ei wneud, be sy’n gweithio mewn un cymuned, cymryd hyn yn ‘blueprint’ i gymuned arall. Y ‘catchphrase’ ma “Adeiladu o’r gwaelod”, be da ni’n dweud ydy y cymunedau eu hunain sydd hefo’r atebion, da ni ddim mewn sefyllfa lle mae llywodraeth neu ryw academydd yn dweud ‘Dyma di’r ateb i’r gymuned’, da ni ddim yn gallu cymryd y modelau drosodd. Ma na risgiau mawr hefo hyn. ‘Big Local’ er enghraifft, weithiau ma cymunedau angen cymorth sydd ddim yn ariannol i helpu datblygu ei atebion nhw.
Yr Athro Andrew Edwards (Prifysgol Bangor)
Ac i ddilyn i fyny ar hynny, sut da ni’n annog pobl ar lefel lleol i arwain? I cymryd perchnogaeth o’r broblem?
Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor)
Dwi’n ffodus yn fy ngwaith ar hyn o bryd, ma Prifysgol Bangor yn caniatáu i fi deithio o gwmpas Cymru a gweld grwpiau gwahanol. Mae’n anhygoel gweld be ma cymunedau yn ei wneud. Da ni’n gwybod am y caffi neu’r tafarn sy’n cael ei rhedeg yn lleol, ma gen i broblem yn ei galw nhw’n caffi neu tafarn, a ma na cymunedau yn ne Cymru sy’n cymryd drosodd fferm, ma na cymunedau sy’n gwneud llawer hefo egni, y tai da ni wedi trafod yn barod, dwi’n cydweithio hefo’r ‘community-led Science hub’ lawr yn Llanelli. Mae angen i’r cymuned sylweddoli bod nhw’n gallu gwneud unrhywbeth, tydyn nhw ddim yn ‘confined’ i’r syniadau traddodiadol. Mae hefyd angen i llywodraeth ar bob lefel sylweddoli na nid nhw sydd hefo’r atebion, a bod nhw’n rhoi cymorth i cymunedau datblygu syniadau i ddatrys y broblem.
Yr Athro Andrew Edwards (Prifysgol Bangor)
Diolch Ed. Sel gai troi ato ti nesa. Da ni wedi cyfeirio at Cymunedoli yn barod, gen ti lot fawr o brofiad yn y maes yma. Efallai fedri di ychydig mwy am Cymunedoli, a hefyd sut mae Cwmni Bro Ffestiniog yn mynd ati i hybu cydweithio rhwng grwpiau lleol?
Selwyn Williams (Cwmni Bro Ffestiniog)
Diolch Andrew. Dwi’n mynd i wneud be ma gwleidyddion yn gwneud, a peidio ateb y cwestiwn. Dwi’n hen ddyn blin. Dwi’n flin achos dwi’n byw mewn gwlad tlawd dylai fod y gwlad cyfoethocaf yn Ewrop. Ond eto ma’n un o’r gwledydd tlotaf yn Ewrop. Ma treiran o’n plant yn cael eu magu’n tlawd. Gwlad sy’n cynhyrchu llechi, gwlân, haearn, dur, cynnyrch amaethyddol, heddiw twristiaeth. Rhaid i ni deall y cyd-destun ehangach. Fel arall, y peryg ydy da ni mond yn neud pethau yn ein ‘patch’ bach ein hun, a ddim gweld sut mae hyn yn ffitio mewn i gyd-destun ehangach. Dwi newydd dechrau darllen ‘Vulture Capitalism’ gan Grace Blakeley, sy’n rhoi hwn yn y cyd-destun modern. A’r cyd-destun modern yw bod cyfalafiaeth di newid ym Mhrydain yn y cyfnod diweddar, ers diwedd y 70au. Y ddinas rŵan sy’n rhedeg popeth. Cyfalafiaeth a chyllid sy’n rhedeg pob dim, yn enwedig ym Mhrydain. Ond os da ni’n edrych ar yr hyn da ni’n gwneud yn ein cymunedau, er enghraifft ym Mro Ffestiniog, da ni wedi llwyddo i gael pymtheg o fentrau cymunedol i weithio hefo’u gilydd. Da ni ddim yn dweud ‘ymbarel’ yn Ffestiniog, ‘parasol’ da ni’n dweud, a da ni’n son am gyflogi 150 o bobl, ma rhain yn pethau pwysig yn economaidd. Ond ma’r model da ni wedi ei greu yn integredig, hynny ydy ma na elfennau economaidd, amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol, addysgol, yn gweddu at eu gilydd. A dyma di un o’n cryfderau yn yr holl sector cymunedol ma, da ni ddim mewn ‘silos’. Ma llywodraethau yn tueddu i weithio mewn ‘silos’, ma pobl economi ddim yn siarad gyda pobl amgylchedd ac yn y blaen, ond ma gyno ni fanteision felna. Cymunedoli ei hun, rodd y gair ‘cymuned’ ddim yn bodoli yn y Gymraeg tan y 60au. Rodd Mam yn son am rhywun oedd yn ei chymdeithas. Ma’n werth i weld sut mae ‘keywords’ yn cael eu ddadansoddi, ond ma’r gair ‘cymuned’ yn dechrau dod yn bwysig yng Nghymru oherwydd bod Cymru yn cael ychydig o wladwriaeth ei hun. Gair am y gymdeithas lleol sef ‘cymuned’. Cymunedoli, y syniad ydy bod y gymuned yn perchen a rheoli adnoddau. Ac wrth gwneud hynny, pan da chi’n meddwl amdano, ma mond yn digwydd ar raddfa gymharol fach, ond da ni’n dod a pethau at eu gilydd. Yng Ngwynedd da ni wedi creu Cymunedoli Cyf, sef cwmni cydweithredol cymunedol, ac yn cynnwys 46 o fentrau cymunedol o dan yr ymbarél honno. Os fysa hyn yn digwydd fwy ar lefel Cymru, yr allwedd i hynny, iawn da ni’n gwneud pethau o’r gwaelod i fyny, ond da ni angen llywodraeth i’n cefnogi. Ma na gwestiynau sylfaenol da ni angen gofyn yng Nghymru, lle mae’r holl arian datblygu cymunedol yn mynd? Tro dwetha wnes i edrych roedd 80% ohono yn mynd i gwmnïoedd traws-wladol mawr. Petai ni’n meddwl bod arian datblygu cymunedol yn mynd i SMEs i ddechrau, sa’n mynd i’r sector cymunedol, ma’r arian da ni’n eu greu, ma canran uchel ohono yn aros yn lleol, mae mor wahanol i’r ffordd mae arian yn cael ei echdynnu. Sa chi’n cymharu’r ffordd ma twristiaeth cymunedol yn mynd gyda twristiaeth corfforaethol, mae’r incwm yn aros yn lleol, mae’n lluosu yn lleol, sa chi’n edrych ar y cwmnïoedd mawr sy’n mynd a’r hufen yr incwm twristiaeth, ma hynna’n cael ei dynnu o ma. Yn ail-adrodd hanes, a’r rheswm pam mae Cymru yn dlawd. Diolch.
Yr Athro Andrew Edwards (Prifysgol Bangor)
Diolch Sel. Meleri os gai tro ato ti. Ti’n gweithio hefo cymuned sy’n gwynebu lot fawr o heriau, cyflogi pobl, materion amgylcheddol fel Net Zero ac yn y blaen, elli di dweud mwy am dy rôl di yn trio dod a’r ffactorau yma at eu gilydd, yn helpu pobl hefo problemau tanwydd ac yn y blaen
Meleri Davies (Partneriaeth Ogwen)
Ia, dwi ddim yn wleidydd felly byddai ddim yn siarad fel wleidydd, dwi ddim yn academydd chwaith felly wnâi rhannu profiadau fel gweithredwr. Dwi hefo Partneriaeth Ogwen ers deg mlynedd, a dechrau gyda tim bychan iawn, hefo’r bwriad o greu budd cymunedol, a dechrau drwy datblygu un ased ar y Stryd Fawr, a ma hynna jyst di tyfu a tyfu. O ran yr amgylcheddol, ma di bod yn rhan o’n hethos ni o’r cychwyn, bod ni yn datblygwyr cymunedol cynaliadwy. Pan da ni’n defnyddio’r term cynaliadwyedd da ni’n ei ddiffinio yn defnyddio’r pedwar piler, y Gymraeg a diwylliant yn ogystal a’r economi, yr amgylchedd a chymuned. Mae’r pedwar piler yna yn greiddio i’n gweledigaeth, i’n llwybr trawsnewid fel sefydliad a’r ffordd da ni’n cynllunio ein gwaith, ond yn ymarferol ma’n meddwl bod ni’n datblygu ein prosiectau mewn ffordd eitha holistaidd, wrth ddatblygu adeiladau, da ni’n gwneud yn siŵr bod nhw’n ynni effeithiol, da ni’n neud yn siŵr bod na berchnogaeth cymunedol, bod na ynni adnewyddol. Ac o safbwynt ynni adnewyddol y prosiect mwya i ni arwain ar oedd Ynni Ogwen, cynllun hydro cymunedol, a mae o gyfangwbl o dan berchnogaeth y gymuned. Ma gyno ni dros 300 o aelodau. A ma nhw yn cael llog ar eu buddsoddiad yn flynyddol, a mae’r arian yna yn cylchdroi yn lleol. Hefyd yn ystod y cyfnod adeiladu mi wnaethom comisiynu adeiladwyr o Wynedd, i sicrhau bod arian yn aros yn yr economi leol, a fel sector ynni cymunedol ma 70% o’n gwariant yn aros yn lleol, ma hynna yn bwynt pwysig. Ac yr elw, o ran Ynni Ogwen, mae’r arian sy’n cael ei wneud drwy’r prosiect yn aros yn lleol, ma gyno ni elusen Ogwen, sy’n fwrdd o ymddiriedolwyr annibynnol, a ma nhw wedyn yn dosbarthu’r pres i brosiectau bach amgylcheddol, ond ma cyfarwyddwyr Ynni Ogwen hefyd yn defnyddio’r elw i wneud mwy o syniadau solar, ma hwnna yn brosiect da ni’n datblygu ymhellach ar hyn o bryd. Ma Ynni Ogwen newydd brynu bws trydan i’r ysgolion lleol, ma’r arian yna yn cael ei rhaeadru trwy waith Partneriaeth Ogwen, a’r arian yna wedi ariannu swydd warden i ni am gyfnod o flwyddyn, a ma’r gwaith atal tlodi uniongyrchol da ni’n gwneud drwy prosiect Hwb Ogwen, helpu gyda budd-daliadau, dosbarthu taliadau tanwydd, ma Ynni Ogwen wedi chwarae rhan bwysig yn hynna, yn yr ystyr bod arian yn dod yn ôl i ariannu prosiectau cymunedol ac amgylcheddol. Felly dyna ydy’r cylch mewn ffordd, ma’n enghraifft da sut mae creu ased cymunedol, yn adeilad neu adnodd naturiol, sut da ni fel cymuned yn medru perchnogi hynna, ac ymhyfrydu ynddo hefyd, di ddim jyst am yr arian, da ni’n datblygu hyder wrth gwneud y pethau yma, mae o’n ymwneud a’r ymwybyddiaeth amgylcheddol, a hynny yn arwain at datblygu prosiectau fel Dyffryn Gwyrdd, prosiectau cludiant cymunedol, datblygu tri gofod datblygu cymunedol, ma tyfu bwyd yn eithriadol o bwysig, ma ‘food security’ yn thema anferthol bellach, a plethu hynna gydag agweddau amgylcheddol hefyd. Mae’r datblygiadau yn Dyffryn Ogwen yn dal i dyfu a thyfu, a dwi’n teimlo yn falch iawn i fod yn rhan ohono fo.
Yr Athro Andrew Edwards (Prifysgol Bangor)
Diolch Meleri, a ma hynna yn ffitio hefo be wyt ti’n ei wneud Jess hefo People’s Economy, yn trio creu dyfodol mwy cynaliadwy a thecach, ti am dweud mwy am dy amcanion di a dy rôl di er budd hynny?
Jess Silvester (People’s Economy)
Da ni’n cydweithio hefo cymunedau i ail-dychmygu a thrawsnewid yr economi, da ni’n gwneud hynna mewn gwahanol ffyrdd, pethau fel addysg cymunedol, i ail-ddychmygu sut ma’n cysylltu hefo’r economi, a sut da ni’n newid yr economi mewn ffordd mwy lleol. Da ni hefyd yn gweithio ar ffyrdd i wneud penderfyniadau yn fwy lleol ynglŷn a’r economi, a datblygu ffyrdd newydd o weithio sy’n fwy ‘place based’, gyda’r gwreiddiau o fewn cymunedau, yn gwreiddio y gwaelod i fyny a’r top i lawr, fel bod yr economi yn tecach mewn ffordd. Ma’r holl beth yn dod nol i ffyrdd da ni’n byw…gwneud yn siŵr bod ni’n trafod anghenion pobl, a mwy a mwy ar yr ochr yna. A dyna be ydy o, wrth ei wraidd, bod ni’n adeiladau ein cymunedau i fyny, a gweithio ar anghenion pobl. Pobl o fewn cymunedau sy’n ‘best placed’, bod cymunedau hefo’r gweledigaeth i ddatrys problemau eu hunain, a da ni’n tueddu i weithio hefo cymunedau sydd mwy ar ‘sharp edge’ yr economi, neu sydd yn profi anghyfiawnder economaidd, i trio dechrau trawsnewid pethau o’r lle iawn.
Yr Athro Andrew Edwards (Prifysgol Bangor)
Diolch Jess. Grant, o ystyried dy arbenigedd di, sa ni’n edrych ar ynni cymunedol, ynni teg, turbines gwynt sy’n helpu cymunedau hefo problemau lleol, newid hinsawdd, tlodi tanwydd, ti am sôn am hyn, neu gei di anwybyddu’r cwestiwn os tisho!
Grant Peisley (Datblygiadau Egni Gwledig)
Dwi’n hapus i siarad am ynni teg, y gwaith da ni’n gwneud dros Gymru. Be sy’n bwysig i’r maes ynni, sut ma’n dod a pobl i ganol y sgwrs ynni, pan da ni’n son am yr argyfwng hinsawdd, y costau, da ni pobl at galon y gwaith yma, pawb i gymryd rhan a ma hyn yn digwydd trwy ynni cymunedol, yn yr un ffordd a mae’n digwydd trwy tafarn cymunedol neu siop cymunedol. Dod a pobl at eu gilydd, dechrau codi ymwybyddiaeth, y defnydd o’r ynni neu sut maent yn defnyddio adnoddau lleol. Newid ymddygiad pobl, a hyn fel rodd Meleri yn son yn creu fath o ‘catalyst’, pobl yn dod at eu gilydd jyst fel heddiw, pobl yn cysylltu hefo’u gilydd…ma ynni cymunedol wedi mynd o adeiladu un turbine gwynt, a dros Gymru da ni angen pobl i arwain ar brosiectau ynni, da ni wedi buddsoddi ein arian mewn tim o ddatblygwyr sy’n gweithio ar prosiectau eraill, prosiect ynni newydd yn Sir y Fflint, ‘solar farm’ fwya mewn perchnogaeth cymunedol ym Mhrydain, 30 ‘megawatt’ sef ryw 8400 o dai, newydd derbyn caniatâd cynllunio diwedd blwyddyn dwetha…mae hyn yn dangos yr uchelgais sy gyno ni yn maes ynni cymunedol. Ond hefyd mae pethau bach yn mynd ymlaen sydd yr un mor bwysig, fel rodd Mel yn dweud, pobl yn gweithio ar bethau ynni, sut da ni’n torri lawr ar ddefnyddio ynni, sut da ni’n arbed arian, a thynnu tim at eu gilydd ar gyfer ynni teg dros y sector cymunedol yng Nghymru, da ni wedi creu 10% mwy o swyddi yn y blwyddyn dwetha…da ni’n tyfu yn y sector cymunedol, mae’r sector gwyrdd yn tyfu a da ni angen bod yn rhan o hynny, i cadw yr arian i fewn fel roedd Sel yn dweud, a chadw’r budd yn lleol yng Nghymru. Dros 180 o swyddi llawn amser yn y sector ynni cymunedol dros Gymru i gyd. Da ni’n ffeindio rŵan mae grwpiau ynni cymunedol nid yn unig yn uchelgeisiol ond arloesol hefyd, yn gyrru ymlaen hefo gwaith arloesol, sut da ni’n rhoi ynni lleol i pobl lleol, ‘local supply’. Ma grwpiau felma yn reit arloesol, yn dod a jobs i fewn i’r sector, helpu dod a pobl at eu gilydd fel bod ni gallu gwneud mwy, a thrwy hyn sut da ni’n helpu lles pobl lleol.
Yr Athro Andrew Edwards (Prifysgol Bangor)
Diolch Grant. Ma gyno chi fel gynulleidfa well cwestiynau na fi, felly wnâi ofyn i chi gofyn eich gwestiwn yn Gymraeg neu Saesneg, dweud pwy ydych chi. Oes rhywun am ddechrau’r cwestiynau yn y gynulleidfa?
Aelod o’r gynulleidfa
Sylw sydd gen i. Dwi’n nabod tri o’r panel yn dda. Ma be chi’n cyflwyno heddiw yn daith blynyddoedd maith. Mae’n bwysig nodi hyn. Sut ydych chi’n dyblygu eich hunain? Ma llwyddiant eich mentrau yn ddibynnol ar eich statws ‘superhero’ chi, sut i ddyblygu eich hun a’ch brwdfrydedd. Ma be chi wedi cyflawni, on i’n byw yn Dyffryn Ogwen am flynyddoedd a wedi gweld y daith, ma’n syfrdanol. Sylw a cwestiwn.
Meleri Davies (Partneriaeth Ogwen)
Di ddim yn bosib dyblygu, medrwch chi ddim wneud yn union be sy’n digwydd ym Mlaenau, yn Bethesda neu Penygroes, a throsglwyddo hynna i gymuned arall. Da ni’n cael gwahoddiadau i gyflwyno ein gwaith yn gyson dros Gymru, a da ni’n gwneud hyn gan ein bod yn credu yn y weledigaeth, byse Cymunedoli ddim yn bodoli heblaw ein bod yn credu yn yr egwyddor o rannu. Ma na werth ei wneud o safbwynt cynhaliaeth ac ysbrydoli eraill. Pan dwi’n mynd lawr i’r cymoedd, Ynysybwl, Banwen, yn y canolbarth, dwi’n mynd i Blaenau neu Penygroes, dwi’n cael fy ysbrydoli. Dim dyblygu ond atgyfnerthu ein gilydd, ymweld a’n gilydd. Pum mlynedd byse dim diddordeb gan y sector cyhoeddus, felly mae bod yma heddiw yn dipyn bach o brofiad swreal i fod yn onest!
*Problemau sain 56 mun
Grant Peisley (Datblygiadau Egni Gwledig)
Ma’r gwaith yn dod allan o werthoedd….dod a pobl at eu gilydd, be da ni’n gallu gwneud hefo’n gilydd…ma adroddiad sydd newydd dod allan gan y Building Communities Trust, ‘community foundation ownership: a way forward for Wales’…da ni angen mwy o digwyddiadau felma, pobl yn gwybod am perchnogaeth cymunedol…’more networking, increased awareness of successful projects’…da ni angen help i ddatblygu pobl, dangos pobl yng Nghymru be sy’n bosib…da ni’n son am ‘inward investment’ ond ma na lot da ni gallu gwneud ein hunain.
Jess Silvester (People’s Economy)
Wnâi son am brosiect da ni newydd dechrau weithio arno, i trio deall be sy’n gweithio a be sy ddim yn gweithio i lot o’r gwahanol mentrau cymdeithasol, gan gynnwys asedau o dan berchnogaeth cymunedol ar draws Cymru, a lot o fentrau o fan hyn…i ddrilio i lawr i ‘practice’, be sy’n gweithio yn fewnol, datblygu sgiliau a gwybodaeth, y siwrne hir, hir yna, a sut da ni gallu defnyddio hynna a dysgu o hynna i lledaenu a neud hi’n haws i mentrau newydd ar draws Cymru, ond hefyd i ni ddeall be di’r pethau allanol o ran dim jyst polisi a’r math o gefnogaeth a’r math o adnoddau sydd ei hangen, ond be di’r capasiti o fewn er enghraifft Adra, be sydd o gwmpas ni…sut medrwn ni cydweithio i neud yn siŵr bod mentrau cymdeithasol newydd neu y rhai sy’n bodoli yn fwy cysylltiedig hefo’u cymunedau, yn gwasanaethu eu cymunedau, a bod cymunedau yn medru gwneud y penderfyniadau economaidd lleol yna, ond hefyd dod yn fwy cynaliadwy hefyd…bydd na elfen hir ohono, sut da ni’n rhoi pethau mewn i ‘practice’ hefo mentrau cymdeithasol ar gwahanol llefydd ar y siwrne yma…dysgu sut da ni’n gwneud hyn heb eu fod yn ddibynnol ar un neu ddau o bobl hefo’r brwdfrydedd a’r gallu.
Aelod o’r gynulleidfa
Cwestiwn sydd gen i ar gyfer Meleri. Pa effaith ma mentrau cymdeithasol a datblygu cymunedol greiddiol yn gallu cael ar ddatblygiad a chynaliadwyedd y Gymraeg, yn y cadarnleoedd mewn ffordd?
Meleri Davies (Partneriaeth Ogwen)
Ma’r Gymraeg yn gwbl greiddiol i be da ni’n neud, da ni ddim yn menter iaith ond yn anuniongyrchol da ni’n atgyfnerthu’r Gymraeg yn Nyffryn Ogwen. Ma gyno ni polisi iaith cadarn, ma pawb sy’n gweithio i ni yn gorfod siarad Cymraeg neu yn ddysgwyr da, a hynny gan bod dros 70% o’n cymuned yn siarad Cymraeg, er mwyn darparu gwasanaeth gofalgar, cymunedol, ma’n bwysig bod staff yn medru siarad Cymraeg. Ma’r elfen ieithyddol yna yn bwysig, da ni’n lwcus yng Ngwynedd, yn Cymunedoli, ma’r rhwydwaith yn 95% os nad 100% o’r mentrau yn gweinyddu yn y Gymraeg, a ma hynny yn gryfder. Byse’r sefyllfa ieithyddol yn uffernol pe na bai Cyngor Gwynedd yn gweinyddu trwy gyfrwng y Gymraeg, a da ni angen mwy a mwy o sefydliadau yn gwneud hynny er mwyn atgyfnerthu’r iaith. Fel mentrau cymdeithasol da ni’n creu gofodau ieithyddol lle medrir defnyddio’r Gymraeg, da ni’n creu gwaith a chartrefi, ma gyno ni lot o bobl ifanc yn gweithio hefo ni…ma rhai o’r pobl ifanc na yn aros hefo ni, sy’n ffantastig, a ma rhai yn camu mlaen ac yn datblygu’u gyrfa, ma hwnna yn gyfraniad andros o bwysig, rhoi cyd-destun gweithle cyfrwng y Gymraeg, bod yn hyderus a naturiol i siarad Cymraeg, felly ma hynna yn rywbeth sydd angen digwydd mwy.
*Problemau sain 1 awr, 5 mun
Yr Athro Andrew Edwards (Prifysgol Bangor)
Diolch Sêl. Jyst ar hynna, ma Iwan a fi di trafod hyn o’r blaen yn y stafell yma, yr her o cadw pobl yn yr ardal trwy creu swyddi da sy’n talu’n deg, da ni’n gweld llai a llai o myfyrwyr o Gymru yn aros yng Nghymru, ma nhw’n aml yn mynd i Loegr, a ma gyno ni prosiectau fel sydd gan M-SParc i drio denu pobl yn ôl i Gymru ar ôl gwneud eu graddau…Sut gall mentrau fel hyn helpu denu pobl yn ôl, trwy creu swyddi?
Meleri Davies (Partneriaeth Ogwen)
Ma’n bwysig cael mentrau iaith a mentrau cymunedol, y pwynt elfennau yw bod rhai i fentrau iaith fod hefyd yn fentrau cydweithredol, dydy o ddim yn naill ai neu. O ran dy gwestiwn, dwi’n meddwl fod na le ar gyfer lleoliadau gwaith yn mentrau cymdeithasol, dwi’n meddwl bod ni wedi trafod hyn Ed, ma na bobl yn mynd trwy Prifysgol sy’n chwilio am waith, ma angen cynlluniau hefo cyflog, i Jobs Growth Wales, ti angen cyflog o safon, ma angen ariannu rheina hefo mentrau cymdeithasol…ar hyn o bryd ma myfyrwyr ymchwil yn cysylltu hefo ni, ma’n cymryd peth o’n hamser ni i ateb eu cwestiynau doethuriaethau nhw, sydd yn hyfryd ac yn wych, ond dwi’n meddwl bod na gyfle i Brifysgolion creu lleoliadau gwaith cyflogedig.
Grant Peisley (Datblygiadau Egni Gwledig)
Be sy’n dda am mentrau cymdeithasol yw does na ddim set o rheolau. Da ni’n setio ‘terms and conditions’ …os mae pobl am weithio pedwar diwrnod yr wythnos da ni gallu gwneud hynna i ddigwydd…ma Ynni Ogwen, Ynni Teg ayb yn ‘living wage accredited employers’, da ni’n talu lot mwy na’r ‘living wage’…ma’r Loteri isio ni talu pobl eu gwerth
*Problemau sain 1 awr, 10 mun
Jess Silvester (People’s Economy)
Eto, edrych bach yn ehangach, y cyflogau i gadw pobl yma a hefyd i dod a nhw yn ôl, ma mentrau cymdeithasol yn medru cynnig ‘mobility’ a’r adnoddau…cadw ein llyfrgelloedd a gofodau cymunedol i gwasanaethau ieuenctid er enghraifft, ma na gymaint o wahanol bethau fedrwn ni cynnig trwy mentrau cymdeithasol, yn cynnwys swyddi da.
Aelod o’r gynulleidfa
Dwi’n derbyn yn llwyr be ma’r panel yn ei ddweud ar agweddau adnoddau cenedlaethol a throsglwyddo adnoddau i ddwylo cenedlaethol. Yn ymarferol, sut ma’r panel yn gweld hi, be di’r cnewllyn yn hyn o beth, ffeindio angen lleol sydd angen lleoliad i weithredu, ta ffeindio lleoliad lleol, ysgol yn cau, a chwilio am angen i’w ddiwallu? Pa un sydd yn dod gyntaf ac ymarferoldeb y gweithredu i ddiwallu hynny?
Grant Peisley (Datblygiadau Egni Gwledig)
Ma’n bwysig gwrando ar y bobl, be ma nhw isio, be fyse nhw isio datblygu yn y gymuned…cael sgwrs hefo nhw, be sy’n dda yn ein ardal ni…ma i gyd am siarad a gwrando a gweithio ar hynny…gwrando ar be ma nhw isio ac adeiladu ar hynny.
*Problemau sain 1 awr, 15 mun
Yr Athro Andrew Edwards (Prifysgol Bangor)
Diolch Sêl. Cwestiwn arall yn y ffrynt fama.
Aelod o’r gynulleidfa
We started with a place-based action study that identified resident family and children’s needs, and put together this book with Grant and Jess providing input. We came to a series of local solutions, allied to what we call ‘Not NEET projects’, so that the children don’t end up registered as not in education, employment or training. What a wonderful event, I’ve learnt so much today. My question is to Ed, taking what you’re doing and what we’re trying to do and implement local solutions through social enterprise and community ownership, but what it requires is a strong, robust local economy, and how we scale this up and implement a foundational economy so that it can be implemented across Wales. How do we do that? None of this is easy, trying to win hearts and minds is an uphill battle. Take your metaphor, we’ve not yet reached base camp!
Dr Edward Jones (Prifysgol Bangor)
First of all there isn’t a silver bullet. Sel has already mentioned foreign direct investment, and while there are issues with that we have to recognise it’s part of the solution, in the same way as communities across Wales are part of the solution, and what I feel about politicians and policymakers is that they see one answer and believe that’s the be and end all, we have to look at all possible tools that we have. If we look at the Irish economy, I know they have a low tax base and you can say why their economy is booming, but if you actually look at what they do, they have all departments working together, that goes back to Sel’s point about government departments in Wales and UK, that they are silo, but what the Irish do is that all departments work together, so that includes education, FDI, energy and so forth. That’s what we need to see happening here in Wales. Departments working together to ensure that the economy grows, but that it grows for the people of Wales, you don’t grow the economy for growth’s sake, you grow it so that it works for the people of Wales.
Yr Athro Andrew Edwards (Prifysgol Bangor)
Diolch Ed. Mae gen i gwestiwn arall fama.
Aelod o’r gynulleidfa
Diolch i chi am yr ysbrydoliaeth. Angen amlwg sy’n bodoli ar draws Gwynedd yw’r argyfwng tai. Sut da ni’n mynd ati i ddatblygu capasiti ac uchelgais yn y sector cymunedol, i ymateb i’r angen yna…mi wnaeth Grant cyfeirio at y sefyllfa yn Yr Alban, be da chi’n meddwl am yr hawl cymunedol i brynu asedau fel sy’n bodoli yn Yr Alban a sydd wedi trawsnewid y sefyllfa?
Grant Peisley (Datblygiadau Egni Gwledig)
Yn bendant da ni angen ‘community right to buy’, yng Nghymru da ni wedi son amdano am blynyddoedd a blynyddoedd, mae gyno chi cymhariaeth hefo Lloegr gyda’i ‘right to bid’, yr Alban hefo ‘right to buy’ a Chymru hefo dim byd. Ma ‘community right to buy’ yn arwain at mwy o berchnogaeth cymunedol. Ond be sy’n diddorol yw bod Cymru yn gwneud yn well na Lloegr, ma ‘right to bid’ yn werth dim byd…ma ‘right to buy’ yn ofnadwy o bwysig…da ni angen trio perswadio Llywodraeth Cymru i flaenoriaethu hyn.
Meleri Davies (Partneriaeth Ogwen)
Dwi’n meddwl fod gan mentrau cymdeithasol rôl bwysig o ran taclo yr argyfwng tai, ond sgyno ni ddim y cyfalaf, ma hwnna ar goll, ond fel ti’n gwybod ym Methesda ma gyno ni asedau ar y Stryd Fawr, ma na fflatiau a gofod masnachol. Ma hwnna yn gyfle i fentrau cymdeithasol o ran y model ‘place based’. I ni yn Nyffryn Ogwen ma pryniant adeiladau ar y Stryd Fawr yn rhoi cyfle i ni, i greu gofodau masnachol, rhentu allan i fusnesau meicro lleol, ond yn bwyisach y cyfle i greu cartref…cartref a unedau masnachol, byswn yn licio gwneud mwy o hynny…ma na risg anferthol i’r sector, ma grantiau yn gallu ariannu ni rhywfaint o’r daith, ma cynnal swyddi tu hwnt i’r grantiau yn anodd, yn enwedig os da chi’n cynnal swyddi hefo cyflog teg fel rodd Grant yn son am, swyddi da i gadw pobl…ma angen cronfa cyfalaf cymunedol, ma na dipyn o waith ar ‘dormant assets’ ar hyn o bryd, ma isio gwneud yn siŵr bod cymunedau yn gallu cael gafael ar yr arian yna, a hefyd angen cydweithio hefo’r cymdeithasau tai, does dim rhaid i Adra berchen ar bob datblygiad…ma perchnogaeth yn bosib hefo mentrau cymdeithasol…a gwneud yn siŵr bod yr adeiladau a chartrefi yma yn ynni effeithiol ac yn helpu pobl sydd mewn tlodi tanwydd, a bod na perchnogaeth cymunedol ar rheini hefyd.
Aelod o’r gynulleidfa
Dwi’n gwneud tipyn o waith yn ardal Dinas Mawddwy…dwi’n ddiolchgar iawn am y sylw ar dai, sut ma’r gymuned yn gallu edrych ar ôl tai, dwi’n gweithio ar y gronfa perchnogaeth cymunedol neu’r ‘community ownership fund’…ma’r grant yma yn mynd i gymunedau sy’n cyd-fynd hefo’r canllawiau, o ran sut maent yn dosbarthu’r arian…sut ma cynnal ein cymunedau heb y grantiau yma, heb y gefnogaeth yma, ma angen i Brifysgolion a’r IWA rhoi mwy o bwysau ar lywodraethau yng Nghaerdydd a San Steffan i ystyried sut ma nhw’n mynd i gefnogi cymunedau. Dydy’r gronfa ddim yn cefnogi datblygiadau tai, dim ond sut i gynnal cymunedau, cynnal asedau, ma na botensial i dynnu arian i lawr…ond ma’r gronfa yma, miliynau yn dod i ben yr haf yma, rodd i fod i bara tan mis Mawrth blwyddyn nesa, ond does dim pres ar ôl, sut da ni’n rhagweld y dyfodol…i gynnal ein cymunedau, cynnal ein asedau ar gyfer y dyfodol?
*Problemau sain 1 awr, 27-32 mun
Grant Peisley (Datblygiadau Egni Gwledig)
…Ma bob punt sy’n cael ei wario ar waith cymunedol yn dod a naw punt o fudd yn ôl i fewn i’r gymuned…yn yr Alban, ma tyrbeini gwynt sy’n cael ei berchen gan y cymuned yn creu tri deg pedwar gwaith mwy o fudd economaidd i’r gymuned na ‘private ownership’…ma ‘solar hydro schemes’ fel Ynni Ogwen yn creu un deg dau waith mwy o fudd yn lleol na ‘private schemes’…ma cyfalaf yn bodoli, ond o ran cyfalaf ma rhaid cwestiynu lle ma’n dod o.
Jess Silvester (People’s Economy)
Sut da ni’n cynnal asedau o dan perchnogaeth cymunedol…Rhaid i ni feddwl am y cyd-destun ehangach, lot o gwasanaethau ma cymunedau yn gwerthfawrogi yn cael ei dynnu gan ‘local authorities’, gan ‘local government’, a’r pwysau ariannol sydd ar rheini…ma na rywfaint o elfen gyfrifoldeb ar y pethau yma, yn mynd ar y gymuned i gymryd nhw drosodd a gwneud yn sicr bod nhw’n gallu parhau, a jyst i adnabod bod y cyfleoedd o fewn cymunedau yn gwahanol iawn, iawn o ran sut i neud hynna…cyfle i feddwl yn ehangach eto na jyst yr asedau ‘tangible’, i pethau fel twristiaeth, be di’r cyfleoedd ehangach, dod a’r elfen dychymyg i fewn iddo.
Meleri Davies (Partneriaeth Ogwen)
Diolch am y cwestiwn, ma’n gwestiwn pwysig. Ma lot o fentrau cymdeithasol yng Ngwynedd yn dangos arloesedd, da ni’n dod i fyny hefo ffrydiau incwm newydd trwy’r adeg, da ni’n meddwl am ffyrdd o atgyfnerthu’r sector, ar hyn o bryd ma gyno ni fentor farchnata, fentor cyllid cymunedol, sy’n helpu busnesau bach eraill yn lleol, ond hefyd ma’r rhent da ni’n cael ar adeiladau yn rhan mawr o’n cynllun busnes ni, yn helpu ni fod yn fenter cymdeithasol, da ni dal wastad angen grantiau, ond dwi isio dod yn ôl at y pwynt roedd Sêl yn ei wneud, da ni’n cael briwsion wrth ddatblygu asedau, ma’r llafur cariad sy’n mynd i fewn i ddatblygu’r adeiladau yma yn anferth, a ma’n pryderu fi…ma’n ngalon i yn gwaedu dros yr holl wirfoddolwyr ma mewn cymunedau, sy’n mynd i gorfod cario’r adeiladau yma am ddegawdau, dwi’n wirioneddol am weld nhw’n llwyddo, ond dylsai llywodraethau ariannu rheini yn deg, os ma nhw’n medru rhoi wyth miliwn i Surf Snowdonia yna medrith nhw rhoi yr un gyfalaf i fentrau cymdeithasol, sy’n gwneud gymaint o wahaniaeth ar lawr gwlad.
Aelod o’r gynulleidfa
Ma dyfodol y sector yma, dyfodol ein cymunedau, yn dibynnu ar cannoedd o filoedd o bobl sydd ddim yn y stafell yma. Be ma’r panel yn meddwl am safon y cefnogaeth sydd ar gael, cefnogaeth ymarferol i bobl, i rheini sydd am dechrau mentrau cymdeithasol? Be da chi’n meddwl am safon y cymorth yna?
*Problemau sain 1 awr, 37 mun
Selwyn Williams (Cwmni Bro Ffestiniog)
Ma na rhwydweithiau, dwi’n meddwl bod rhai yn y de wedi dod at eu gilydd.
Yr Athro Andrew Edwards (Prifysgol Bangor)
Ma gyno ni amser am un cwestiwn arall.
Aelod o’r gynulleidfa
Be sy’n helpu i sbarduno pobl i fynd am fentrau cymunedol? Cymrwch chi y dafarn leol…ma’r help i godi’r pres, cawsom fil o bobl i fuddsoddi ym menter Tŷ’n Llan, hanner ohonynt yn cymryd maintais o gynllun arbed treth…dwi ddim yn gwybod faint oedd hyn yn sbarduno pobl i wneud…siec yn dod yn ôl, tri deg y cant o’r hyn ron nhw wedi buddsoddi…mae’r cynllun yma wedi dod i ben, mae rhai ohonom wedi gofyn llywodraeth pam mae hyn wedi dod i ben, yr awgrym oedd nid yw’n digon bwysig, dim digon o cymunedau yn cymryd mantais ohono…y gallu i gynnal y mentrau yma yn y tymor hir yn allweddol…ma’r ymdrech yn sylweddol, ma’n fawr…rhaid i’r cynllun busnes weithio….weithiau dwi’n teimlo bod rhywun fel Tim Martin o Wetherspoons yn dweud mwy o wirionedd am fentrau fel Tŷ’n Llan na rhywun yn y sector cymunedol…be fyse’n helpu llefydd fel Tŷ’n Llan byse gostyngiad trethu busnes…sut da ni’n sicrhau bod cefnogaeth ar gael, bod na gyllid ar ôl?
Meleri Davies (Partneriaeth Ogwen)
Ar y pwynt o lobio, dylanwadu ar benderfyniadau San Steffan a Llywodraeth Cymru, wnes di son am gostyngiad trethu busnes a treth ar werth, ma ynni hefyd yn y categori yna, a’r gallu i cyflenwi ynni adnewyddol lleol i helpu sefydlogi costau ynni adeiladau yn eithriadol o bwysig…o ran Ynni Ogwen, ehangu ein cynllun adeiladu, gosod paneli solar ar adeiladau cymunedol, helpu busnesau lleol i helpu nhw hefo costau ynni. Dyna di’r pwynt, mae o mor ansefydlog, wrth i ni ddatblygu Ynni Ogwen, nath y ‘feeding’ tariff hanneru jyst dros nos. Dyna’r ansefydlogrwydd sy’n digwydd pan da chi ddim yn rheoli ynni yng ngwlad eich hun, i fod yn berffaith onest. Felly mae lobio yn andros o bwysig, i raddau dyna pam mae cydweithredu, dod yn ôl i bwynt Sêl, a chydweithio yn andros o bwysig, achos da chi’n creu llais, ma Cymunedoli rŵan yn lais dros y sector a gobeithio yn dylanwadu ar wleidyddion. Da ni’n lwcus yn Arfon, ma gyno ni gwleidyddion sydd yn gwrando, dwi’n teimlo.
Yr Athro Andrew Edwards (Prifysgol Bangor)
Diolch yn fawr i’r panel.
Aelod o’r gynulleidfa
Un pwynt ynglŷn a lobio. Ma gweision sifil yn greiddiol ar gyfer polisïau, a ma angen ffeindio y bobl iawn. Bues i mewn digwyddiad diddorol arlein gan y Brifysgol hefo Prifysgolion eraill a gweision sifil, a ron nhw yn gweiddi allan am gyngor. Ma Gweinidog yn gofyn am rhywbeth, a ma nhw gorfod ffeindio’r ateb, fel arfer mynd at bobl yng Nghaerdydd…Ma na sgôp fan hyn i gael ffrwd o waith o’r Brifysgol i adnabod y bobl ma, ac i weithio hefo’r sector er mwyn ffeindio’r bobl sy’n mynd i wrando, nid jyst gwrando ond hefyd cael clust y Gweinidog cywir
Yr Athro Andrew Edwards (Prifysgol Bangor)
Diolch. Ar hynny, gai ddiolch i’r panel, bysem yn medru aros ma am awr arall yn trafod, diolch i chi fel cynulleidfa am gefnogi sesiwn bore ma, ma’n hollbwysig ein bod ni’n dod at ein gilydd i drafod y pethau ma. Diolch i Tŷ Gwyrddfai am gynnal y digwyddiad ma, ma’n braf bod allan ma yn y gymuned, ac hefyd i’r IWA, Tim Cenhadaeth Ddinesig y Brifysgol, i sicrhau bod bore ma yn llwyddiant. O ran y Brifysgol, plîs cadwch mewn cysylltiad. Os da chi am weithio gyda ni ar y Bwrdd Cymunedol, da ni wastad yn chwilio allan am aelodau newydd…Sut medrwn ni fel sefydliad gweithio hefo chi…Diolch i bawb. Diolch yn fawr.